4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gwella Sicrwydd Deiliadaeth

– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:32, 17 Medi 2019

Yr eitem nesaf, wedyn, yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar wella sicrwydd deiliadaeth. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James. 

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion y Llywodraeth i ymestyn cyfnod byrraf yr hysbysiad ar gyfer troi allan heb fai o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Daeth yr ymgynghoriad i ben yn gynharach y mis hwn ac mae'r ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, a byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau maes o law. Cyn hynny, mae arnaf eisiau egluro'r hyn sy'n cael ei gynnig. Ein ffordd ni o fynd ati yw diwygio Deddf 2016 er mwyn anrhydeddu'r ymrwymiad i wella sicrwydd deiliadaeth yn y sector rhentu preifat, ac i weithredu'r Ddeddf ddiwygiedig cyn diwedd y tymor Cynulliad presennol.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnig treblu, o ddau fis i chwe mis, y cyfnod hysbysu y mae'n rhaid i landlord ei roi wrth geisio terfynu contract meddiannaeth safonol o dan adran 173 o'r Ddeddf. Byddai hyn yn berthnasol yn yr achosion hynny lle nad oes rhaid i landlord roi rheswm dros ddod â'r contract i ben. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnig cyfyngu'r cyfnod lle gellir cyflwyno hysbysiad adran 173 i chwe mis ar ôl y dyddiad meddiannu yn y contract. Ar hyn o bryd, pedwar mis yw hyn yn ôl y Ddeddf. Gyda'i gilydd, effaith y ddwy nodwedd allweddol hyn yw y byddai deiliaid contractau yn mwynhau 12, yn hytrach na chwe mis o sicrwydd deiliadaeth cychwynnol, yn amodol ar gydymffurfio â thelerau eu contract. Sylweddolaf fod rhai Aelodau'n teimlo nad yw hyn gystal â gwaharddiad ar droi allan heb fai, ond rwyf eisiau pwysleisio y bydd effaith ddeuol gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi a cheisio ymestyn y cyfnod rhybudd ar gyfer meddiannu o dan adran 173 yn sicrhau cryn fanteision i ddeiliaid contractau. Rhoi mwy o sicrwydd deiliadaeth yw ein nod, ac rwy'n credu'n gryf mai dyna'r hyn y mae'r cynigion hyn yn ei gyflawni ac na fydd deiliaid contractau yng Nghymru ar eu colled o'u cymharu â phobl yn yr un sefyllfa â nhw mewn rhannau eraill o'r DU.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:34, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Yn yr Alban ar hyn o bryd, ac o dan y cynigion yr ymgynghorir arnyn nhw yn Lloegr, ceir sail pryd y gall tenantiaid nad ydynt ar fai gael eu troi allan o hyd gyda dim ond dau fis o rybudd, megis pan fydd y landlord yn dymuno gwerthu'r eiddo neu symud i mewn iddo ei hun. O dan ein cynigion ni, o dan unrhyw amgylchiadau, ac eithrio pan fydd y landlord yn ceisio meddiant am dorri elfen benodol o'r contract, bydd hawl gan y tenant neu'r deiliad contract i gael cyfnod rhybudd o chwe mis o leiaf.

Yn y pen draw, rwyf o'r farn bod y cyfnod o amser sydd gan rywun i ddod o hyd i gartref newydd yn fwy allweddol na pha un a oes gan y landlord reswm i geisio meddiant ai peidio. Felly, o dan ein cynigion, hyd yn oed pan fo landlord yn bwriadu gwerthu'r eiddo neu fyw ynddo ei hun, bydd gan ddeiliaid contractau lawer mwy o amser i wneud y trefniadau angenrheidiol ar eu cyfer nhw eu hunain neu eu dibynyddion, fel ysgol eu plentyn neu'r rhai y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, a dod o hyd i eiddo sy'n fwy addas i'w hanghenion. Byddai hefyd yn rhoi mwy o amser i'r rheini sy'n gallu cynilo, ac i'r rhai sy'n llai abl i gael y cymorth a'r gefnogaeth angenrheidiol.

Rwyf hefyd wedi ystyried sut orau i sicrhau'r gwelliannau mwyaf posibl i'r sector rhentu preifat cyn gynted ag y bo modd. Yn fy marn i, er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni sicrhau y caiff manteision niferus y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) eu gweithredu heb oedi pellach. Rwy'n siŵr nad oes angen i mi atgoffa Aelodau, ers pasio'r ddeddfwriaeth, na allom ni ei gweithredu oherwydd bod angen newid systemau'r llysoedd. Gan y daethpwyd i ganlyniad nawr, rwy'n awyddus i fwrw ymlaen i'w gweithredu'n llawn erbyn diwedd y tymor Cynulliad presennol. Cyn hir, byddaf yn ysgrifennu at bob aelod i'w hatgoffa am y newidiadau cadarnhaol a fydd yn dod i ran pob tenant yng Nghymru o ganlyniad i'r Ddeddf hon, ond rwyf eisiau nodi rhai o'r prif rai nawr.

