6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru

– Senedd Cymru am 4:05 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:05, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, rydym ni am symud at eitem 6, sef datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynglŷn â goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru. Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Heddiw, rwy'n gwneud datganiad arall i'r Aelodau ar gylch gwario Llywodraeth y DU, y goblygiadau i Gymru a'r camau yr ydym ni yn eu cymryd yn y Llywodraeth i ymateb i ymagwedd anrhagweladwy Llywodraeth y DU tuag at gyllid cyhoeddus. Ar 4 o fis Medi, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys gylch gwario Llywodraeth y DU, gan nodi ei gynlluniau gwariant ar gyfer 2020-21. Yn syth wedi cylch gwario'r Canghellor, fe roddais i ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau yn ystod y toriad yn amlinellu ymateb cychwynnol i'r prif benawdau ar gyfer Cymru.

Roedd cyhoeddiad y Canghellor mewn cyfnod o ansicrwydd cynyddol ynghylch Brexit a thystiolaeth bod y DU ar drothwy cyfnod arall o ddirwasgiad o bosibl. Yn y pythefnos ers y cylch gwario, fe welsom ni fwy o anhrefn, ansicrwydd a negeseuon cymysg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'r amrywiaeth o senarios y mae angen i ni eu hystyried nawr yn cynnwys y posibilrwydd o gyhoeddi ein cyllideb ddrafft ni mewn cyfnod cyn etholiad. Roedd cyhoeddiad y Canghellor yn cynnwys, am y tro cyntaf, fanylion ein cyllideb refeniw ar gyfer 2020-21, a fydd yn cynyddu £593 miliwn dros ben llinell sylfaen 2019-20. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 2.3 y cant mewn termau real. Mae'r cylch gwariant yn cynnwys cynnydd o £18 miliwn i'n cyllideb gyfalaf hefyd, a oedd wedi ei phennu eisoes ar gyfer 2020-21. Fe fydd ein cyllideb gyfalaf ni 2.4 y cant yn uwch mewn termau real nag yn 2019-20.

Ar sail cyhoeddiad y Canghellor, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-21 yn parhau i fod yn 2 y cant, neu £300 miliwn yn is mewn termau real nag yn 2010-11. Nid yw'r arian ychwanegol yn cynyddu ein gallu ni i wario hyd at lefelau'r hyn a gafwyd ddegawd yn ôl, hyd yn oed. Rydym ni wedi galw'n gyson am ddiwedd ar bolisi cyni Llywodraeth y DU ac am fwy o fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Er bod cyhoeddiad y Canghellor yn dangos rhai arwyddion o lacio llinynnau'r pwrs yn y tymor byr, nid yw'n gwneud yn iawn am bron i ddegawd o doriadau, ac nid yw'n dod yn agos at ddarparu'r sail gynaliadwy hirdymor ar gyfer trefnu ein gwasanaethau cyhoeddus.

Rydym ni yn y niwl o hyd ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cyllideb yr hydref. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhoi gwybod i Bwyllgor Trysorlys y DU nad oes neb wedi gofyn iddi baratoi rhagolwg diweddaredig ac fe fyddai angen 10 wythnos o rybudd fel arfer. Mae Llywodraeth y DU yn ymddwyn yn anghyfrifol wrth gyhoeddi cynlluniau gwariant ar hyn o bryd sy'n seiliedig ar ragolygon mis Mawrth, a oedd yn rhagdybio Brexit cymharol ddiniwed, a pholisi ariannol y llywodraeth flaenorol. Ers mis Mawrth, mae data swyddogol wedi dangos bod economi'r DU wedi crebachu yn yr ail chwarter ac mae'r data arolwg diweddaraf yn dangos ei bod hi'n egwan o hyd. Mae economi lai yn golygu y bydd refeniw treth yn is ac yn ei gwneud yn debygol y bydd Llywodraeth y DU yn dychwelyd yn gyflym at bolisi o gyni.

Yn wir, pe byddai'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhoi'r rhagolygon economaidd ac ariannol amserol sydd fel arfer yn gynsail i ddatganiad o'r fath, mae'n bosibl y byddai'r hyblygrwydd y mae'r Canghellor wedi manteisio arno wedi bod yn dwyllodrus. Bydd y cyhoeddiadau ar wariant yn ychwanegu ymhellach at fenthyca, ac ers hynny mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi datgan y gallai rheolau ariannol y Llywodraeth ei hunan ac addewid allweddol ym maniffesto'r Ceidwadwyr i sicrhau cyllidebau cytbwys erbyn canol y 2020au fod allan ohoni, gan ychwanegu at y tebygolrwydd mawr y bydd rownd arall o gyni yn debyg iawn yn y dyfodol agos.

Nid allwn fod yn ffyddiog o gwbl y bydd y cyhoeddiadau gwariant hyn yn gynaliadwy. Yn sicr, nid ydym ni'n gallu dibynnu ar y setliadau hirdymor honedig ar gyfer y GIG ac ar gyfer ysgolion yn Lloegr ac unrhyw swm canlyniadol posibl y gallen nhw ei gyflawni, gan y bydd y goblygiadau cyllido ar gyfer y setliadau hyn y tu hwnt i 2020-21 yn cael eu pennu mewn gwirionedd yn rhan o'r adolygiad cynhwysfawr nesaf o wariant. Y gwir amdani yw mai tric yw cyhoeddiad y Canghellor o flaen etholiad i dynnu sylw oddi wrth reolaeth Llywodraeth y DU o Brexit sy'n gynyddol anniben.

Cyhoeddodd y Canghellor £2 biliwn arall yn 2020-21 ar gyfer cyflawni Brexit. Rydym ni wedi dweud yn eglur na ellir rhoi'r cymorth i fynd i'r afael â hyd yn oed gyfran o effaith Brexit heb gynnydd llawer mwy sylweddol mewn gwariant cyhoeddus. Bydd angen cyllid a hyblygrwydd ychwanegol sylweddol arnom ni i allu ymateb yn ystyrlon i her Brexit, ac fe bwysleisiais i'r pwynt hwn i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys mewn cyfarfod pedairochrog y gweinidogion cyllid ar ddiwedd mis Awst. Nid yw'r atebion a gawsom ni gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn yn cynnig unrhyw sicrwydd y deuai'r arian y byddai ei angen arnom ni.

