Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 17 Medi 2019.
Diolch. Heddiw, rwy'n gwneud datganiad arall i'r Aelodau ar gylch gwario Llywodraeth y DU, y goblygiadau i Gymru a'r camau yr ydym ni yn eu cymryd yn y Llywodraeth i ymateb i ymagwedd anrhagweladwy Llywodraeth y DU tuag at gyllid cyhoeddus. Ar 4 o fis Medi, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys gylch gwario Llywodraeth y DU, gan nodi ei gynlluniau gwariant ar gyfer 2020-21. Yn syth wedi cylch gwario'r Canghellor, fe roddais i ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau yn ystod y toriad yn amlinellu ymateb cychwynnol i'r prif benawdau ar gyfer Cymru.
Roedd cyhoeddiad y Canghellor mewn cyfnod o ansicrwydd cynyddol ynghylch Brexit a thystiolaeth bod y DU ar drothwy cyfnod arall o ddirwasgiad o bosibl. Yn y pythefnos ers y cylch gwario, fe welsom ni fwy o anhrefn, ansicrwydd a negeseuon cymysg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'r amrywiaeth o senarios y mae angen i ni eu hystyried nawr yn cynnwys y posibilrwydd o gyhoeddi ein cyllideb ddrafft ni mewn cyfnod cyn etholiad. Roedd cyhoeddiad y Canghellor yn cynnwys, am y tro cyntaf, fanylion ein cyllideb refeniw ar gyfer 2020-21, a fydd yn cynyddu £593 miliwn dros ben llinell sylfaen 2019-20. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 2.3 y cant mewn termau real. Mae'r cylch gwariant yn cynnwys cynnydd o £18 miliwn i'n cyllideb gyfalaf hefyd, a oedd wedi ei phennu eisoes ar gyfer 2020-21. Fe fydd ein cyllideb gyfalaf ni 2.4 y cant yn uwch mewn termau real nag yn 2019-20.
Ar sail cyhoeddiad y Canghellor, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-21 yn parhau i fod yn 2 y cant, neu £300 miliwn yn is mewn termau real nag yn 2010-11. Nid yw'r arian ychwanegol yn cynyddu ein gallu ni i wario hyd at lefelau'r hyn a gafwyd ddegawd yn ôl, hyd yn oed. Rydym ni wedi galw'n gyson am ddiwedd ar bolisi cyni Llywodraeth y DU ac am fwy o fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Er bod cyhoeddiad y Canghellor yn dangos rhai arwyddion o lacio llinynnau'r pwrs yn y tymor byr, nid yw'n gwneud yn iawn am bron i ddegawd o doriadau, ac nid yw'n dod yn agos at ddarparu'r sail gynaliadwy hirdymor ar gyfer trefnu ein gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym ni yn y niwl o hyd ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cyllideb yr hydref. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhoi gwybod i Bwyllgor Trysorlys y DU nad oes neb wedi gofyn iddi baratoi rhagolwg diweddaredig ac fe fyddai angen 10 wythnos o rybudd fel arfer. Mae Llywodraeth y DU yn ymddwyn yn anghyfrifol wrth gyhoeddi cynlluniau gwariant ar hyn o bryd sy'n seiliedig ar ragolygon mis Mawrth, a oedd yn rhagdybio Brexit cymharol ddiniwed, a pholisi ariannol y llywodraeth flaenorol. Ers mis Mawrth, mae data swyddogol wedi dangos bod economi'r DU wedi crebachu yn yr ail chwarter ac mae'r data arolwg diweddaraf yn dangos ei bod hi'n egwan o hyd. Mae economi lai yn golygu y bydd refeniw treth yn is ac yn ei gwneud yn debygol y bydd Llywodraeth y DU yn dychwelyd yn gyflym at bolisi o gyni.
Yn wir, pe byddai'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhoi'r rhagolygon economaidd ac ariannol amserol sydd fel arfer yn gynsail i ddatganiad o'r fath, mae'n bosibl y byddai'r hyblygrwydd y mae'r Canghellor wedi manteisio arno wedi bod yn dwyllodrus. Bydd y cyhoeddiadau ar wariant yn ychwanegu ymhellach at fenthyca, ac ers hynny mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi datgan y gallai rheolau ariannol y Llywodraeth ei hunan ac addewid allweddol ym maniffesto'r Ceidwadwyr i sicrhau cyllidebau cytbwys erbyn canol y 2020au fod allan ohoni, gan ychwanegu at y tebygolrwydd mawr y bydd rownd arall o gyni yn debyg iawn yn y dyfodol agos.
Nid allwn fod yn ffyddiog o gwbl y bydd y cyhoeddiadau gwariant hyn yn gynaliadwy. Yn sicr, nid ydym ni'n gallu dibynnu ar y setliadau hirdymor honedig ar gyfer y GIG ac ar gyfer ysgolion yn Lloegr ac unrhyw swm canlyniadol posibl y gallen nhw ei gyflawni, gan y bydd y goblygiadau cyllido ar gyfer y setliadau hyn y tu hwnt i 2020-21 yn cael eu pennu mewn gwirionedd yn rhan o'r adolygiad cynhwysfawr nesaf o wariant. Y gwir amdani yw mai tric yw cyhoeddiad y Canghellor o flaen etholiad i dynnu sylw oddi wrth reolaeth Llywodraeth y DU o Brexit sy'n gynyddol anniben.
