Part of the debate – Senedd Cymru am 7:45 pm ar 17 Medi 2019.
Mae gwahaniaeth enfawr, ac, fel rhiant, rwy'n gwybod hynny'n dda iawn.
Nawr, mewn gwirionedd, y rhai sy'n ei alw'n drosedd sydd mewn perygl o gam-drin plant. Mae'r gyfraith, fel y mae hi ar hyn o bryd, yn gam diogelu digonol rhag cam-drin corfforol afresymol. Byddai plant sy'n dioddef cam-drin go iawn yn wynebu mwy o risg oherwydd bod yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu llethu gan adroddiadau amherthnasol ac mae'n drueni mawr y caniateir i leiafrif uchel eu cloch ddylanwadu ar hyn.