Mae'n amlwg bod y Prif Weinidog yn barod i fynd â'r DU dros y dibyn 'dim cytundeb'. Byddai hynny'n cael effaith drychinebus ar Gymru. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos y bydd gadael y DU heb gytundeb yn creu dirywiad economaidd difrifol yn y DU a bod dirwasgiad maith yn debygol. O dan yr amgylchiadau hynny, fe wyddom ni fod yr economi yng Nghymru yn debygol o fod tua 10 y cant yn llai yn yr hirdymor, a byddai hynny'n cael ei adlewyrchu mewn incymau real a fyddai, ar delerau presennol, hyd at £2,000 yn llai i bob unigolyn nag y byddai hi fel arall.

Rwy'n pryderu'n fawr fod y Canghellor, a dydd yr ymadael gerllaw, wedi aros yn dawedog ynghylch cyllid newydd yn gyfnewid am gyllid o'r UE i gefnogi ein cymunedau a'n busnesau ni yng Nghymru. Ni allodd ef roi unrhyw fath o sicrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn cadw addewidion y Prif Weinidog na fyddwn ni'n derbyn yr un geiniog yn llai nag y byddem ni wedi ei ddisgwyl o aros yn yr UE, ac yn unol â'r setliadau datganoli hirsefydlog, mae'n rhaid i ni gael ymreolaeth i ddatblygu a chyflawni trefniadau newydd yn lle rhaglenni ariannu'r UE. Mae'r egwyddorion hyn â chefnogaeth lawn y Cynulliad hwn.

Er gwaethaf y newidiadau hyn a'r ansicrwydd na welwyd erioed ei fath o'r blaen, rwy'n fwy penderfynol nag erioed o edrych yn gadarnhaol i'r dyfodol a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ni yng Nghymru y gorau gallwn ni. Rwyf i erbyn hyn yn cynnig cyflwyno ein cynlluniau a chyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru yn fwy cynnar—ym mis Tachwedd—i roi cymaint o sicrwydd ag sy'n bosibl i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ni. Rwy'n cysylltu â'r pwyllgorau busnes a chyllid i ofyn am eu cefnogaeth i'r newid hwn. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth a roddodd y pwyllgorau eisoes ac rwy'n gobeithio y bydd y trefniadau newydd hyn yn dderbyniol.

Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar anghenion pobl Cymru, a'n nod ni fydd cyflwyno'r setliad tecaf posibl i wasanaethau cyhoeddus Cymru. Ategir yr ymrwymiad cyson hwn gan y ffaith fod gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i fod yn sylweddol uwch nag yn Lloegr, ac mae'r toriadau i awdurdodau lleol yn Lloegr wedi bod ddwywaith mor ddwfn ag yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn eglur iawn y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni, yn ogystal â chyflwyno'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Rydym ni'n dal i fod yn benderfynol o sicrhau bod yr adnoddau sydd gennym ni'n cael yr effaith fwyaf bosibl. Yn fy natganiad ym mis Gorffennaf ar ddyfodol gwariant cyhoeddus, roeddwn i'n amlinellu fod ein paratoadau ar gyfer y gyllideb wedi cael eu llunio gan wyth maes ein blaenoriaeth, sef y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, sgiliau a chyflogadwyedd, gwell iechyd meddwl, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth.

Rydym ni'n cydnabod mai'r wyth maes hyn yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o fod â'r cyfraniad mwyaf i'w roi i ffyniant a lles hirdymor. Maen nhw'n adlewyrchu'r amseroedd ym mywydau pobl pan fyddan nhw â'r angen mwyaf, a phan fydd y cymorth addas yn gallu cael dylanwad dramatig ar gwrs eu bywyd. Maen nhw'n feysydd o flaenoriaeth lle dangoswyd bod ymyrraeth gynnar—mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol, yn hytrach na thrin y symptomau—yn talu ar ei ganfed. Os ydym ni am wireddu potensial llawn Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae integreiddio a chydweithio rhwng gweithgareddau a gwasanaethau, gydag ymyrraeth gynnar a dull o weithredu â phobl yn ganolog, yn hanfodol ar gyfer cyflawni canlyniadau hirdymor.

Fe fydd ein cyllideb ni'n canolbwyntio ar y meysydd lle gallwn gael y dylanwad mwyaf yn yr hirdymor, ac fe fydd yn ganolog i'r ffordd y bydd Cymru'n ymateb i'r heriau a gyflwynir gan y cylch gwario hwn.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:14, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac am ymateb arfaethedig Llywodraeth Cymru i gylch gwario 2019? Mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl gwrando arnoch chi, y Gweinidog, a'r Prif Weinidog hefyd yn gynharach, fod argoel sicr o besimistiaeth, yn fy marn i, o safbwynt areithiau a chwestiynau Llywodraeth Cymru heddiw. Ni fyddem ni'n anghytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd gennych chi, ac nid wyf i o'r farn y byddai llawer o bobl yng Nghymru yn anghytuno chwaith. Fe wyddom ni'n iawn fod y degawd diwethaf wedi golygu cwtogi ar lefel y DU sydd wedi treiddio i lefel Llywodraeth Cymru. Nid yw'r rheswm dros y toriadau hynny yn cael ei drafod mor aml erbyn hyn, ond wrth gwrs nid yw o ganlyniad i'r Blaid Lafur yn y Siambr hon—roedd o ganlyniad i orwario gan y Blaid Lafur hyd at 2010 yn San Steffan, a benthyca hefyd. Felly, beth bynnag, dadl arall yw honno, ond rwy'n credu bod angen atgoffa pobl weithiau.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:15, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Roeddech chi'n sôn am ansicrwydd Brexit. Wrth gwrs, mae arlliw Brexit ar yr holl ddadleuon ar hyn o bryd, ac, unwaith eto, rydych chi'n iawn i ddweud bod ansicrwydd mawr ynghylch Brexit a'r modd y byddwn ni'n ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a pha bryd y bydd hynny. Ond er hynny fe allwch chi barhau i ddangos eich gallu sylweddol fel Llywodraeth Cymru i gynllwynio a chynllunio a chynnig cynigion ar gyfer gwario a all wella bywydau pobl Cymru. Dyma pam yr ydym ni yma.