Cyhoeddodd y Canghellor £2 biliwn arall yn 2020-21 ar gyfer cyflawni Brexit. Rydym ni wedi dweud yn eglur na ellir rhoi'r cymorth i fynd i'r afael â hyd yn oed gyfran o effaith Brexit heb gynnydd llawer mwy sylweddol mewn gwariant cyhoeddus. Bydd angen cyllid a hyblygrwydd ychwanegol sylweddol arnom ni i allu ymateb yn ystyrlon i her Brexit, ac fe bwysleisiais i'r pwynt hwn i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys mewn cyfarfod pedairochrog y gweinidogion cyllid ar ddiwedd mis Awst. Nid yw'r atebion a gawsom ni gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn yn cynnig unrhyw sicrwydd y deuai'r arian y byddai ei angen arnom ni.
Mae'n amlwg bod y Prif Weinidog yn barod i fynd â'r DU dros y dibyn 'dim cytundeb'. Byddai hynny'n cael effaith drychinebus ar Gymru. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos y bydd gadael y DU heb gytundeb yn creu dirywiad economaidd difrifol yn y DU a bod dirwasgiad maith yn debygol. O dan yr amgylchiadau hynny, fe wyddom ni fod yr economi yng Nghymru yn debygol o fod tua 10 y cant yn llai yn yr hirdymor, a byddai hynny'n cael ei adlewyrchu mewn incymau real a fyddai, ar delerau presennol, hyd at £2,000 yn llai i bob unigolyn nag y byddai hi fel arall.
Rwy'n pryderu'n fawr fod y Canghellor, a dydd yr ymadael gerllaw, wedi aros yn dawedog ynghylch cyllid newydd yn gyfnewid am gyllid o'r UE i gefnogi ein cymunedau a'n busnesau ni yng Nghymru. Ni allodd ef roi unrhyw fath o sicrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn cadw addewidion y Prif Weinidog na fyddwn ni'n derbyn yr un geiniog yn llai nag y byddem ni wedi ei ddisgwyl o aros yn yr UE, ac yn unol â'r setliadau datganoli hirsefydlog, mae'n rhaid i ni gael ymreolaeth i ddatblygu a chyflawni trefniadau newydd yn lle rhaglenni ariannu'r UE. Mae'r egwyddorion hyn â chefnogaeth lawn y Cynulliad hwn.
Er gwaethaf y newidiadau hyn a'r ansicrwydd na welwyd erioed ei fath o'r blaen, rwy'n fwy penderfynol nag erioed o edrych yn gadarnhaol i'r dyfodol a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ni yng Nghymru y gorau gallwn ni. Rwyf i erbyn hyn yn cynnig cyflwyno ein cynlluniau a chyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru yn fwy cynnar—ym mis Tachwedd—i roi cymaint o sicrwydd ag sy'n bosibl i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ni. Rwy'n cysylltu â'r pwyllgorau busnes a chyllid i ofyn am eu cefnogaeth i'r newid hwn. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth a roddodd y pwyllgorau eisoes ac rwy'n gobeithio y bydd y trefniadau newydd hyn yn dderbyniol.
Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar anghenion pobl Cymru, a'n nod ni fydd cyflwyno'r setliad tecaf posibl i wasanaethau cyhoeddus Cymru. Ategir yr ymrwymiad cyson hwn gan y ffaith fod gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i fod yn sylweddol uwch nag yn Lloegr, ac mae'r toriadau i awdurdodau lleol yn Lloegr wedi bod ddwywaith mor ddwfn ag yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn eglur iawn y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni, yn ogystal â chyflwyno'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Rydym ni'n dal i fod yn benderfynol o sicrhau bod yr adnoddau sydd gennym ni'n cael yr effaith fwyaf bosibl. Yn fy natganiad ym mis Gorffennaf ar ddyfodol gwariant cyhoeddus, roeddwn i'n amlinellu fod ein paratoadau ar gyfer y gyllideb wedi cael eu llunio gan wyth maes ein blaenoriaeth, sef y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, sgiliau a chyflogadwyedd, gwell iechyd meddwl, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth.
Rydym ni'n cydnabod mai'r wyth maes hyn yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o fod â'r cyfraniad mwyaf i'w roi i ffyniant a lles hirdymor. Maen nhw'n adlewyrchu'r amseroedd ym mywydau pobl pan fyddan nhw â'r angen mwyaf, a phan fydd y cymorth addas yn gallu cael dylanwad dramatig ar gwrs eu bywyd. Maen nhw'n feysydd o flaenoriaeth lle dangoswyd bod ymyrraeth gynnar—mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol, yn hytrach na thrin y symptomau—yn talu ar ei ganfed. Os ydym ni am wireddu potensial llawn Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae integreiddio a chydweithio rhwng gweithgareddau a gwasanaethau, gydag ymyrraeth gynnar a dull o weithredu â phobl yn ganolog, yn hanfodol ar gyfer cyflawni canlyniadau hirdymor.
Fe fydd ein cyllideb ni'n canolbwyntio ar y meysydd lle gallwn gael y dylanwad mwyaf yn yr hirdymor, ac fe fydd yn ganolog i'r ffordd y bydd Cymru'n ymateb i'r heriau a gyflwynir gan y cylch gwario hwn.