Part of the debate – Senedd Cymru am 7:11 pm ar 17 Medi 2019.
Mae Plaid Cymru yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil plant (Cymru) sydd gerbron heddiw, ac, fel aelod o'r pwyllgor plant a phobl ifanc, dwi wedi cael llawer iawn o gyfleon i wrando yn ofalus ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn cyflwyno Bil o'r math. Dwi wedi cael fy argyhoeddi yn llwyr mai dim ond daioni a ddaw i blant Cymru yn sgil y newid bychan yma i ddeddfwriaeth. Felly, yn sicr mi ddylid caniatáu i'r Bil symud ymlaen i gyfnod nesaf proses ddeddfwriaethol y Cynulliad.
Mae dadl gref y bydd y Bil hwn yn lleihau'r risg o niwed posibl i blant a phobl ifanc. Law yn llaw â chyflwyno'r Bil mae'n rhaid gwneud llawer mwy i helpu teuluoedd efo'r heriau anochel sy'n wynebu ni i gyd wrth fagu plant, ac mae Cadeirydd y pwyllgor plant a phobl ifanc wedi sôn am bwysigrwydd ehangu'r cymorth hwnnw, ac edrychwn ymlaen at weld beth fydd canlyniadau'r ymarferion mapio, ac, yn bwysicach, i weld beth fydd y camau i'w cymryd yn sgil hynny.
Yn sydyn iawn, pam ddylai'r gyfraith newid? Wel, mae yna nifer o resymau da iawn dros greu'r newid yma. Mi ddylai plant gael amddiffyniad cydradd i oedolion yn erbyn trais, a hynny drwy gyfraith. Dydy cosb resymol ddim yn cael ei derbyn fel amddiffyniad ar gyfer achos o ymosod cyffredin pan fydd y dioddefwr dros 16 oed, felly pam yn y byd bod angen un rheol i blant o dan 16 oed a rheol arall i bawb arall?
Yn ôl erthygl 19 o gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn, mae'n rhaid cymryd pob cam posib i amddiffyn plant tra eu bod nhw yng ngofal eu rhieni neu bersonau eraill. Mae Cymru wedi mabwysiadu'r confensiwn hwnnw fel sylfaen creu polisi dros blant a phobl ifanc yng Nghymru, a hynny nôl yn 2004. Felly, mae'n ddyletswydd, byddwn i'n dadlau, o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, i newid y gyfraith.
Mae cael gwared â'r amddiffyniad cosb resymol yn newid bychan iawn i'r gyfraith, ac fe fydd yn effeithio ar nifer bychan iawn o bobl. Mi fydd canllawiau dedfrydu erlyniaeth y Goron—fydd ddim yn rhaid i'r rheini newid, achos mi glywsom ni yn y pwyllgor mi fydd angen penderfynu ym mhob achos os yw erlyniaeth o fudd i'r cyhoedd ac o fudd i'r plentyn.
Roedd adolygiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i effeithlonrwydd Deddf Plant 2004 wedi darganfod bod yna ddiffyg dealltwriaeth o'r gyfraith bresennol, a bod nifer yn meddwl bod adran 58 yn caniatáu cosb ffisegol. Mae ymarferwyr fel gweithwyr cymdeithasol sydd eisiau cynghori rhieni i beidio â tharo eu plant yn ei gweld hi'n anodd gwneud hynny oherwydd y safbwynt cyfreithiol. Felly, mi fyddai dileu'r amffddiffyniad yma yn gwneud eu gwaith nhw gymaint yn haws ac mi fyddai'r sefyllfa yn llawer mwy eglur i bawb.
Am yr holl resymau yna, felly, dwi'n falch o gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil yma, a dwi'n diolch i Julie Morgan am ei gwaith manwl a'i dyfalbarhad efo hwn.