Yn ffeithiol, rydych chi wedi nodi'r newyddion da: bydd y gyllideb refeniw yn cynyddu ychydig o dan £600 miliwn neu 2.3 y cant mewn termau gwirioneddol dros ben llinell sylfaen 2019-20. Ac yna mae croeso hefyd i'r cynnydd o £18 miliwn yn y gyllideb cyfalaf, sef 2.4 y cant yn uwch mewn termau gwirioneddol. A'r gair allweddol yn y ddau achos hyn yw 'gwirioneddol'. Felly, dyma gynnydd yn yr ystyr wirioneddol, sy'n ffaith yr ydych chi'n ei derbyn. Felly, gan anwybyddu'r sefyllfa ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'n rhaid inni gydnabod—mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod—bod yr adolygiad hwn o wariant yn rhoi mwy o arian, mwy o arian gwirioneddol i Gymru ar ben yr hyn a oedd gennym ni o'r blaen. Ac o gymryd hyn ar y cyd â'r fframwaith cyllidol —sy'n fargen dda iawn, a negodwyd rhwng aelodau o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, enghraifft benigamp o bartneriaeth yn gweithio—o gymryd hyn ar y cyd â hwnnw, dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cymru wedi gweld gwelliant gwirioneddol dda yn y fformiwla o ran y newidiadau i'r fformiwla a ddigwyddodd a'r cynnydd mewn cyllid sy'n golygu y gall Cymru fod—y gall hi fod—mewn sefyllfa lawer gwell pe byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'r arian yn ddoeth.

Nawr, Gweinidog, fel y dywedais i, roedd y Prif Weinidog braidd yn besimistaidd pan ddywedodd fod llawer o'r codiadau hyn heb eu cymeradwyo. A wnewch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Trysorlys o ran yr ymrwymiadau hyn o ran cyllid? A ydych chi o'r un farn besimistaidd â'r Prif Weinidog mai geiriau'n unig, mewn gwirionedd, yw llawer o'r arian hwn ac na fyddwn ni'n ei weld yma, neu a ydych chi'n hyderus bod yr arian hwn, y cyhoeddwyd gennych yn eich datganiad sydd i ddod i Gymru, yn dod i Gymru mewn gwirionedd? Oherwydd dyna'n sicr yw'r hyn a addawyd inni a'r hyn y mae angen inni ei weld yma. Roeddech chi'n dweud na ddylai Cymru fod yn brin o'r un geiniog ar ôl Brexit, rhywbeth a addawyd inni i gyd yn ymgyrch y refferendwm, a chredaf y byddem ni i gyd yn y Siambr hon yn awyddus i gytuno â hynny. Yn sicr, fe fyddwn i.

Rydych chi, yn wir, wedi galw am ddiwedd ar gyni ers amser maith iawn: gallaf eich canmol yn hynny o beth, Gweinidog. Nid ydych chi wedi gwyro oddi wrth y neges honno cyhyd ag yr wyf i wedi bod yn eich holi chi, ac, yn wir, yn eich swyddi blaenorol. Rydym ni i gyd yn awyddus i weld diwedd ar hynny, ac, fel yr oeddech chi'n dweud, mae'r gwregys yn llacio erbyn hyn. Mae'r gornel wedi ei throi. Felly, dylid croesawu hyn, yn sicr. Ac rwy'n sicr nad yw hyn wedi gwneud iawn am y nifer o flynyddoedd o doriadau a oedd yn angenrheidiol gan bobl mewn man arall, ond rydym ni yn troi'r gornel honno. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi ar gyfer yr arian newydd hwn? Pryd y byddwn yn gweld manylion hynny? Mae gan Lywodraeth Cymru ymreolaeth i'w wario fel y dymuna ar wahân i'r gwahaniaethau amlwg o ran cyfalaf a refeniw, yr wyf yn siŵr y bydd Mike Hedges yn eu trafod—gallaf ei weld yn ysgrifennu'n wyllt fan acw. Felly, mae angen i ni wybod beth fydd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Rydych wedi sôn am y gwasanaeth iechyd. Mae Llywodraeth y DU wedi addo swm sylweddol o arian i wasanaeth iechyd Lloegr. A wnewch chi ymrwymo y bydd yr arian hwnnw'n bwydo drwy'r system ac y bydd yn ein helpu ni i ymdrin â pheth o'r pwysau y mae cyllideb iechyd Cymru wedi bod yn ei ddioddef? Mae'r alwad arnoch chi i helpu gyda hyn wedi bod yn daer iawn.

Roeddech chi'n sôn am wariant ar addysg. Fel y gwyddom, nid yw cyllid ysgolion yng Nghymru wedi codi'n unol â chwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf. Rhwng 2010 a 2019, cododd gwariant crynswth a gyllidebwyd 4.4 y cant ond, mewn gwirionedd, roedd hynny'n ostyngiad o 7.9 y cant mewn termau gwirioneddol. Yn ôl at y gair pwysig hwnnw: gwirioneddol. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i rwystro hyn? Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau y bydd modd mynd i'r afael â'r bwlch cyllido hollbwysig rhwng disgyblion yng Nghymru ac yn Lloegr, ac y gellir ei wynebu ac ymdrin ag ef. Rwy'n gwybod nad ystadegau yw'r ateb i bopeth. Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog Addysg yn fy atgoffa i o hynny pe byddai ef yn siarad yn y datganiad hwn, ac rwy'n derbyn hynny. Ond, eto i gyd, mae yna fwlch ariannu a gydnabyddir ac fe hoffwn eich gweld yn rhoi sylw iddo.

Yn ôl ein harfer, fe gawsom ni'r drafodaeth ar Brexit o ran syrthio oddi ar ymyl y dibyn. Rwy'n credu bod fy marn i'n hysbys iawn gan fy mod yn sicr o'r farn y dylem ni ymadael gyda chytundeb. Credaf mai hynny fyddai orau er lles Cymru. Nid wyf i'n dymuno gweld yr effeithiau ar economi Cymru pe byddai Brexit 'dim cytundeb', ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â hynny. Rwy'n credu ei bod yn resynus, yn San Steffan, pan drafodwyd hyn ac y cafwyd pleidlais arno, na wnaeth Aelodau Seneddol y Blaid Lafur—nid Aelodau'r Cynulliad, ond Aelodau Seneddol—bleidleisio o blaid cytundeb, ac felly rydym ni yn y sefyllfa alarus braidd yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. Ond rwy'n cytuno â chi y byddwn i'n hoffi ein gweld ni'n ymadael gyda chytundeb hollbwysig.

