Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 17 Medi 2019.
Yn yr Alban ar hyn o bryd, ac o dan y cynigion yr ymgynghorir arnyn nhw yn Lloegr, ceir sail pryd y gall tenantiaid nad ydynt ar fai gael eu troi allan o hyd gyda dim ond dau fis o rybudd, megis pan fydd y landlord yn dymuno gwerthu'r eiddo neu symud i mewn iddo ei hun. O dan ein cynigion ni, o dan unrhyw amgylchiadau, ac eithrio pan fydd y landlord yn ceisio meddiant am dorri elfen benodol o'r contract, bydd hawl gan y tenant neu'r deiliad contract i gael cyfnod rhybudd o chwe mis o leiaf.
Yn y pen draw, rwyf o'r farn bod y cyfnod o amser sydd gan rywun i ddod o hyd i gartref newydd yn fwy allweddol na pha un a oes gan y landlord reswm i geisio meddiant ai peidio. Felly, o dan ein cynigion, hyd yn oed pan fo landlord yn bwriadu gwerthu'r eiddo neu fyw ynddo ei hun, bydd gan ddeiliaid contractau lawer mwy o amser i wneud y trefniadau angenrheidiol ar eu cyfer nhw eu hunain neu eu dibynyddion, fel ysgol eu plentyn neu'r rhai y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, a dod o hyd i eiddo sy'n fwy addas i'w hanghenion. Byddai hefyd yn rhoi mwy o amser i'r rheini sy'n gallu cynilo, ac i'r rhai sy'n llai abl i gael y cymorth a'r gefnogaeth angenrheidiol.
Rwyf hefyd wedi ystyried sut orau i sicrhau'r gwelliannau mwyaf posibl i'r sector rhentu preifat cyn gynted ag y bo modd. Yn fy marn i, er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni sicrhau y caiff manteision niferus y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) eu gweithredu heb oedi pellach. Rwy'n siŵr nad oes angen i mi atgoffa Aelodau, ers pasio'r ddeddfwriaeth, na allom ni ei gweithredu oherwydd bod angen newid systemau'r llysoedd. Gan y daethpwyd i ganlyniad nawr, rwy'n awyddus i fwrw ymlaen i'w gweithredu'n llawn erbyn diwedd y tymor Cynulliad presennol. Cyn hir, byddaf yn ysgrifennu at bob aelod i'w hatgoffa am y newidiadau cadarnhaol a fydd yn dod i ran pob tenant yng Nghymru o ganlyniad i'r Ddeddf hon, ond rwyf eisiau nodi rhai o'r prif rai nawr.
Bydd y Ddeddf yn rhoi mwy o sicrwydd drwy ddisodli meysydd cymhleth presennol y gyfraith dai â fframwaith cyfreithiol tecach a symlach. Bydd hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i landlordiaid gyhoeddi datganiad ysgrifenedig o'u contract meddiannaeth, sy'n nodi'n glir hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid a'r rhai sy'n rhentu ganddynt. Daw buddion eraill yn sgil y Ddeddf hefyd, megis nodi rhwymedigaeth y landlord i sicrhau bod yr annedd yn addas i bobl fyw ynddi. Yma, gellir defnyddio rheoliadau i nodi materion ac amgylchiadau penodol y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt, er enghraifft cynnwys gofynion ar gyfer profion diogelwch trydanol, larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid. Mae'r rhain yn ddarpariaethau a fydd yn ei gwneud hi'n haws i ddibynyddion olynu—mae darpariaethau; esgusodwch fi, Dirprwy Lywydd, mae fy nhafod i mewn cwlwm. Mae darpariaethau hefyd a fydd yn ei gwneud hi'n haws i ddibynyddion neu berthnasau deiliad contract eu holynu ar gontract. Bydd gan y rheini sydd mewn llety â chymorth hefyd, am y tro cyntaf, gyfres o amodau wedi'u diffinio'n glir yn sail i'w preswyliaeth, a fydd yn eu helpu i ddeall ac arfer eu hawliau. Er mwyn helpu i sicrhau y caiff eiddo gadawedig ei ail-osod cyn gynted â phosibl, mae'r Ddeddf hefyd yn nodi gweithdrefn newydd ar gyfer meddiannu anheddau gadawedig.