Bydd y Ddeddf yn rhoi mwy o sicrwydd drwy ddisodli meysydd cymhleth presennol y gyfraith dai â fframwaith cyfreithiol tecach a symlach. Bydd hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i landlordiaid gyhoeddi datganiad ysgrifenedig o'u contract meddiannaeth, sy'n nodi'n glir hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid a'r rhai sy'n rhentu ganddynt. Daw buddion eraill yn sgil y Ddeddf hefyd, megis nodi rhwymedigaeth y landlord i sicrhau bod yr annedd yn addas i bobl fyw ynddi. Yma, gellir defnyddio rheoliadau i nodi materion ac amgylchiadau penodol y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt, er enghraifft cynnwys gofynion ar gyfer profion diogelwch trydanol, larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid. Mae'r rhain yn ddarpariaethau a fydd yn ei gwneud hi'n haws i ddibynyddion olynu—mae darpariaethau; esgusodwch fi, Dirprwy Lywydd, mae fy nhafod i mewn cwlwm. Mae darpariaethau hefyd a fydd yn ei gwneud hi'n haws i ddibynyddion neu berthnasau deiliad contract eu holynu ar gontract. Bydd gan y rheini sydd mewn llety â chymorth hefyd, am y tro cyntaf, gyfres o amodau wedi'u diffinio'n glir yn sail i'w preswyliaeth, a fydd yn eu helpu i ddeall ac arfer eu hawliau. Er mwyn helpu i sicrhau y caiff eiddo gadawedig ei ail-osod cyn gynted â phosibl, mae'r Ddeddf hefyd yn nodi gweithdrefn newydd ar gyfer meddiannu anheddau gadawedig.

Felly, mae dwy elfen i'n cynlluniau i roi mwy o sicrwydd cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn: gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi a rhoi amddiffyniadau pellach i ddeiliaid contractau pan fyddant yn destun hysbysiad adran 173, sef y mater yr ydym ni newydd ymgynghori yn ei gylch.

Gan ddychwelyd at yr ymgynghoriad hwnnw, rwy'n falch o ddweud bod dros 850 o bobl neu sefydliadau wedi ymateb. Landlordiaid ac asiantwyr oedd y rhelyw o'r rhain, sy'n ddealladwy, o gofio'r cyswllt uniongyrchol sydd gennym ni â nhw drwy Rhentu Doeth Cymru. Ond er y cawsom ni rai ymatebion yn uniongyrchol gan denantiaid unigol, rydym ni'n ymwybodol bod sefydliadau fel Shelter Cymru yn cynnal eu hymgynghoriadau eu hunain i lunio eu hymateb hwythau hefyd. Nid wyf yn synnu bod diddordeb o'r fath oherwydd mae'r ffordd y gall landlord geisio meddiant, a'r effaith y gall troi allan yn sgil hynny ei chael ar denantiaid, wastad wedi bod yn broblem sy'n ennyn teimladau cryfion. Felly, rwy'n falch gyda'r ymateb a fu, ac mae swyddogion wedi bod yn cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol er mwyn casglu safbwyntiau pellach y gellir eu hystyried ar y cyd â'r dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Cyn ystyried yr ymatebion, mae dau beth pwysig i'w cofio. Yn gyntaf, er nad yw'n fwriad gennyf ddileu adran 173 yn llwyr, byddai'r newidiadau a gynigir, pe caent eu gweithredu, yn cael gwared ar y cymhellion i landlordiaid ei defnyddio yn yr un ffordd ag y maent yn defnyddio adran 21 o Ddeddf Tai 1988 ar hyn o bryd. Disgwyliaf i hyn gyfyngu'n sylweddol ar yr amgylchiadau lle y gellir ei defnyddio. Y rheswm am hyn yw y byddai'r newidiadau yn golygu, os yw tenantiaid yn talu eu rhent yn brydlon, yn gofalu am yr eiddo ac nad ydynt yn torri unrhyw delerau yn eu cytundeb tenantiaeth, y bydd ganddyn nhw gryn dipyn yn fwy o sicrwydd deiliadaeth—ddwywaith yn fwy, yn wir, gan y byddai 12 mis o sicrwydd ar y cychwyn yn hytrach na chwech. Hefyd, ni fydd ganddynt y pryder parhaus y gallai fod angen iddyn nhw symud gyda dim ond dau fis o rybudd.

Yr ail beth pwysig i'w gofio yw y bydd hi'n dal yn bosib i landlordiaid geisio meddiant os torrir y contract, gan gynnwys yn achos ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) eisoes yn cynnwys y darpariaethau angenrheidiol, ac nid oedd yr ymgynghoriad yn cynnig ymestyn cyfnodau rhybudd yn yr amgylchiadau hyn.

Dirprwy Lywydd, rydym ni eisoes wedi gwneud llawer i sicrhau bod y sector rhentu preifat wedi'i reoleiddio'n dda ac yn gallu cynnig cartrefi o ansawdd uchel i'r rheini sy'n dewis rhentu. Ond mae mwy y gellir, ac y dylir, ei wneud. Dyna pam yr ydym ni wedi ymrwymo i roi mwy o sicrwydd i denantiaid, a chredaf fod fy nghynigion yn gwneud hynny'n union. Os cânt eu gweithredu, caiff eu heffaith ei adolygu'n barhaus fel y gallwn ni weld beth yw effeithiau'r polisi ar y farchnad rentu, p'un a yw wedi rhoi mwy o sicrwydd i ddeiliaid contractau ac a oes angen newid pellach. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:39, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar y maes polisi cyhoeddus pwysig hwn? Dim ond eisiau gofyn wyf i, oherwydd i'r Gweinidog ddweud fod yr ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, pa mor gadarn yw eich polisi, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n ymddangos eich bod yn bendant iawn yr hoffech chi fynd ati yn y ffordd yr ydych chi newydd ei hamlinellu. Felly, hoffwn wybod pa mor hyblyg yw hynny, a sut gallai'r ymgynghoriadau hynny newid eich barn erbyn hyn, os o gwbl. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni'n cytuno bod angen i'r system fod yn deg i denantiaid ac i landlordiaid. Mae'n faes y mae angen ei ddiwygio ac mae Llywodraeth y DU ei hun yn ymgynghori ar bolisi tai yn y maes hwn ar gyfer Lloegr, ac mae'r ymgynghoriad hwnnw, fel y gwyddoch chi o bosib, yn dod i ben ar 12 Hydref. Rwyf yn credu y gallai hi fod yn ddoeth rhoi rhywfaint o sylw i'r ymarfer ymgynghori hwnnw, ac yn wir iddyn nhw wneud yr un peth i'n rhai ni, gan fod yr hyn a gynigir yn Lloegr yn wahanol iawn, ond mewn ffyrdd eraill, mae hefyd yn gysylltiedig â'r amcan polisi.