O ran y gyllideb, a gaf i groesawu'r cam i ddwyn cyllideb Llywodraeth Cymru ymlaen yn gynharach i fis Tachwedd, rwy'n credu ichi ddweud? Mae hynny i'w groesawu, yn sicr. Roeddech chi'n dweud eich bod chi am gynnal trafodaethau â'r Pwyllgor Cyllid ac â phwyllgorau eraill. Da o beth fyddai cynnal y trafodaethau hynny cyn gynted ag y bo modd a rhoi pethau ar waith. Mae eisoes yn fis Medi. Ac rwy'n cydnabod bod yr amser ar gyfer y llinellau cyllideb hyn yn gyfyng yn aml iawn ac, yn yr achos hwn, bydd yn fwy cyfyng byth. Ond rwyf i o'r farn y byddai'n dda o beth inni gynnal y trafodaethau hynny cyn gynted ag y bo modd fel ein bod ni i gyd yn gwybod beth yw ein sefyllfa ni ac y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith o roi'r arian hwnnw i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru lle y dylai fod.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:20, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i Nick Ramsay am ei gyfraniad ef. Diddorol iawn oedd ailysgrifennu hanes ar y cychwyn cyntaf, gan gadarnhau, yn ei farn ef, mai gwario gwirion yn hytrach na dirywiad economaidd byd-eang a effeithiodd ar yr economi yn y DU. Ond fe roddwn ni hynny o'r neilltu ac ystyried y cwestiynau eraill a ofynnwyd ganddo.

Y cyntaf oedd pa fath o ymgysylltu a gawsom â Llywodraeth y DU o ran y cylch gwario. Cawsom gyfarfod pedair ochrog gyda Gweinidogion cyllid ddiwedd mis Awst, lle roeddem ni'n ceisio cael rhywfaint o wybodaeth. Ni chafwyd llawer o wybodaeth, mae'n rhaid imi ddweud, ond fe wneuthum i bwysleisio'r pwynt, y gwnaeth Nick Ramsay sôn amdano hefyd, sef bod yr ymgyrch i 'ymadael' ac aelodau'r Llywodraeth Geidwadol wedi bod yn eglur iawn na fyddai Cymru ar ei cholled o ganlyniad i Brexit. Fe wneuthum i'r pwynt bod angen inni sicrhau bod yr addewid honno'n cael ei hanrhydeddu, ond roeddwn i'n bryderus iawn fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi dweud 'Wel, addewid gan yr ymgyrch i "ymadael" oedd hynny; ac nid oedd yn addewid gan Lywodraeth Geidwadol.' Ond serch hynny, y Prif Weinidog oedd yn arwain yr ymgyrch i 'ymadael', ac felly rwyf i o'r farn y dylem ni fod yn ei ddwyn ef i gyfrif am yr addewid honno. Ar ddiwrnod y cylch gwario, fe gefais i sgwrs fer, unwaith eto, â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, sy'n draddodiadol, fel y gall ef roi gwybod inni am y dyraniadau cyn unrhyw ddatganiad ffurfiol.

Mae Nick Ramsay yn cyhuddo'r Prif Weinidog a minnau o fod braidd yn wangalon o ran ein hagwedd ni ar hyn. Ond fe gredaf i fod gennym ni bob hawl i hynny oherwydd, fel yr ydym ni wedi ei gydnabod ar sail tebyg am debyg, fe fydd ein cyllideb ni yn 2021 yn parhau i fod 2 y cant yn is, neu £3 miliwn yn is mewn termau gwirioneddol, na degawd yn ôl. A phe bai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi tyfu'n unol â'r economi ers 2010-11, fe fyddai £4 biliwn yn uwch yn 2021. Dychmygwch yr hyn y gallem ni ei wneud gyda hynny. A phe bai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi tyfu'n unol â'r duedd hirdymor mewn gwariant cyhoeddus, fe fyddai £6 biliwn yn uwch yn 2020-21. Felly, rwy'n credu bod hynny'n amlwg iawn yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r hyn y gallem ni fod yn ei gyflawni a'r arian ychwanegol y gallem ni ei roi i'n heriau fyrdd a'r blaenoriaethau sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Fe gawsom ni addewid o adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ystod cyfarfod pedair ochrog blaenorol y Gweinidogion cyllid, ond yn anffodus, ni ddaeth hynny i fod. Mae hynny'n siomedig am sawl rheswm, ond un ohonyn nhw yw ein bod ni'n cydymdeimlo'n fawr â'r galwadau gan ein partneriaid yn y sector cyhoeddus sy'n awyddus i allu cyllidebu dros gyfnod hwy i gefnogi eu blaengynllunio ariannol nhw. Ond nid yw'r cylch gwario un flwyddyn hwn a gaiff ei gyflwyno'n gyflym yn caniatáu i'n cydweithwyr mewn Llywodraeth Leol a gwasanaethau eraill gael y cyfle i wneud hynny. Ac, fel y dywedais, nid ydym ni'n hyderus y bydd y cylch gwario arbennig hwn yn gynaliadwy, nac y bydd y cyhoeddiadau sydd wedi cael eu gwneud yn dod i'r golau o reidrwydd, gan fod y Prif Weinidog yn llygad ei le y bydd yn rhaid pleidleisio ar unrhyw gyllid yn ôl y Ddeddf cyllid yn Senedd y DU ac, fel y gwelwn ni, nid yw Senedd y DU yn eistedd ar hyn o bryd.

