Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 17 Medi 2019.
Felly, rydych chi'n glynu wrth eich penderfyniad. Rydych chi newydd ddweud nawr ei fod yn ymwneud â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd ond ni ddywedasoch chi ddim am hynny yn eich hysbysiad am y penderfyniad, wnaethoch chi? [Torri ar draws.] Roedd yr hysbysiad am y penderfyniad yn sôn am yr amgylchedd a gwastatir Gwent; nid oedd yn sôn am y newid yn yr hinsawdd. [Torri ar draws.]