Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 17 Medi 2019.
Onid yw'n rhan bwysig o reolaeth y gyfraith y dylai Prif Weinidog Cymru dderbyn penderfyniadau llysoedd o fewn ein hawdurdodaeth? Ac, yn dilyn penderfyniad y llys adrannol yn Llundain, o fewn awdurdodaeth Cymru a Lloegr, bod y penderfyniad i addoedi yn gyfreithlon, a yw'n briodol i'r Prif Weinidog ddisgrifio'r penderfyniad fel un anghyfreithlon?