Dyfodol Pwerau Datganoledig yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:46, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Aelod am dynnu sylw at fy araith yn yr Eisteddfod? Credaf y byddai wedi bod â chynulleidfa ychydig yn llai nag y mae hi bellach wedi'i rhoi iddo. Felly, rwy'n diolch iddi am hynny. Mae hi'n sôn am ymdrechion Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni setliad sefydlog ar gyfer datganoli. Mae arnaf ofn fy mod i'n ei weld ychydig yn wahanol iddi hi, ac rwy'n cymryd, er enghraifft, y drafodaeth a grybwyllodd y Prif Weinidog yn gynharach ar y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n fater a ddylai gael ei ddatganoli'n llwyr i Gymru, ac nid yw ef wedi cefnogi'r safbwynt hwnnw yn fy nhrafodaethau i ag ef. Rydym ni wedi galw ar sawl achlysur am ymgysylltu llawn ar y cwestiwn o gyllid rhanbarthol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac nid yw hynny wedi'i dderbyn. Mae hynny'n un o lawer iawn o enghreifftiau, lle mae'r setliad datganoli presennol yn ddiffygiol a lle mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i setliad datganoli sefydlog yn ddiffygiol.

Mae'n sôn yn ei chwestiwn i gloi am chwalu'r undeb fel pe byddai hynny'n rhywbeth y byddem ni'n ei argymell. Gadewch imi fod yn gwbl glir wrth yr Aelod mai'r bobl sydd wrthi'n dinistrio cyfansoddiad Prydain yw pobl fel y Blaid Brexit a phobl fel hi sy'n dadlau dros y math o Brexit caled 'dim cytundeb' sy'n creu risg ddifrifol iawn o rwygo'r DU ar wahân.