Nid yw'r Gweinidog o blaid y cynnig yn Lloegr i ganiatáu troi allan gyda dau fis o rybudd fel y gall y landlord werthu neu fyw yn yr eiddo, a dadleuodd y Gweinidog yn gryf rwy'n credu fod angen cyfnod rhesymol i denant ddod o hyd i gartref newydd, ac mae hynny, iddi hi, yn flaenllaw, ac nid wyf yn anghytuno â hynny. Fodd bynnag, fel y cydnabu'r Gweinidog wrth fynd heibio, fel petai, fel arall yn Lloegr bydd troi allan heb fai yn dod i ben, ac mae hynny'n wahaniaeth mawr rhwng yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig a'r hyn a fydd yn digwydd yn Lloegr. Yn hytrach, yn Lloegr, yn ystod cyfnod y contract, byddai'n rhaid i landlordiaid ddibynnu ar ddarpariaethau sy'n caniatáu troi allan pan fo contractau wedi'u torri, ac awgrym Llywodraeth y DU yw y dylid cyflymu'r system llysoedd i sicrhau bod unioni'r mater fel hyn yn effeithiol, ac rwy'n credu bod hynny'n arwydd o gydbwysedd rhwng buddiannau tenantiaid a buddiannau landlordiaid.

Felly, fy nghwestiwn yw: pam nad yw Llywodraeth Cymru yn ffafrio'r dull sydd i'w weld yn cael ei weithredu yn Lloegr, sef rhoi terfyn ar droi allan heb fai? A pha ystyriaeth y bydd hi'n ei rhoi i'r ymgynghoriadau yn Lloegr ac efallai adolygu ei phenderfyniad sylfaenol i beidio â dilyn trywydd tebyg a dweud, 'Ni chaniateir y math hwn o droi allan mewn cyfraith mwyach'?

Photo of Julie James Julie James Labour 3:42, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n falch iawn o glywed David Melding yn dweud ei fod ar y cyfan yn cytuno â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Yn amlwg, byddwn yn edrych yn ofalus i weld beth mae'r ymatebion yn eu dweud. Rwyf wedi cael trosolwg cryno o'r ymatebion, a dyna oeddem yn ei ddisgwyl i raddau helaeth, oherwydd yr ydym ni mewn cysylltiad eithaf cyson â'r sector beth bynnag. Ond, wrth gwrs, byddwn yn edrych ar y polisi yng ngoleuni'r ymatebion hynny. Dim ond eisiau atgoffa'r Aelodau oeddwn i o'r hyn yr oedd yr ymgynghoriad yn seiliedig arno.

O ran ystyried yr ymgynghoriad yn Lloegr, byddwn, wrth gwrs, yn edrych ar hynny, ond, fodd bynnag, mae ein Deddf rhentu cartrefi yn newid yn sylweddol y sefyllfa yng Nghymru, yn sylweddol iawn o'i chymharu â'r Ddeddf Tai fel y mae hi yn Lloegr. A'r hyn maen nhw wedi'i wneud yn Lloegr yw mynd ati mewn modd sy'n amlinellu amryfal ffyrdd o feddiannu, ond nid yw mewn gwirionedd yn rhoi terfyn ar achosion o droi allan heb fai. Ceir amgylchiadau yn Lloegr pryd y caniateir troi allan heb fai o hyd. Oes, sef pan fo landlord yn ceisio cael meddiant ar gyfer ei ddefnydd ei hun neu at ddefnydd ei deulu, sef i werthu. Felly, mae'r posibiliadau hynny'n dal i fodoli yn y fan yma. Yr hyn nad ydyn nhw wedi'i wneud yn Lloegr yw sicrhau'r darpariaethau sydd gan ein Deddf rhentu cartrefi ni ar waith i atal pethau fel troi allan dialgar ac yn y blaen. Felly, rwy'n ffyddiog iawn bod y cyfuniad o'n Deddf rhentu cartrefi a'n hestyniad ni o'r cyfnod amser mewn gwirionedd yn rhoi mwy o warchodaeth i ni yma yng Nghymru.

Ac mae'r sector yn sôn am ddileu achosion o droi allan heb fai, ond, mewn gwirionedd, pan siaradwch chi â'r sector—Shelter a Crisis ac yn y blaen—maen nhw'n cydnabod nad yw'n bosib gwneud hynny bob amser, oherwydd, wrth gwrs, byddai hawl gan y landlord, a fyddai fel arall yn ddigartref, o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, ymhlith eraill, i feddiannu ei dŷ ei hun pe bai yntau ei hun yn ddigartref. Ac rwy'n credu na fyddai hi'n—wel, na fyddai hi'n bosib cael deddfwriaeth a fyddai'n eich rhwystro rhag gallu cael yr eiddo hwnnw yn ôl byth. Yn hytrach, soniwn amdano yn nhermau mwy o sicrwydd deiliadaeth ar gyfer rhentu yn y sector preifat. Mae llond gwlad o bethau eraill y gallwn ni eu gwneud, wrth gwrs, ar gyfer cartrefi sy'n cael eu rhentu'n gymdeithasol, a byddaf yn dod at y rheini mewn datganiad pellach, maes o law, yn y Cynulliad.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:44, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddweud fy mod yn synnu at y polisi hwn sydd wedi'i lastwreiddio, ond dydw i ddim. Mae'n dilyn llwybr cyfarwydd iawn lle mae Llywodraeth Lafur yn awgrymu sut caiff polisi blaengar ei gyflwyno, dim ond iddi golli dewrder ei hegwyddorion a chyflwyno yn hytrach rywbeth sy'n anfoddhaol ac yn wannach. Efallai nad wyf yn synnu, ond nid yw hynny'n dweud nad wyf yn siomedig—yn siomedig ar ran y miloedd lawer o bobl yng Nghymru sy'n byw dan fygythiad troi allan heb fai. Dyma'r union bobl a fyddai wedi elwa petai'r Llywodraeth Lafur hon wedi aros yn gadarn yn wyneb lobïo cryf a chyflawni'r hyn yr oedd ei angen. Yn hynny o beth, a yw hi'n deg ac yn gyfiawn mewn gwirionedd bod yna ddau gorff lobïo proffesiynol ar gyfer landlordiaid, a dim ond un person sy'n gweithio'n ddi-dâl i gynrychioli Generation Rent? Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â hyn a sicrhau tegwch?