Felly, mae dwy elfen i'n cynlluniau i roi mwy o sicrwydd cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn: gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi a rhoi amddiffyniadau pellach i ddeiliaid contractau pan fyddant yn destun hysbysiad adran 173, sef y mater yr ydym ni newydd ymgynghori yn ei gylch.
Gan ddychwelyd at yr ymgynghoriad hwnnw, rwy'n falch o ddweud bod dros 850 o bobl neu sefydliadau wedi ymateb. Landlordiaid ac asiantwyr oedd y rhelyw o'r rhain, sy'n ddealladwy, o gofio'r cyswllt uniongyrchol sydd gennym ni â nhw drwy Rhentu Doeth Cymru. Ond er y cawsom ni rai ymatebion yn uniongyrchol gan denantiaid unigol, rydym ni'n ymwybodol bod sefydliadau fel Shelter Cymru yn cynnal eu hymgynghoriadau eu hunain i lunio eu hymateb hwythau hefyd. Nid wyf yn synnu bod diddordeb o'r fath oherwydd mae'r ffordd y gall landlord geisio meddiant, a'r effaith y gall troi allan yn sgil hynny ei chael ar denantiaid, wastad wedi bod yn broblem sy'n ennyn teimladau cryfion. Felly, rwy'n falch gyda'r ymateb a fu, ac mae swyddogion wedi bod yn cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol er mwyn casglu safbwyntiau pellach y gellir eu hystyried ar y cyd â'r dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.
Cyn ystyried yr ymatebion, mae dau beth pwysig i'w cofio. Yn gyntaf, er nad yw'n fwriad gennyf ddileu adran 173 yn llwyr, byddai'r newidiadau a gynigir, pe caent eu gweithredu, yn cael gwared ar y cymhellion i landlordiaid ei defnyddio yn yr un ffordd ag y maent yn defnyddio adran 21 o Ddeddf Tai 1988 ar hyn o bryd. Disgwyliaf i hyn gyfyngu'n sylweddol ar yr amgylchiadau lle y gellir ei defnyddio. Y rheswm am hyn yw y byddai'r newidiadau yn golygu, os yw tenantiaid yn talu eu rhent yn brydlon, yn gofalu am yr eiddo ac nad ydynt yn torri unrhyw delerau yn eu cytundeb tenantiaeth, y bydd ganddyn nhw gryn dipyn yn fwy o sicrwydd deiliadaeth—ddwywaith yn fwy, yn wir, gan y byddai 12 mis o sicrwydd ar y cychwyn yn hytrach na chwech. Hefyd, ni fydd ganddynt y pryder parhaus y gallai fod angen iddyn nhw symud gyda dim ond dau fis o rybudd.
Yr ail beth pwysig i'w gofio yw y bydd hi'n dal yn bosib i landlordiaid geisio meddiant os torrir y contract, gan gynnwys yn achos ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) eisoes yn cynnwys y darpariaethau angenrheidiol, ac nid oedd yr ymgynghoriad yn cynnig ymestyn cyfnodau rhybudd yn yr amgylchiadau hyn.
Dirprwy Lywydd, rydym ni eisoes wedi gwneud llawer i sicrhau bod y sector rhentu preifat wedi'i reoleiddio'n dda ac yn gallu cynnig cartrefi o ansawdd uchel i'r rheini sy'n dewis rhentu. Ond mae mwy y gellir, ac y dylir, ei wneud. Dyna pam yr ydym ni wedi ymrwymo i roi mwy o sicrwydd i denantiaid, a chredaf fod fy nghynigion yn gwneud hynny'n union. Os cânt eu gweithredu, caiff eu heffaith ei adolygu'n barhaus fel y gallwn ni weld beth yw effeithiau'r polisi ar y farchnad rentu, p'un a yw wedi rhoi mwy o sicrwydd i ddeiliaid contractau ac a oes angen newid pellach. Diolch.