Camau Cyfreithiol Yng Nghyswllt Addoediad

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:36, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

—yr Uchel Lys a'r Goruchaf Lys. Efallai bod yr Aelod yn cofio y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru ymyrryd mewn achos Miller roedd y Goruchaf Lys o blaid Miller, oherwydd deallodd y Goruchaf Lys fod gweithredoedd Llywodraeth y DU wedi'u cynllunio i wthio'r Senedd i'r cyrion. Yr amgylchiadau hynny yw'r un amgylchiadau yr ydym ni yn eu hwynebu heddiw, a Phrif Weinidog newydd sy'n ceisio gwthio'r Senedd i'r cyrion ar yr union adeg pan ddylai'r Senedd fod yn eistedd i graffu ar ei weithredoedd a gweithredoedd y Llywodraeth, a hefyd i basio deddfwriaeth i atal trychineb Brexit 'dim cytundeb'. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am ymyrryd ar ran y Cynulliad hwn. Ac mae'r Aelodau yma wedi eistedd a dadlau ac ystyried deddfwriaeth a gofyn i'r Senedd ddeddfu ar ein rhan er mwyn sicrhau bod y llyfr statud deddfwriaethol mor ddidrafferth â phosibl ar ôl Brexit.