Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 17 Medi 2019.
Hoffwn ddweud fy mod yn synnu at y polisi hwn sydd wedi'i lastwreiddio, ond dydw i ddim. Mae'n dilyn llwybr cyfarwydd iawn lle mae Llywodraeth Lafur yn awgrymu sut caiff polisi blaengar ei gyflwyno, dim ond iddi golli dewrder ei hegwyddorion a chyflwyno yn hytrach rywbeth sy'n anfoddhaol ac yn wannach. Efallai nad wyf yn synnu, ond nid yw hynny'n dweud nad wyf yn siomedig—yn siomedig ar ran y miloedd lawer o bobl yng Nghymru sy'n byw dan fygythiad troi allan heb fai. Dyma'r union bobl a fyddai wedi elwa petai'r Llywodraeth Lafur hon wedi aros yn gadarn yn wyneb lobïo cryf a chyflawni'r hyn yr oedd ei angen. Yn hynny o beth, a yw hi'n deg ac yn gyfiawn mewn gwirionedd bod yna ddau gorff lobïo proffesiynol ar gyfer landlordiaid, a dim ond un person sy'n gweithio'n ddi-dâl i gynrychioli Generation Rent? Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â hyn a sicrhau tegwch?
Pa effaith allai polisi troi allan heb fai ei chael ar y wlad hon? Gwyddom o'r ffigurau a ddarparwyd gan Shelter Cymru nad oes gan o leiaf 42 y cant o denantiaid preifat yng Nghymru gytundeb tenantiaeth cyfnod penodol. Mae hyn yn golygu bod peryg y cânt eu troi allan os ydynt yn digio eu landlord, yn aml am rywbeth mor ddiniwed â gofyn am waith trwsio. Gwyddom hefyd fod y sefyllfa sydd ohoni yn anoddach i fenywod, oherwydd, yn ôl ymchwil gan Shelter Cymru, mae menywod yn fwy tebygol o gael cais am ryw yn lle rhent.
Treuliais beth amser gyda phobl ddigartref yn gynharach eleni pan ymunais ag aelodau Plaid Cymru sy'n gwirfoddoli i fynd allan ar strydoedd Abertawe bob wythnos i ddosbarthu bwyd a dillad cynnes. Soniodd un fenyw, a fu'n byw ar y strydoedd am beth amser, am galedi cysgu ar y stryd a sut, yn Abertawe, mae'r heddlu a'r cyngor i bob golwg yn llawdrwm iawn ynghylch cysgu ar y stryd pryd bynnag roedd digwyddiad mawr ganddyn nhw ar y gweill. Caiff pobl eu harestio'n rheolaidd o dan Ddeddf Crwydradaeth 1824. Gofynnodd y fenyw ifanc honno imi gwestiwn syml ond dwys: sut gall hi fod yn gyfreithlon i wneud rhywun yn ddigartref, ond yn anghyfreithlon i rywun fod yn ddigartref? Mae honno'n sefyllfa wyrdroëdig, ac ni fydd eich cynigion yn datrys y broblem hon.
Mae rhoi terfyn ar droi allan heb fai yn arf pwysig wrth fynd i'r afael â'r lefelau brawychus o ddigartrefedd yr ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd, a chredaf fod hwn yn gyfle euraidd i gyflwyno rhywbeth cadarnhaol ac effeithiol, ac mae'n gyfle sydd bellach wedi'i golli. A wnaiff y Gweinidog gytuno i fonitro'r sefyllfa, ac, os canfyddir nad yw mesurau'r Llywodraeth yn cael digon o effaith ar y gyfradd troi allan heb fai, a wnewch chi gytuno i ailedrych ar hyn gyda golwg ar roi terfyn ar droi allan heb fai unwaith ac am byth?