Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:52, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rydych chi wedi bod yn ffraeo ynghylch yr arian sydd ar gael i'r comisiwn hwn mewn gwirionedd, oherwydd ar 12 Gorffennaf dywedasoch mai'r Arglwydd Burns sydd â'r hawliad cyntaf ar y £1 biliwn hwnnw i gyd, ond bum niwrnod yn ddiweddarach, dywedodd eich Gweinidog yr economi dydyn ni ddim yn mynd i fod yn gwahodd y comisiwn i wario £1 biliwn.

Felly, fel Llywodraeth, Prif Weinidog, rydych chi mewn anhrefn llwyr o ran y mater hwn. Pwy sy'n iawn? Chi ynteu eich Gweinidog yr economi?

Nawr, maes arall lle'r oedd eich Llywodraeth eisiau gweld gweithredu ar unwaith yw ar argyfwng y newid yn yr hinsawdd. Hyd yma, rydych chi wedi methu â chyflwyno cynigion uniongyrchol sylweddol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mwy o'r un fath yw'r hyn a gyhoeddwyd er ein bod ni'n gwybod mai nad mwy o'r un fath sydd ei angen arnom ni nawr, ond syniadau arloesol i leihau ein niwed i'r blaned.

Nawr, ni fydd y £30 miliwn ar gyfer teithio llesol yn gwneud unrhyw beth i helpu os bydd y trenau a'r bysiau ledled Cymru wedi eu hoedi'n gyson, yn llawn i'r ymylon, ac yn golygu na fydd gan bobl ddiddordeb mewn teithio, yn hytrach na'u hannog i deithio. Mae'r ffigurau diweddaraf ar deithiau bws yn dangos bod 20 miliwn yn llai o deithiau bws yn cael eu gwneud yng Nghymru. Pa syniadau radical oedd gan eich Llywodraeth mewn golwg pan ddatganodd yr argyfwng hinsawdd, a phryd y byddwch chi'n eu cyflwyno? Oherwydd mae gwledydd eraill wedi gwahardd plastigau untro, er enghraifft, ac eto'r cwbl y gall eich Llywodraeth chi ei ddweud yw ei bod wedi ymrwymo i waharddiad. Pryd y gwnaiff eich Llywodraeth, Prif Weinidog, gyflwyno gwaharddiad a rhoi'r gorau i'w ystyried yn unig?