Pa effaith allai polisi troi allan heb fai ei chael ar y wlad hon? Gwyddom o'r ffigurau a ddarparwyd gan Shelter Cymru nad oes gan o leiaf 42 y cant o denantiaid preifat yng Nghymru gytundeb tenantiaeth cyfnod penodol. Mae hyn yn golygu bod peryg y cânt eu troi allan os ydynt yn digio eu landlord, yn aml am rywbeth mor ddiniwed â gofyn am waith trwsio. Gwyddom hefyd fod y sefyllfa sydd ohoni yn anoddach i fenywod, oherwydd, yn ôl ymchwil gan Shelter Cymru, mae menywod yn fwy tebygol o gael cais am ryw yn lle rhent.

Treuliais beth amser gyda phobl ddigartref yn gynharach eleni pan ymunais ag aelodau Plaid Cymru sy'n gwirfoddoli i fynd allan ar strydoedd Abertawe bob wythnos i ddosbarthu bwyd a dillad cynnes. Soniodd un fenyw, a fu'n byw ar y strydoedd am beth amser, am galedi cysgu ar y stryd a sut, yn Abertawe, mae'r heddlu a'r cyngor i bob golwg yn llawdrwm iawn ynghylch cysgu ar y stryd pryd bynnag roedd digwyddiad mawr ganddyn nhw ar y gweill. Caiff pobl eu harestio'n rheolaidd o dan Ddeddf Crwydradaeth 1824. Gofynnodd y fenyw ifanc honno imi gwestiwn syml ond dwys: sut gall hi fod yn gyfreithlon i wneud rhywun yn ddigartref, ond yn anghyfreithlon i rywun fod yn ddigartref? Mae honno'n sefyllfa wyrdroëdig, ac ni fydd eich cynigion yn datrys y broblem hon.

Mae rhoi terfyn ar droi allan heb fai yn arf pwysig wrth fynd i'r afael â'r lefelau brawychus o ddigartrefedd yr ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd, a chredaf fod hwn yn gyfle euraidd i gyflwyno rhywbeth cadarnhaol ac effeithiol, ac mae'n gyfle sydd bellach wedi'i golli. A wnaiff y Gweinidog gytuno i fonitro'r sefyllfa, ac, os canfyddir nad yw mesurau'r Llywodraeth yn cael digon o effaith ar y gyfradd troi allan heb fai, a wnewch chi gytuno i ailedrych ar hyn gyda golwg ar roi terfyn ar droi allan heb fai unwaith ac am byth?

Photo of Julie James Julie James Labour 3:47, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n ddrwg gennyf fod Leanne Wood wedi dewis gwleidyddoli'r peth yn y ffordd a wnaeth hi, oherwydd rwy'n credu bod cryn dipyn o gonsensws yn y Siambr ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yma yng Nghymru. Rhestrodd nifer o faterion, ar ôl gwneud y pwyntiau gwleidyddol y dewisodd eu gwneud, nad yw'r amgylchiadau yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yma mewn gwirionedd yn effeithio arnynt.

Soniodd am felltith digartrefedd, y cytunaf yn llwyr â hi yn ei gylch, ond ni sylwodd yn fy natganiad, Dirprwy Lywydd, fy mod yn dweud bod ein Deddf rhentu cartrefi yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl mewn sefyllfaoedd o gam-drin domestig lle nad hwy yw'r tenant rhestredig i allu aros yn eu tenantiaeth, er enghraifft. Felly, mae nifer o bethau y mae'r Ddeddf rhentu cartrefi yn eu gwneud sy'n lliniaru rhai o'r amgylchiadau y soniodd amdanynt, nad yw'r un ohonyn nhw'n ymwneud â throi allan heb fai.

Mewn gwirionedd, nid yw'n bosib dileu achosion o droi allan heb fai yn llwyr oni bai eich bod yn dweud bod landlord sy'n rhentu ei dŷ, hyd yn oed os yw ei angen ei hun oherwydd ei fod yn ddigartref, yn methu â chael meddiant ohono, ac nid yw hynny'n rhywbeth y byddai unrhyw awdurdodaeth yn y DU, sydd mewn gwirionedd yn ddarostyngedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998, yn gallu ei wneud.

Felly, yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yw mwy o sicrwydd deiliadaeth i bobl. Ar ôl i ni roi'r darpariaethau hyn ar waith, yn amodol ar yr ymgynghoriad—rwy'n gwybod eisoes o'r ymatebion cyffredinol i'r ymgynghoriad nad yw pobl yn gwrthwynebu'r cyfnod yr ydym ni'n ei gyflwyno—yn y bôn bydd gennych chi lawer mwy o sicrwydd deiliadaeth yma yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU.

