Gostyngiadau mewn Allyriadau Cerbydau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:41, 17 Medi 2019

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Fel dŷch wedi ei ddweud, yn amlwg mae yna ystod o opsiynau deddfwriaethol ar gael i Lywodraeth Cymru wrth ddilyn yr agenda yma. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar 15 Gorffennaf, wedi cyhoeddi eu bwriad i gyflwyno deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i osod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ym mhob tŷ newydd yn Lloegr, fel rhan o'r ymdrechion i leihau allyriadau erbyn 2050. Mae'r cynlluniau yn cynnwys newid rheoliadau adeiladau ar gyfer adeiladau preswyl newydd i gyflwyno gofynion ar gyfer pwyntiau gweithredu gwefrau cerbydau trydan a hefyd gofynion ar gyfer seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn adeiladau di-breswyl. Felly, pa drafodaeth—pa drafodaethau yn wir—ydych chi wedi bod yn eu cael o fewn Llywodraeth Cymru ar y llwybr cyfreithiol gorau i sicrhau canlyniadau tebyg yma yng Nghymru?