Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 17 Medi 2019.
Ddwywaith y mae eich Llywodraeth chi yng Nghymru wedi ymuno ag unigolyn—Gina Miller—i herio gweithredoedd Llywodraeth y DU. Yn fwyaf diweddar, rydych chi wedi ymyrryd mewn achosion cyfreithiol yn yr Uchel Lys, gan gefnogi'r achos cyfreithiol yn erbyn cyngor y Prif Weinidog i'r Frenhines addoedi'r Senedd. Roeddech chi'n honni nad oeddech chi wedi gwneud yr ymyriad yn ddifeddwl ac fe wnaethoch chi ddweud:
Fel swyddog y gyfraith, mae gennyf ddyletswydd i gynnal rheolaeth y gyfraith a'r cyfansoddiad.
Er fy mod yn sylweddoli bod y mater gerbron y Goruchaf Lys ar hyn o bryd, daeth yr Uchel Lys i'r casgliad nad oedd modd herio penderfyniad y Prif Weinidog. Felly, a wnewch chi ddatgelu i'r Siambr hon faint o arian ein trethdalwyr sydd wedi'i wario gan Lywodraeth Cymru yn eich ymdrechion i danseilio ffynhonnell ein sofraniaeth ddemocrataidd?