O ran croeso Nick Ramsay i'r ffaith ein bod ni'n bwriadu cyflwyno'r gyllideb yn gynharach, fel y dywedais, rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Busnes eisoes. Cawsom sgwrs am hynny yn y Pwyllgor Busnes y bore yma a gwn fod y Pwyllgor Cyllid yn bwriadu mynd i'r afael â'r mater hwn yn eu cyfarfod nhw ddydd Iau. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud y cyhoeddiadau cyn gynted ag y bo modd. Ond mae'r gwaith ar y gyllideb wedi bod yn mynd rhagddo, mewn gwirionedd, ers—mis Mawrth diwethaf rwy'n credu imi ddechrau cael sgyrsiau gyda chydweithwyr yn y lle cyntaf Rydym yn cytuno ar ein strategaeth gyffredinol yn y Cabinet yn gynnar yn y gwanwyn bob blwyddyn, ac yna ceir cyfres o gyfarfodydd dwyochrog rhyngof fi a Gweinidogion eraill—ac rydym ni'n mynd drwy rownd arall o'r rhain ar hyn o bryd—gan nodi blaenoriaethau, cyfleoedd a gwasgfeydd ac ati. Bydd y rhain yn llywio'r gyllideb, fel y bydd y gyfres o ymweliadau a ymgymerais i dros yr haf a'r gyfres o gyfarfodydd eraill yr wyf i wedi eu trefnu gyda phartïon sydd â diddordeb yn ystod yr wythnosau nesaf.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:25, 17 Medi 2019

Dwi'n meddwl bod y cyd-destun cyllidol yn newid cymaint a’r anrhefn rydyn ni’n ei wynebu yn dwysáu i’r graddau fel ei bod hi’n anodd iawn dod i gasgliadau pendant ynglŷn â beth fydd impact tebygol datganiad y Canghellor. Ni allwn ni ddweud beth ydy gwerth y £593 miliwn ychwanegol mewn difrif, ac mae’r gair 'ychwanegol' yna mewn dyfynodau gen i. Mae’n anodd iawn dweud beth fydd y costau ychwanegol a ddaw yn sgil llanast Brexit. Rydyn ni’n gwybod bod yna biliynau o bunnoedd yn ychwanegol yn cael eu rhoi gan Lywodraeth Prydain tuag at baratoi am Brexit—o, yr eironi—ond dydyn ni ddim yn gwybod, go iawn, beth fydd y costau o ymateb iddo fo o bwrs Llywodraeth Cymru, ac mi fydd costau, wrth gwrs, yn anochel.

Dydyn ni ddim yn gallu dweud beth fydd yr impact ar refeniw trethiant. Mae pob darn o dystiolaeth yn awgrymu mai impact negyddol bydd o’n ei gael—o bosib yr economi'n crebachu 10 y cant. A hyd yn oed os mai dim ond dros gyfnod byr fyddai o, mi fyddai effaith hynny’n andwyol iawn ac yn cael impact ar y pwrs cyhoeddus. Ond hefyd, cofiwch fod dim datganiad wedi dod gan Lywodraeth Boris Johnson ar y shared prosperity fund yma. Heb arian ychwanegol i gymryd lle cyllid Ewropeaidd os ydyn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, mi fyddwn ni ar ein colled o gannoedd o filiynau o’r cychwyn. Felly, dyna’r cefndir. Does dim modd mesur beth ydy gwerth yr arian yma.

Ychydig o gwestiynau gen i. Datganiad un flwyddyn oedd hwn, wrth gwrs, nid tair. A allwch chi ddweud wrthym ni a oes bwriad ar y pwynt yma i roi rhagor o arian i mewn i gronfeydd wrth gefn? Y rheswm, wrth gwrs, oherwydd ansicrwydd ar lefel eithaf sylfaenol o 2021-22 ymlaen, mi fydd angen paratoi ar gyfer yr ansicrwydd hwnnw. Hefyd, dwi’n croesawu, fel aelod o’r Pwyllgor Busnes a’r Pwyllgor Cyllid, yn digwydd bod, y bwriad i ddod â datganiadau’r gyllideb ymlaen. Y mwyaf o amser sydd gennym ni i sgrwtineiddio’r rheini, i fynd allan a thrafod efo rhanddeiliaid, y gorau, wrth reswm.

Ond, gaf i ofyn am sicrwydd buan bod yn rhaid i ddegawd o doriadau i gyllidebau llywodraeth leol yn benodol ddod i ben? Mae'n rhaid gweld cynnydd go iawn mewn cyllidebau rŵan. Dydy setliad fflat ar gyfer y flwyddyn nesaf ddim yn mynd i fod yn dderbyniol. Yn Ynys Môn, er enghraifft, mi fues i'n trafod efo swyddogion y cyngor yr wythnos yma, ac mi fydd angen rhywbeth fel £6 miliwn yn ychwanegol i aros yn llonydd. A dyna ydy'r realiti gwirioneddol. A do, mi fu'n rhaid i gyngor Ynys Môn wneud y penderfyniad anodd i godi'r dreth gyngor o bron i 10 y cant y llynedd. Ni allan nhw feddwl am godi o'r un faint yn y flwyddyn nesaf. Fyddai hynny ddim yn gynaliadwy i'm hetholwyr i, felly mae'r dewis yna wedi mynd allan o'r ffenest. Felly, all setliad fflat ddim rhywsut cael ei werthu fel newyddion da ar gyfer y flwyddyn nesaf; mae'n rhaid gweld cynnydd go iawn yn y cyllidebau hynny.

Ac efo hynny o gwestiynau am y tro, mi adawaf i hi.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:28, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Rhun ap Iorwerth am godi'r materion hynny. Y cyntaf oedd cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £2 biliwn arall yn 2021 i ymateb i effeithiau tebygol ymadael â'r UE. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod, ar sail yr hyn a ddywedodd y Canghellor, ei bod hi'n debyg na fydd Cymru yn gweld—neu yn sicr ni fydd Llywodraeth Cymru yn gweld—llawer o'r arian hwnnw, oherwydd ei fod yn canolbwyntio'n fawr ar feysydd polisi neilltuol. Felly, nid oes gennym unrhyw ddisgwyliad y bydd hynny'n cyrraedd Cymru, ac yn amlwg mae hynny'n destun pryder mawr inni. Cytunaf yn llwyr â'r pryderon bod y Canghellor, gyda llai na 60 diwrnod eto cyn diwrnod yr ymadael, yn gwbl dawedog ynglŷn â'r mater o gyllid newydd i gefnogi ein cymunedau a'n busnesau ni yng Nghymru. Nid oes gennym ddim hyd yma o ran cronfa ffyniant a rennir i'r dyfodol. Rydym ni'n deall fod yna bapur, ond rwy'n dechrau amau a yw'r papur hwnnw'n bodoli hyd yn oed ac a oes gwaith wedi cael ei wneud arno, oherwydd fe addawyd hwn lawer gwaith ond ni ddaeth i'r golwg eto.

