Achos yr Uchel Lys mewn perthynas ag Addoediad

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:44, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae dyfarniad Llys y Sesiwn yn yr Alban, sydd, yn groes—[Torri ar draws.]—yn groes i sylwadau llawer o Aelodau Seneddol Ceidwadol ar y meinciau cefn, mewn gwirionedd yn Llys sy'n uwch na Uchel Lys Cymru a Lloegr, wedi penderfynu o blaid y cynnig sydd union gyferbyn, sef, yn unol â'r cyflwyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud, bod y penderfyniad yn anghyfreithlon. Ac mae'n sôn, o'i eistedd, nad ein hawdurdodaeth ni yw hon, fel y dywed ef. Y Senedd sy'n cael ei haddoedi yw Senedd yr Alban yn San Steffan, a hon hefyd yw Senedd Cymru o ran materion a gedwir yn ôl, ac ni ddylid gwawdio penderfyniadau Llys y Sesiwn yn ysgafn fel y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud. Gobeithio y bydd y Goruchaf Lys yn ystyried yn llawn nid yn unig gasgliadau'r Uchel Lys, ond hefyd y dadleuon a gafwyd yn Llys y Sesiwn yn yr Alban a chefnogi'r dadleuon a wnaethpwyd ar ran Miller a Cherry, yr oeddwn i'n falch o ymyrryd ynddynt.