Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 17 Medi 2019.
Wel, wnaf i ddim ymhelaethu ar unrhyw drafodaethau cyfreithiol am y rhesymau bydd yr Aelod yn deall yn iawn, rwy'n credu. Ond mae'r cwestiwn am y camau gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau economi a chymdeithas carbon isel wastad yn destun trafodaeth fyw iawn ymhlith Aelodau'r Llywodraeth. Gwnaf i gyfeirio'r Aelod at y ddogfen bolisi, 'Prosperity for All: A Low Carbon Wales', sy'n disgrifio mewn manylder yr ystod eang o gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ar hyn o bryd, a'r camau mae'r Llywodraeth yn bwriadu edrych arnyn nhw yn y dyfodol ynglŷn â'r maes hwn a meysydd perthnasol eraill.