Felly, byddaf yn ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad, Dirprwy Lywydd, i atgoffa ein hunain o Ddeddf mor radical y gwnaethom ei phasio yn ôl yn 2016. Rwy'n credu bod rhywfaint o amser wedi mynd heibio ers i ni ei gweithredu, ac felly rydym ni wedi anghofio pa mor radical yr oeddem ni. Ond bydd y sefyllfa ar gyfer tenantiaid yng Nghymru yn newid yn llwyr pan weithredir y Ddeddf, ac rwyf wrth fy modd y gallwn ni yn awr ei gweithredu cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:49, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn gyfreithiwr, felly rwy'n awyddus i ddeall pam y gwnaethoch chi benderfynu cadw adran 173 ar ei ffurf ddiwygiedig pan fydd gan landlordiaid adran 21 o hyd i droi ati pan fydd angen iddyn nhw gael gwared ar denantiaid sy'n dinistrio eu heiddo. Dyna'r peth cyntaf, ac yna, yn ail, oherwydd fel eraill, mae arnaf i eisiau rhoi terfyn ar droi pobl allan heb fai, oherwydd, fel arall, nid yw tenantiaethau preifat yn ddewis ymarferol i deuluoedd â phlant a allai wedyn gael eu gorfodi i dynnu eu plant o'r ysgol lle maen nhw'n ffynnu, ac mae hynny'n amlwg yn cael effaith enfawr ar eu haddysg. Yn ail, tybed a allech chi ymhelaethu ar y canlyniad y daethpwyd iddo bellach gyda'r llysoedd i'n galluogi i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), oherwydd bu hyn, rwy'n cytuno, yn faen tramgwydd ers cryn amser pan fuom ni'n trafod Deddfau pellach, oherwydd na fu'r Ddeddf honno ar waith. Felly, rwy'n awyddus iawn i ddeall hynny.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:50, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, o ran y sylw olaf yna, roedd anawsterau difrifol gyda system TG y llys, yr ydym ni wedi bod yn eu trafod gyda nhw. Y cynnig ar draws Cymru a Lloegr yw adnewyddu'r system TG gyfan. Roedd i fod i gael ei hadnewyddu 'o fewn dwy flynedd' tua thair blynedd yn ôl, ac roeddem yn aros am yr adnewyddu hwnnw. Ond rydym ni wedi penderfynu peidio ag aros ac i weithredu'r newidiadau TG ar ein cost ein hunain mewn gwirionedd cyn i'r system llysoedd gyfan gael ei newid, gan y credaf ei bod hi'n eithaf clir y bydd yn cymryd llawer mwy o amser nag a fwriadwyd yn wreiddiol, am amryw o resymau na wnaf i mo'u hailadrodd.

O ran mater adran 21 ac adran 173, mae'n bwysig cofio, ar ôl i ni weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), na fydd y Ddeddf Tai bellach mewn grym yng Nghymru, felly ni fydd adran 21 mewn grym yng Nghymru mwyach. Felly, mae'n disodli'r Ddeddf Tai yn ei chyfanrwydd. Felly, dim ond adran 173 fydd gennym ni, a bydd hynny'n cyfyngu'n sylweddol ar yr amgylchiadau lle gellir troi allan heb fai. Mae gennym ni ddarpariaethau yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i atal achosion dialgar o droi allan, felly, os ydych chi wedi gofyn am wella eiddo ac yna mae'r landlord yn darganfod yn sydyn ei fod eisiau gwerthu'r tŷ, gall y llys ystyried hynny. Gall Rhentu Doeth Cymru ystyried hynny hefyd wrth gloriannu a yw landlord yn berson addas a phriodol, ac rydym ni'n bwriadu monitro hynny.

Maddeuwch imi, Dirprwy Lywydd—wnes i ddim ateb cwestiwn olaf Leanne Wood, yr oeddwn yn bwriadu ei wneud, ac wrth gwrs byddwn yn ei fonitro. Rydym ni'n awyddus iawn i hyn weithio, ac felly dywedais yn fy natganiad y byddwn yn monitro'r newidiadau'n ofalus, ac, os nad ydynt yn effeithiol yn y ffordd y credwn y byddant, yna wrth gwrs byddwn yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud i'w cryfhau. Felly, rwyf eisiau gwneud y sylw yna hefyd.

Cofiwch ein bod hefyd wedi pasio Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) Cymru, felly ni allwch chi godi ystod eang o ffioedd mympwyol am, yn gyntaf oll, fynd i mewn i'ch cartref, ac wedyn am wneud amryw byd o bethau eraill yr ydym ni wedi eu trafod. Mae gennym ni hefyd—. Bydd y Bil newydd o ran rhentu cartrefi, pan gaiff ei weithredu, yn newid—bydd tenantiaeth fyrddaliol sicr, er enghraifft, yn newid i gyfnod o 12 mis o leiaf.

Yn hyn o beth, Dirprwy Lywydd, a gaf i gywiro'r cofnod? Dywedais mewn ymateb i gwestiwn gan Michelle Brown ar 17 Gorffennaf 2019 y byddai'r cynnig, pe câi ei weithredu, yn rhoi sicrwydd deiliadaeth o ddwy flynedd—nid oeddwn wedi dewis fy ngeiriau yn ddigon gofalus; sicrwydd deiliadaeth o un flwyddyn ydyw mewn gwirionedd, felly roeddwn i eisiau cywiro hynny—a chyfnod rhybudd o chwe mis o leiaf; ni allwch chi weithredu hyn o fewn chwe mis cyntaf unrhyw denantiaeth. Felly, roeddwn i eisiau cywiro'r cofnod yn hynny o beth, oherwydd tynnwyd fy sylw at y ffaith fy mod yn anfwriadol wedi dweud dwy flynedd yn lle un. Ond bydd hyn yn golygu y bydd gan bobl y cyfnod rhybudd hiraf o unrhyw awdurdodaeth yn y DU, ac, fel y dywedaf dro ar ôl tro, ni allwch eu dileu'n llwyr, gan mai dim ond un eiddo arall y mae'r mwyafrif helaeth o landlordiaid yng Nghymru yn berchen arno, ac yn aml pan fydd dau o bobl wedi dod ynghyd a ffurfio cwpl, dyna pryd maen nhw'n rhoi'r cartref arall ar rent, ac, os ydyn nhw'n gwahanu eto, ni allwch chi ddisgwyl i'r sawl sydd â'r tŷ fod yn ddigartref oherwydd ei fod wedi ei roi ar rent.