Felly, bydd angen cyllid ychwanegol, ac fel y mae Rhun ap Iorwerth yn sylweddoli, mae'n anodd iawn inni fesur faint o arian a fydd ei angen, oherwydd mae cymaint o bethau i'w hystyried a chymaint o wahanol ffurfiau y gallai Brexit ei gymryd eto, er ein bod ni'n deall beth fydd y senarios mwyaf tebygol. Felly, rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i roi rhagor o gyllid i liniaru effeithiau Brexit 'dim cytundeb' ac, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr oeddem ni'n ei bwysleisio gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn y cyfarfod pedair ochrog ynglŷn â chyllid ddiwedd mis Awst.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod ein bod ni hefyd, ynghyd â chyllid ychwanegol, yn chwilio am hyblygrwydd newydd i ymateb i Brexit 'dim cytundeb' a'n helpu i reoli'r newid hwnnw drwy gyfnod gwarant Trysorlys ei Mawrhydi. Felly, er enghraifft, gallai hynny gynnwys cynyddu'r terfynau blynyddol ac agregedig ar gyfer defnyddio cronfa wrth gefn Cymru ac yn y blaen. Felly, ceir gwahanol ystyriaethau a gwahanol sgyrsiau yr ydym yn  ceisio eu cael â Llywodraeth y DU yn hyn o beth.

Fe dynnodd Rhun sylw hefyd at y ffaith ein bod ni wedi cael setliad blwyddyn yn hytrach na setliad tair blynedd. Yn ogystal â'i gwneud hi'n anodd inni gynllunio ymlaen llaw, mae yna rai ystyriaethau ymarferol iawn hefyd. Felly, pan fydd Llywodraeth y DU yn pennu'r dyraniad ar gyfer Llywodraeth Cymru, fel rheol, yng nghylch yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, byddai adolygiad llawn o'r ffactorau cymharedd yn fformiwla Barnett cyn yr adolygiad hwnnw o wariant, ac fe fyddai hynny'n pennu'r gyfran o bob cyllideb adrannol Llywodraeth y DU sydd i'w gwario ar raglenni nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Yna fe ddefnyddir gwybodaeth gyllidebol ddiweddar i sicrhau bod y cyfrannau hynny'n gyfredol ac yn adlewyrchu trefniadau adrannol diweddaraf y DU. Ond, yn anffodus, yn yr achos hwn, nid oes amser wedi bod na gwaith wedi digwydd ar ddatblygu'r rhain a mireinio'r ffactorau cymharedd hynny. Felly dim ond arolwg rhannol iawn a gafwyd o'r rhain, sy'n golygu nad yw fformiwla Barnett yn defnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer dosrannu gwariant i weinyddiaethau datganoledig. Felly, dyna reswm arall pam mae adolygiad un flwyddyn yn gwbl anfoddhaol, o'i gymharu â datganiad mwy cynhwysfawr o dair blynedd.

Gofynnwyd y cwestiwn hefyd ynghylch pa ystyriaeth fydd yn cael ei rhoi i gronfa wrth gefn Cymru. Wel, bydd hyn yn rhan o'r trafodaethau cyffredinol sydd gennym ni yn y Llywodraeth. Ac rwy'n rhannu edmygedd Rhun ap Iorwerth o lywodraeth leol. Rwy'n credu eu bod nhw wedi gwneud ymdrechion arwrol i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn parhau mewn cyfnod anodd iawn, ac rydym ni'n gwerthfawrogi pa mor enfawr yw'r pwysau sydd ar Lywodraeth Leol. Felly, yn ein trafodaethau cynnar, ac fel y dywedais yn fy natganiad, rydym wedi bod yn awyddus iawn bod iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ond, ar yr un pryd, mae rhoi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol yn ganolog i'n hystyriaethau ni.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:33, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Yn ail, hoffwn i ddiolch i'r Canghellor, Sajid Javid, am gadarnhau'r hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud ers imi gael fy ethol yn 2011: polisi gwleidyddol yw cyni ac nid polisi economaidd. Mae'r ddyled genedlaethol wedi codi o £1.78 triliwn i £1.82 triliwn yn y flwyddyn ddiwethaf, felly nid oes gennym lai o ddyled fel gwlad. Ac nid wyf i'n credu mai gormod o athrawon, gormod o lyfrgellwyr a gormod o feddygon oedd achos y dirwasgiad. Rwyf i o'r farn iddo gael ei achosi gan fancwyr yn ymhél â chyfalafiaeth y casino.

Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hyd yn hyn ar baratoadau ar gyfer cyllideb yr hydref, er bod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn datgan y dylen nhw roi 10 wythnos o rybudd i'r swyddfa. Mae llythyr y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol at Lywodraeth y DU yn ei gwneud hi'n glir y byddai angen i'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wybod ar ba senario Brexit y dylai ei diweddariad fod yn seiliedig: cytundeb neu heb gytundeb—mae hynny'n swnio fel rhaglen deledu—cyn egluro bod rhybudd diweddar yn golygu y bydd Trysorlys Ei Mawrhydi yn dibynnu ar ragolwg bras iawn gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol neu ddim un o gwbl.

Rwyf eisiau croesawu'r arian ychwanegol; mae codiadau mewn termau gwirioneddol o 2.3 a 2.4 y cant mewn refeniw a chyfalaf yn amlwg o fudd i economi Cymru. Mae'n siomedig iawn nad oedd hwn yn setliad tair blynedd yn seiliedig ar yr un union godiadau o 2.3 a 2.4 mewn termau gwirioneddol.

Mae gennyf dri chwestiwn i'r Gweinidog. Rydym wedi gweld yr hyn a gawsom ni gan San Steffan: a yw Llywodraeth San Steffan wedi dangos y cyfrifiadau a ddefnyddiwyd ganddyn nhw i gyfrifo cyfran Cymru ac a oes system i apelio mewn bodolaeth, sy'n annibynnol ar y Trysorlys? Rydym wedi siarad am hynny ers cryn amser—y gallu i apelio yn erbyn yr hyn a ddywedodd y Trysorlys. Ni allwn gael sefyllfa lle gall y Trysorlys wneud penderfyniad, a phan nad ydych chi'n hapus, y Trysorlys yn dweud wrthych, 'Wel, rydym ni wedi ailedrych arno eto a dyma'r hyn yr ydych chi'n mynd i'w gael.' A'r peth olaf yw hyn—ac mewn gwirionedd mae'n dilyn yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth, a bydd pobl yn gwybod fy mod i'n gefnogwr brwd o lywodraeth leol Cymru, ni waeth pa blaid sy'n rhedeg y cyngor, neu ddim un—a yw'r Gweinidog yn derbyn bod angen arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol fel gofal cymdeithasol ac addysg? Ac os ydym yn cael cynnydd mewn termau gwirioneddol, pam na allwn ni ddweud nawr na fydd unrhyw awdurdod lleol yn gweld gostyngiad mewn termau gwirioneddol?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:35, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mike Hedges am godi'r pwyntiau hynny, a hefyd am dynnu sylw eto at y ffaith mai dewis gwleidyddol yw cyni a dim mwy na hynny. Yn sicr, nid anghenraid mohono.

