Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 17 Medi 2019.
Diolch. Fis diwethaf, cawsoch y pleser, fel y cefais innau a llawer yma, o ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Nawr, er gwaethaf y ffaith bod yr Ysgrifennydd Gwladol, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, wedi gweithio'n galed i gyflawni setliad datganoli clir a sefydlog, fe wnaethoch chi gwyno cryn dipyn. A dweud y gwir, fe wnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu,
Mae'n amlwg bod angen i agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli newid yn sylfaenol. Ar hyn o bryd, ymddengys bod ganddi amwysedd dwys ynghylch datganoli o hyd. Neu'n waeth, yr agwedd y bydd Llywodraeth y DU, yn garedig iawn, os byddwn ni'n ymddwyn yn dda, yn caniatáu rhyw bwerau cyfyngedig o hunanlywodraeth i ni. Y math o ddatganoli "rhaid i chi dderbyn yr hyn a gewch".
Nawr, er ichi nodi mai eich blaenoriaeth chi yw aros a diwygio o fewn undeb y Deyrnas Unedig, fy nghwestiwn i chi yw a yw'n wir na fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon â datganoli hyd nes y bydd yr undeb hwn yn chwalu.