Yr hyn nad ydym ni ei eisiau yw i rentu eiddo fod yn rhwystr i landlordiaid ac felly gwneud y farchnad yn hesb. Felly, mae gennych chi hawl ddynol i feddiannu eich cartref eich hun os oes ei angen ar eich cyfer chi eich hun. Felly, ni fyddem yn gallu gwneud hynny. Felly, bydd y sector yn dweud wrthych ei fod yn ddatganiad bachog, 'terfynu troi allan heb fai ', ond nid yw hi'n bosib gwneud hynny yn llwyr, a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yma yw gwneud cymaint ag sy'n bosib i roi'r sicrwydd deiliadaeth sydd ei angen ar bobl. Felly, ni fyddwch yn cael eich troi allan oherwydd dial, gallwch ofyn am waith trwsio, gallwch ddisgwyl i hynny gael ei wneud, ni fyddwch yn cael cyfnod rhybudd o ddeufis os yw'r landlord yn penderfynu gwerthu, bydd gennych chi chwe mis o leiaf—ac, os ydych chi'n denant newydd, mwy na hynny, oherwydd ni allwch chi wneud hynny yn y chwe mis cyntaf—i ddod o hyd i gartref newydd, oherwydd rwy'n derbyn yn llwyr y sylw a wnaethoch chi am addysg plant a threfniadau gofal ac ati. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw rhoi sicrwydd i bobl, ond hefyd digon o amser i gynllunio os byddant yn canfod eu hunain yn yr amgylchiadau hynny.

Yna, i'r gwrthwyneb, Dirprwy Lywydd, hoffwn wneud y sylw yma hefyd, dim ond o safbwynt y landlord, wrth gwrs, os yw'r tenant yn torri ei gontract, yna mae pob un o'r posibiliadau arferol o ran meddiannu yn dal i fod ar gael iddynt. Felly, os oes gennych chi denant sydd mewn gwirionedd yn ymddwyn yn wael iawn, yna mae'r holl bosibiliadau arferol yn dal i fodoli o ran meddiannu.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:54, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Fel y gŵyr pob un ohonom ni, bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl mewn llety preifat ar rent gan fod nifer y tai cyngor wedi gostwng, ac mae llawer o'r tai hynny a fuasai ar gael i brynwyr am y tro cyntaf wedi cael eu prynu gan landlordiaid preifat a bellach yn cael eu rhentu'n breifat. Mae hyn yn sefyllfa lle mae pawb ar ei golled. Er fy mod yn croesawu treblu'r cyfnod rhybudd y mae angen i landlord ei roi o ddau fis i chwe mis, a bod yn rhaid cwblhau tenantiaeth chwe mis—mae hynny'n sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir—mae'r effaith ar addysg plant a bywyd teuluol o orfod symud ar ôl blwyddyn yn ddifrifol.

Rwy'n dal i gefnogi terfynu achosion o droi allan heb fai. Rwy'n siomedig â'r penderfyniad i beidio â therfynu hynny. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog. Nid wyf yn deall o hyd pam na allech chi ddweud, 'byddai modd troi allan heb fai, ond rhaid ichi wneud—chwe mis yw'r cyfnod, ac wedyn chwe mis os dymunwch symud yn ôl i mewn i'r eiddo eich hun', yn hytrach na'i gael fel y mae nawr lle gallant roi chwe mis o rybudd ar ôl chwe mis am unrhyw reswm y dymunen nhw.

Ar bwynt cadarnhaol, rwy'n falch iawn o weld gweithredu o ran tai gwag, gadawedig. Nid oes yr un ohonom ni wedi bod allan yn ymgyrchu yn y strydoedd heb grwydro heibio tai gyda hysbysiadau ynddynt 'os nad ydych yn dychwelyd mewn 14 diwrnod' oherwydd eu bod yn amlwg wedi eu gadael. A wnewch chi egluro'n union sut y byddwch yn dod â thai gadawedig yn ôl i ddefnydd yn gyflymach, oherwydd nid yn unig y mae tai gadawedig yn effeithio ar y landlord, maen nhw'n effeithio ar yr holl bobl hynny sy'n byw yn yr ardal sy'n cael problemau difrifol o gael tŷ gadawedig yn eu hymyl, ac mae adegau pan gaiff tai gadawedig eu meddiannu gan gangiau o bobl ifanc ac eraill sy'n torri i mewn gan nad yw'r tŷ gadawedig wedi ei ddiogelu'n iawn.

O ran y chwe mis a chwe mis, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod landlordiaid yn gwneud hynny mewn gwirionedd, eu bod yn dilyn y rheolau o ddifrif, a beth fydd yn digwydd i landlordiaid nad ydyn nhw'n dilyn y rheolau?

Photo of Julie James Julie James Labour 3:56, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn dechrau am yn ôl eto. Byddwn yn sicrhau hynny oherwydd, wrth gwrs, mae gennym ni Rhentu Doeth Cymru. Felly, yng Nghymru, mae'n rhaid i chi hefyd fod yn landlord cofrestredig. Felly, mae gennym ni sector sy'n llawer mwy rheoledig nag sydd gennym ni mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Felly, yn gyntaf oll, mae'n bwysig cofio hynny. Os ydych yn torri'r rheolau hyn—. Felly, mae'r Ddeddf cartrefi rhent yn dweud bod yn rhaid i chi roi contract ysgrifenedig i'ch tenant. Felly, os nad ydych chi'n gwneud hynny, a bod y tenant yn cwyno nad ydych chi wedi gwneud hynny, byddwch wedi torri rheolau Rhentu Doeth Cymru. Felly, ni fyddwch yn landlord addas a phriodol. Felly, mae sawl agwedd i hyn.