O ran a yw Llywodraeth y DU yn rhannu ei chynllunio gyda ni, wel, mae hynny'n mynd yn ôl at y ffactorau cymharedd y mae Llywodraeth y DU yn eu defnyddio i weithio allan ein cyfran ni o fformwla Barnett ar gyfer y gwahanol adrannau. Ond, fel yr wyf i'n dweud, nid ydyn nhw wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu cyfrifoldebau mwyaf diweddar yr adrannau, sy'n siomedig tu hwnt. Byddai'r darn hwnnw o waith fel arfer yn digwydd dros nifer o fisoedd, gyda Llywodraeth y DU a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio yn agos, ond nid yw hynny wedi digwydd y tro hwn. Ond ceir pwynt diddorol arall yn y fan hon, oherwydd mae ein setliad cylch gwario ni'n cynnwys addasiad ar gyfer incwm ardrethi annomestig, ac mae honno'n elfen a gaiff ei derbyn o fformiwla Barnett sydd â'r bwriad o sicrhau nad yw'r gweinyddiaethau datganoledig sy'n  cadw eu hardrethi annomestig eu hunain yn elwa hefyd ar y cynnydd mewn gwariant ar derfynau gwariant adrannol yn Lloegr a ariennir o'r ardrethi annomestig yn Lloegr. Heb addasiad o'r fath, yn amlwg, fe fyddai gweinyddiaethau datganoledig, i bob pwrpas, yn elwa ar y cynnydd yn eu refeniw ardrethi annomestig eu hunain ac yna ar y cynnydd yn refeniw ardrethi annomestig yn Lloegr hefyd. Er hynny, roedd maint yr addasiad yn y cylch gwario, sef bron i £180 miliwn, yn sicr yn annisgwyl, rwy'n credu, o ran yr hyn yr oedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ei ddisgwyl. Felly, rydym ni mewn trafodaethau ynglŷn â hynny gyda Thrysorlys ei Mawrhydi. Ac mae'r addasiad hwnnw i raddau helaeth yn esbonio pam mae'r twf yn ein dyraniad ni yng Nghymru yn 2020-1—felly, y cynnydd o 2.3 y cant mewn termau gwirioneddol— yn llai na'r cynnydd yn adrannau'r DU fel iechyd ac addysg, sydd dros 3 y cant yn uwch mewn termau gwirioneddol. Gan hynny, gallem fod yn dymuno herio hynny, a'r ffordd arferol y byddem ni'n gwneud felly fyddai apelio drwy gyfrwng Cyd-bwyllgor y Gweinidogion. Nawr, mae honno'n ffordd gwbl anfoddhaol o ymdrin ag anghytundebau rhwng Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig, ac felly mae'n rhaid i ran o'r berthynas rynglywodraethol a'r isadeiledd sy'n cefnogi hynny yn y dyfodol gynnwys ffordd fwy boddhaol i genhedloedd datganoledig fynegi eu pryderon, yn enwedig pan fo hynny'n ymwneud â phenderfyniadau a dyraniadau cyllidebol.

Nid wyf i mewn sefyllfa heddiw i wneud unrhyw gyhoeddiadau ac nid wyf o'r farn y byddai'n deg gwneud hynny, oherwydd nid wyf wedi cwblhau'r rownd ddiweddaraf o gyfarfodydd dwyochrog y gyllideb gyda chydweithwyr. Mae gennyf lawer o randdeiliaid i siarad â nhw eto. Rwyf wedi cwrdd sawl gwaith â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ond rwy'n cwrdd â'r comisiynydd pobl hŷn, Comisiynydd y Gymraeg ac eraill hefyd i drafod eu barn nhw am y gyllideb, yn ogystal â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Dros yr haf, bûm ar gyfres o ymweliadau, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Fe wnes i ymweld â chynlluniau a oedd yn dod o dan bob un o wyth maes blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, i ehangu fy ystyriaeth, mewn gwirionedd, o'r hyn y gellid ei gyflawni, yn enwedig pan fyddwn ni'n gweithio mewn dull traws-lywodraethol, cydweithredol, gan ddod â Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn fyw.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 4:38, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Yn flaenorol rwyf wedi nodweddu rhai o gyfraniadau'r Gweinidog cyllid fel cwynion hirfaith am gyni ac weithiau Brexit. Pan wrandawais i ar ddatganiad y Canghellor a chlywed nid yn unig y datganiad bod cyni ar ben, ond bod cynnydd sylweddol mewn gwariant, a chan ddechrau ystyried beth y byddai hynny'n ei olygu o ran pa arian ychwanegol a ddaw i Gymru, meddyliais 'Beth ar y ddaear fydd gan Rebecca Evans i'w ddweud nawr?' Roeddwn i'n gobeithio y byddem ni efallai'n clywed mwy am eich cyfrifoldebau chi yn hytrach na'r cwynion am gyni, ond heddiw clywsom yr un hen gân eto. Mae fel pe bai dim newid wedi bod. Nid oes croeso yn unman yn eich datganiad chi i'r cynnydd hwn mewn gwariant. Os ydych chi'n poeni cymaint am gyni, pan fydd Llywodraeth y DU yn dechrau cynyddu gwariant, a'i gynyddu'n sylweddol, pam nad ydych chi'n ei groesawu? Ym mhobman yn eich datganiad rydym yn gweld y dehongliad mwyaf pesimistaidd. Gadewch imi roi ychydig o enghreifftiau i chi. Efallai y gall rhai o'ch meincwyr cefn fod o gymorth. Rydych chi'n dweud :

Ers mis Mawrth mae data swyddogol wedi dangos bod economi'r DU wedi crebachu yn yr ail chwarter ac mae data'r arolwg diweddaraf yn dangos ei bod yn egwan o hyd.

