Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 17 Medi 2019.
Rwyf i wedi cyflwyno safbwynt Plaid Lafur Cymru, Llywydd, ac fe'i cyflwynaf eto. Rwyf i wedi ei gyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan fy mod i'n gyfrifol am safbwynt Plaid Lafur Cymru. Mewn etholiad cyffredinol, bydd y safbwynt yma yng Nghymru yn eglur: mae Plaid Lafur Cymru yn credu y bydd ein dyfodol yn cael ei sicrhau'n well y tu mewn i'r Deyrnas Unedig a byddwn yn dweud hynny'n eglur ac yn groyw. Byddwch chi'n dadlau dros dynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig a byddwn ni'n dadlau y dylai Cymru aros mewn Teyrnas Unedig sy'n aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r ddau beth hynny'n iawn i Gymru. Dim ond y Blaid Lafur fydd yn dadlau drostynt ill dau ac edrychaf ymlaen at y cyfle i wneud yn union hynny.