Ni fyddwch yn gallu troi allan oherwydd dial. Felly, os yw eich tenant yn gofyn i chi drwsio'r nwy, er enghraifft, a'ch bod yn penderfynu bod angen i chi werthu'r tŷ yn lle hynny, ni chaniateir i chi wneud hynny, oherwydd ystyrir bod hynny'n beth dialgar, am gyfnod o amser—yn amlwg nid am byth, ond am gyfnod o amser na ellid ei ystyried yn ddialgar. Felly, bydd nifer o amddiffyniadau i'r Ddeddf ei hun, nid yn unig y newid hwn, ac rwy'n credu mai dyna pam mae Aelodau Cynulliad yn cael ychydig o drafferth â hi—ac roedd yn rhaid imi gael fy atgoffa hefyd; rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi anghofio mor radical yw Deddf 2016 o'n heiddo ni mewn gwirionedd a'r newidiadau y mae'n eu gwneud.

O ran eiddo gadawedig, mae dau fath o eiddo gadawedig. Mae llawer o eiddo gadawedig yn eiddo i berchen-feddianwyr neu berchnogion nad ydynt yn feddianwyr y bu fy nghydweithiwr Lee Waters wrthi'n ceisio rhoi trefniadau grantiau ar waith ar eu cyfer, gyda'm cydweithrediad i, er mwyn rhoi hyd at £20,000 i bobl fel y gallant eu hadfer i gyflwr pryd y mae modd eu defnyddio at ddibenion buddiol unwaith eto, gyda'r amod eich bod yn gorfod byw ynddo eich hun am bum mlynedd yn dilyn y grant. Ond mae yna'r broblem arall pan fyddwch chi wedi rhentu eich tŷ ac mae'r tenant wedi cefnu arno, ond mae'n rhaid i chi fynd drwy broses weddol faith i brofi hynny, a'r hyn mae'r Ddeddf yn ei wneud yw cwtogi'r broses honno'n sylweddol iawn. Felly, os gallwch brofi bod yr eiddo wedi'i adael, gallwch gael gorchymyn meddiannu ar unwaith bron ar ei gyfer, a thrwy wneud hynny gallwn gael tenantiaid yn ôl i'r tŷ drachefn. 

A'r trydydd peth yr ydym ni'n ei wneud, y mae hyn yn rhoi cyfle imi dynnu sylw ato, yw ein bod ni'n cynnig hyn i landlordiaid preifat yn y sector rhentu preifat, sef os ydynt yn rhoi eu cartref i ni ac yn caniatáu i ni ei rentu am rent cymdeithasol, yna byddwn yn sicrhau eu bod yn cael y gyfradd dai leol ar gyfer y tŷ hwnnw am y cyfnod o bum mlynedd yr ydym ni'n bwriadu gwneud hynny ar ei gyfer. Drwy wneud hynny rydym ni'n gobeithio sicrhau bod mwy o landlordiaid yn cael eu paratoi i rentu eu tai a rhoi i denantiaid yn y sector yr holl amddiffyniadau ychwanegol y mae tenantiaeth yn y sector rhentu cymdeithasol yn eu rhoi hefyd.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:59, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rhaid imi ddatgan buddiant yn y fan yma, gan fy mod yn landlord ar ambell dŷ rhent yn y sector rhentu preifat. Mae tenantiaid bob amser wedi cael cytundeb tenantiaeth sicr gennyf, a bu'r rhent a ofynnwyd wastad yn unol â'r pris a roddwyd ar yr eiddo. Os oes ganddyn nhw broblem, maen nhw'n ffonio'r asiant sy'n gyfrifol, a chaiff y gwaith ei wneud ar unwaith. Felly, rwyf innau hefyd yn credu y dylem ni sicrhau diogelwch deiliadaeth, ond y dylai fod er budd y naill a'r llall—diogelwch i'r tenant a diogelwch i'r landlord. Ni fydd un yn goroesi heb y llall. Bydd y cynigion hyn yn erydu hawliau landlordiaid preifat ymhellach. Rwyf eisoes wedi cael nifer o berchnogion pryderus sydd ag eiddo ar rent yn dweud wrthyf eu bod yn gwerthu ac yn gadael y farchnad rhentu preifat. Felly, ar adeg pan fo dirfawr angen am gartrefi, y peth olaf y dylem ni fod yn ei wneud yw atal y rhai sy'n rhentu eu heiddo.

Rwyf wedi colli miloedd o bunnoedd oherwydd tenantiaid gwael, a byddai'n anodd iawn ichi ddod o hyd i landlord na fu, ar ryw adeg neu'i gilydd, yn yr un cwch. Ond mae llawer, fel fi, yn credu bod newidiadau diweddar yn ei gwneud hi'n anghynaladwy i barhau i rentu eu heiddo ac wedi penderfynu gwerthu. Mae'r cynigion hyn yn ychwanegu halen at y briw. Bydd landlordiaid sy'n ei chael hi'n anghynaladwy yn ariannol i barhau i rentu eu heiddo yn gorfod aros hyd yn oed yn hirach cyn y gallant ofyn i'w tenantiaid adael. Gallai hyn wthio llawer o landlordiaid i fwy o ddyled. Rwy'n credu y bydd hyn yn faen tramgwydd i ddarpar-landlordiaid y dyfodol, pobl sy'n ystyried rhentu ail eiddo hyd nes y byddant yn penderfynu gwerthu. Mae hyn yn rhan bwysig o'r sector rhentu preifat a dylem ni annog mwy o bobl i wneud hyn os ydym ni eisiau mynd i'r afael â'n hargyfwng tai—ac mae gennym ni argyfwng tai.

