Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 17 Medi 2019.
Mae'r cynllun presennol wedi dod i ben, wrth gwrs, ac mae yna oblygiadau i hynny. Yn gam neu yn gymwys, mae'r cynllun nofio am ddim wedi dod yn rhan allweddol o sut mae llywodraeth leol yn talu am eu gwasanaethau hamdden oherwydd y toriadau anghynaliadwy sydd wedi bod mewn cyllid. Rŵan, mae cyllid nofio am ddim Ynys Môn, er enghraifft, yn cael ei dorri yn ei hanner gan y penderfyniad i ddiwygio, a fydd y cyngor, yn syml iawn, ddim yn gallu fforddio llenwi'r gap o £30,000—mae ryw 20,000 o bobl y flwyddyn sy'n manteisio ar hwn. Mae'r ffigur yn mynd i fynd lawr.
Rŵan, yn gyntaf, mae'n rhaid inni gael ymrwymiad o gyllid ychwanegol go iawn i gynghorau yn y flwyddyn nesaf, ond, ar y mater penodol yma, o ystyried gwerth ataliol nofio am ddim yn gwella iechyd heddiw, yn taclo gordewdra heddiw, er mwyn atal afiechydon ac arbed arian i'r NHS yfory, a wnaiff y Prif Weinidog gyfaddef bod diwygio y cynllun yma a thorri'r gyllideb gymaint yn siŵr o arwain at ostyngiad yn nifer y defnyddwyr, ac felly yn groes i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?