2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru ar 17 Medi 2019.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gais diweddar Llywodraeth Cymru i'r Uchel Lys i ymyrryd mewn camau cyfreithiol yng nghyswllt addoediad? OAQ54312
3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn achos addoediad yr Uchel Lys, cyn apêl y Goruchaf Lys? OAQ54308
Llywydd, rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1 a 3 gael eu grwpio. Cyfeiriaf yr Aelodau at y datganiadau ysgrifenedig a gyhoeddais ddoe ac ar 2 Medi. Ymyrrais i yn yr achos gan ei bod yn briodol, yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny er mwyn diogelu buddiannau Cymru a'r Cynulliad hwn.
Ddwywaith y mae eich Llywodraeth chi yng Nghymru wedi ymuno ag unigolyn—Gina Miller—i herio gweithredoedd Llywodraeth y DU. Yn fwyaf diweddar, rydych chi wedi ymyrryd mewn achosion cyfreithiol yn yr Uchel Lys, gan gefnogi'r achos cyfreithiol yn erbyn cyngor y Prif Weinidog i'r Frenhines addoedi'r Senedd. Roeddech chi'n honni nad oeddech chi wedi gwneud yr ymyriad yn ddifeddwl ac fe wnaethoch chi ddweud:
Fel swyddog y gyfraith, mae gennyf ddyletswydd i gynnal rheolaeth y gyfraith a'r cyfansoddiad.
Er fy mod yn sylweddoli bod y mater gerbron y Goruchaf Lys ar hyn o bryd, daeth yr Uchel Lys i'r casgliad nad oedd modd herio penderfyniad y Prif Weinidog. Felly, a wnewch chi ddatgelu i'r Siambr hon faint o arian ein trethdalwyr sydd wedi'i wario gan Lywodraeth Cymru yn eich ymdrechion i danseilio ffynhonnell ein sofraniaeth ddemocrataidd?
Wel, rwyf yn credu bod yr Aelod yn camddeall y sefyllfa yn sylfaenol. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymuno â neb. Fel swyddog y gyfraith, rwyf wedi ymyrryd yn y trafodion hyn, ac rwyf wedi cael caniatâd i wneud hynny gan—
Faint gostiodd hynny?
—yr Uchel Lys a'r Goruchaf Lys. Efallai bod yr Aelod yn cofio y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru ymyrryd mewn achos Miller roedd y Goruchaf Lys o blaid Miller, oherwydd deallodd y Goruchaf Lys fod gweithredoedd Llywodraeth y DU wedi'u cynllunio i wthio'r Senedd i'r cyrion. Yr amgylchiadau hynny yw'r un amgylchiadau yr ydym ni yn eu hwynebu heddiw, a Phrif Weinidog newydd sy'n ceisio gwthio'r Senedd i'r cyrion ar yr union adeg pan ddylai'r Senedd fod yn eistedd i graffu ar ei weithredoedd a gweithredoedd y Llywodraeth, a hefyd i basio deddfwriaeth i atal trychineb Brexit 'dim cytundeb'. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am ymyrryd ar ran y Cynulliad hwn. Ac mae'r Aelodau yma wedi eistedd a dadlau ac ystyried deddfwriaeth a gofyn i'r Senedd ddeddfu ar ein rhan er mwyn sicrhau bod y llyfr statud deddfwriaethol mor ddidrafferth â phosibl ar ôl Brexit.
Faint?
A gwrthodwyd y cyfle hwnnw i'r Senedd eistedd ac ystyried y ddeddfwriaeth honno gan yr addoediad. Felly, nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am sefyll dros hawliau'r Cynulliad hwn.
Mae hi'n gweiddi cwestiwn am gostau oddi ar ei heistedd. Costau ymyrryd yng nghyfnod yr Uchel Lys oedd £8,937.91 yn ogystal â TAW—gydag ymddiheuriadau i Mark Reckless am y cwestiwn y bydd yn ei ofyn i mi yn nes ymlaen.
Canfu Llys Sesiwn yr Alban fod Boris Johnson wedi camarwain y Frenhines ynglŷn â'i resymau dros eisiau i'r Senedd gael ei haddoedi. Dywedodd y Prif Weinidog mai er mwyn cyflwyno Araith y Frenhines oedd hynny, ond gwnaethpwyd hi'n glir gan y dyfarniad fod tystiolaeth ddogfennol i'r perwyl mai'r gwir reswm oedd rhwystro gwaith craffu seneddol ar y Weithrediaeth. Nid oedd yr Uchel Lys yn Lloegr yn gwrth-ddweud hyn, felly nid oes dadl ynghylch a oedd Boris Johnson yn dweud celwydd wrth y Frenhines a phawb arall am wir natur ei resymau dros addoedi'r Senedd—fe wnaeth hynny. Roedd y pwynt lle'r oedd barn yr Uchel Lys yn amrywio o Lys y Sesiwn yn ymwneud â pha un a oedd dweud celwydd am y rhesymau y tu ôl i'r addoediad yn gyfiawn ai peidio—hynny yw, a yw'n fater cyfreithiol neu wleidyddol. A yw'r Cwnsler Cyffredinol mewn sefyllfa i esbonio ei sail gyfreithiol dros gredu bod hwn yn fater y gellir ei farnu, os yw'r Goruchaf Lys yn dyfarnu o'i blaid, y bydd, yn yr achos hwn, dyfarniad bod addoediad yn anghyfreithlon yn bosibl ei orfodi? Rwy'n gofyn oherwydd y briffiau gan Rhif 10 y gallen nhw geisio addoedi'r Senedd am yr eildro, beth bynnag.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae hi'n iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y ffaith bod Llys Sesiwn yr Alban wedi dod i'r casgliad, mai beth bynnag oedd y rhesymau a roddodd y Prif Weinidog i'r cyhoedd am geisio'r addoediad, y gwir reswm oedd rhwystro, yn eu geiriau nhw, ystyriaeth y Senedd, a daethant i'r casgliad bod hynny'n annerbyniol yn gyfansoddiadol ac yn anghyfreithlon. Mae hi'n iawn i ddweud, o ran yr Uchel Lys a Llys Sesiwn yr Alban, mai'r cwestiwn o farnadwyedd oedd wrth wraidd eu hystyriaethau. Bydd y cyflwyniadau a wneir ar fy rhan yn y Goruchaf Lys yn dweud bod y llys adrannol—yr Uchel Lys—yn anghywir yn ei gasgliad, a bod Llys y Sesiwn yn gywir, yn y ffordd y mae'r ddau lys yn ymdrin â chwestiwn cyfiawnder, h.y. ni ddylid cymryd camau gweithredol ac eithrio yn unol â safonau cyfraith gyhoeddus, a phan fo pwnc gwleidyddol yn sail ataliaeth farnwrol, nid yw'n sail imiwnedd gweithredol, a dyna rai o'r cyflwyniadau a fydd yn cael eu gwneud ar fy rhan yn y Goruchaf Lys yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Ynghylch y cwestiwn o gasgliadau'r Goruchaf Lys, dywedaf yn glir yn awr y bydd y Llywodraeth hon yn cadw at beth bynnag yw casgliad y Goruchaf Lys, fel y byddai unrhyw Lywodraeth sy'n deilwng o'r enw, a gobeithiaf y bydd y Prif Weinidog yn sylweddoli bod yr osgoi a ddangosodd ar y cwestiwn hwnnw, ar ôl ystyried, yn amhriodol, ac y bydd ef yn gweithredu yn unol â chanlyniad dyfarniad y Goruchaf Lys, cyn gynted ag y'i rhoddir.