Felly, Gweinidog, rydych chi'n dweud y byddwch yn ei gwneud hi'n haws i ddibynyddion neu berthnasau deiliad contract eu holynu ar gontract. A wnewch chi ymhelaethu ar hynny? Onid ydych chi'n credu mai'r landlord ddylai benderfynu a ddylid cynnig y contract hwnnw ai peidio? Mae llawer o'r landlordiaid sydd wedi cysylltu â mi yn pryderu bod Llywodraeth Cymru'n dymuno cael gwared ar landlordiaid preifat. Byddwn yn gofyn i chi a wnewch chi ateb yr honiadau hynny os gwelwch yn dda. Yn olaf, Gweinidog, os ydym ni am fynd i'r afael â'n hargyfwng tai, mae arnom ni angen mwy o landlordiaid preifat, nid llai. Sut bydd eich Llywodraeth yn diogelu hawliau perchnogion eiddo sy'n ceisio gosod eu heiddo ar rent yn y tymor byr? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:02, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, i ddechrau rwy'n credu bod gennym ni anghytundeb gwleidyddol sylfaenol ynghylch swyddogaeth y sector rhentu preifat. Rwy'n credu mai'r ateb i'r argyfwng tai—ac argyfwng yw hi—yw adeiladu llawer mwy o gartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol. Mae hynny'n ffordd well o lawer o wneud hynny, mae'n llwybr llawer mwy diogel, ac mae'n rhoi i bobl y dewis y mae arnyn nhw ei eisiau mewn gwirionedd o ran tai. Felly, mae gennym ni anghytundeb pur sylfaenol.

Ond, gan droi at y pethau penodol iawn, rwyf hefyd yn credu—a menywod fel arfer sydd yn y sefyllfa hon—os ydych chi wedi bod yn 'denant' mewn tŷ lle nad chi yw'r person a enwir ar y denantiaeth a'ch bod yn gweld bod eich partner yn penderfynu dod â'r denantiaeth honno i ben, gan eich gwneud yn ddigartref, dylai fod gennych chi hawliau, yn dibynnu ar ba mor hir yr ydych chi wedi aros yn y tŷ hwnnw ac yn y blaen, a'r hyn y gallwch chi ei ddangos o ran ei fod yn gartref ichi. Mae hynny'n bwysicach fyth pan fydd sefyllfa o drais yn y cartref. Felly, ni fyddech chi eisiau i sefyllfa barhau pryd na all menyw mewn llety rhent preifat nad yw ei henw ar y cytundeb tenantiaeth, gwyno am drais domestig oherwydd wrth wneud hynny y bydd yn gwneud ei hun yn ddigartref. Felly, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn y Siambr o leiaf yn gytûn na ddylid caniatáu hynny.

Yn yr un modd, os yw gofalwr wedi treulio rhyw 20 mlynedd mewn eiddo ac nad yw ar y denantiaeth, neu os yw plentyn y tenant hwnnw wedi gwneud hynny, ni ddylent o anghenraid gael eu troi allan o'u cartref heb unrhyw reswm heblaw'r ffaith eu bod wedi'u hepgor o'r cytundeb tenantiaeth gwreiddiol. Felly, mae'r Ddeddf rhentu cartrefi yn darparu ar gyfer hynny. Nid dyma'r newid yr wyf i'n ymgynghori yn ei gylch. Rydym ni eisoes wedi gwneud hynny yn y Ddeddf rhentu cartrefi. Rwy'n atgoffa'r Aelodau, a byddaf yn ysgrifennu atoch chi i gyd yn eich atgoffa o'r hyn a basiwyd gennym ni, ac rwy'n credu y byddwch yn falch pan fyddwch yn gweld pa mor radical oedd hynny. 

O ran yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud amdanoch chi eich hun a'ch arferion fel landlord, credaf fod hynny'n wir am 98 y cant o'r landlordiaid yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o'n landlordiaid ni yn landlordiaid da. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yma yw atal y landlordiaid diegwyddor rhag rhoi enw drwg i'r sector. Felly, ni fydd gan landlord sy'n ymddwyn yn y modd yr ydych chi newydd ei ddisgrifio unrhyw beth i'w ofni o'r Ddeddf hon nac unrhyw un o'r Deddfau eraill yr ydym ni wedi eu pasio. Dim ond y landlordiaid hynny sy'n ceisio gwneud pethau fel troi allan dialgar, sydd ag eiddo nad yw'n addas i bobl fyw ynddo, neu sy'n ceisio ystumio'r farchnad mewn ffordd—felly, er enghraifft, maen nhw'n ceisio meddiannu eu tŷ dim ond er mwyn cynyddu'r rhent—fydd yn cael problemau gyda hyn. Oherwydd ni allwch chi wneud hynny yn ystod chwe mis cyntaf tenantiaeth, ac yna bydd angen i chi roi chwe mis o rybudd. Felly, bydd gan bawb o leiaf 12 mis. Yna ar ôl hynny mae gennych chi chwe mis treigl. Os oes gennych chi rywun sy'n barod i rentu'r tŷ am ychydig yn fwy, ni fyddant yn dal yno chwe mis yn ddiweddarach.

Felly, rydym ni'n disgwyl i hyn wneud gwahaniaeth sylweddol i'r mathau hynny o droi allan. Rydym ni hefyd yn disgwyl i'r Ddeddf ei hun wneud gwahaniaeth sylweddol, oherwydd yr hyn y bydd yn ei wneud yw gwobrwyo'r landlordiaid da. Rydych chi'n llygad eich lle wrth ddweud bod angen i'r landlordiaid da aros yn y farchnad. Bydd yn faen tramgwydd i fwy fyth o'r landlordiaid twyllodrus yr ydym ni'n ceisio'u cael allan o'r sector—dyna'r gwir.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:05, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi. Diolch, Gweinidog.