Pam ydych chi'n mynd ymlaen at y data arolwg diweddaraf? Pam nad ydych chi'n ystyried y data swyddogol diweddaraf? Cawsom ddata cynnyrch domestig gros ar gyfer mis Gorffennaf a oedd yn dangos ei fod wedi codi 0.3 y cant mewn un mis yn unig, o fis Mehefin i fis Gorffennaf. Oni bai y gwelir cwymp sylweddol ym mis Awst a Medi, byddwn yn gweld twf yn y trydydd chwarter. Pam nad oeddech chi'n sôn am hynny?

Yna, fe ewch chi yn eich blaen i ddweud:

Mae economi lai yn golygu refeniw treth is.

Eto i gyd, mae'n fwy cymhleth na hynny. Mae gennym system sy'n flaengar a heb ei mynegeio yn llawn, felly hyd yn oed os nad yw'r economi wirioneddol yn tyfu, mae chwyddiant, gyda phopeth arall yn gyfartal, yn arwain at rywfaint o refeniw treth dros amser. Yn llawer mwy arwyddocaol, roedd yn rhaid edrych nid yn unig ar y gyfradd dwf gyffredinol, ond ar y gymysgedd o dwf, oherwydd mae hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r hyn yr ydym ni'n ei gael o ran refeniw treth. Roeddwn i'n bryderus adeg y gyllideb, nad oedd dim newid yn y rhagolygon chwe mis yn ddiweddarach ac, i bob golwg, nad oedd unrhyw ystyriaeth i'r hyn oedd cymysgedd y twf a'r goblygiadau ar gyfer treth. Onid yw'r Gweinidog dros Gyllid yn deall, pan ydym ni'n gweld twf, fel yr ydym ni wedi gwneud yn ddiweddar, fod hynny'n canolbwyntio'n fawr ar y defnyddiwr, rydym ni'n gweld marchnad lafur gref o ran cyflogaeth ac yn fwy diweddar o ran twf cyflogau—sy'n arwain ymlaen gyda lluosydd sylweddol at dderbyniad mwy o dreth? Eto i gyd, yn y mannau lle gwelwyd gwendid yn yr economi—yn enwedig mewn buddsoddiadau, i raddau mewn allforion—mae'r mannau hynny'n aml yn tynnu oddi wrth dderbyniad treth. Os ydych chi'n allforio, fe gewch chi ad-daliad treth ar werth. Os ydych chi'n buddsoddi, fe gewch chi lwfans cyfalaf ac fe fyddwch chi'n gwario llai mewn treth gorfforaethol. A wnaiff y Gweinidog ystyried y gymysgedd o dreth ac ymgysylltu â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ynglŷn â'r materion hyn, gan ei bod hi ei hunan yn gyfrifol am gryn dipyn o dreth erbyn hyn?

A gaf i hefyd ei holi ynglŷn â'r sylw hwn:

Rydym yn gwybod bod yr economi yng Nghymru yn debygol o fod tua 10 y cant yn llai?

Nid ydym yn gwybod hynny. Cafwyd rhagolwg gan weision sifil yn y Trysorlys—yr union weision sifil a roddodd y rhagolygon hynny i ni y ceid dirwasgiad ar unwaith pe baem ni'n pleidleisio i ymadael ac y byddai cynnydd mewn diweithdra o 0.5 miliwn o fewn blwyddyn. Ni ddigwyddodd hynny, naddo? Mae'r rhagolwg hwnnw gan y Trysorlys wedi ei ddisodli gan nifer o ragolygon gan Fanc Lloegr. Pan gyhoeddodd y Trysorlys y rhagolwg hwnnw—allbwn o 10 y cant yn is—cafwyd rhagolygon tebyg gan Fanc Lloegr. Ac eto i gyd, maen nhw wedi ei ddiwygio ddwywaith ar ôl hynny. Y tro cyntaf i lawr i 8 y cant, ac yna i lawr i 5 y cant. Mae hyd yn oed eu rhagamcanion nhw o economi 5 y cant yn llai yn dibynnu ar ragdybiaeth fod Banc Lloegr yn ymateb i Brexit 'dim cytundeb' drwy godi cyfraddau llog o 0.75 i 4.5 y cant. Nid wyf i'n credu bod unrhyw un yn y sector preifat yn ystyried bod honno'n dybiaeth realistig, ond eto mae'r Gweinidog yn dweud 'rydym yn gwybod'.

Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at wyth maes blaenoriaeth ac maen nhw'n cynnwys datgarboneiddio a bioamrywiaeth. Ac yna fe ddywedwch chi:

Rydym yn cydnabod bod yr wyth maes hyn...yn adlewyrchu'r adegau ym mywydau pobl pan fo'r angen mwyaf am gymorth arnyn nhw.

A wnewch chi egluro sut mae hynny'n berthnasol i feysydd blaenoriaeth datgarboneiddio a bioamrywiaeth? Hefyd, os yw datgarboneiddio, fel y dywedwch chi, yn gymaint o flaenoriaeth, pam wnaeth y Llywodraeth hon haneru ei gwariant ar brosiectau newid  hinsawdd yn ei chyllideb atodol gyntaf?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:43, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, fe wnes i fwynhau'r ddarlith gyllidol ac economaidd gan Mark Reckless yn fawr iawn ac rwyf i am roi un arall iddo ef, oherwydd mae economi'r DU wedi tanberfformio o'i chymharu â'r prif economïau eraill i gyd ers cyhoeddiad y penderfyniad i gael refferendwm yr UE yn 2015. Oddi ar y refferendwm ei hunan, fe amcangyfrifir bod cynnyrch domestig gros—ac roedd Mark Reckless yn awyddus i sôn am gynnyrch domestig gros—rhwng 1 a 2 bwynt canran yn is nag y byddai wedi bod fel arall. I egluro, mae hynny'n cyfateb i rhwng £300 a £600 yr unigolyn bob blwyddyn yng Nghymru. Mae incwm cenedlaethol neu gynnyrch domestig gros wedi gostwng 0.2 y cant yn ail chwarter y flwyddyn hon. Gostyngodd cynnyrch domestig gros y pen 0.4 y cant. Mae arolygon busnes yn awgrymu bod momentwm wedi aros yn negyddol yn y trydydd chwarter. Os bydd cynnyrch domestig gros yn crebachu yn y chwarter presennol, bydd economi'r DU mewn dirwasgiad. Ar y gorau, mae rhagolygwyr prif ffrwd yn disgwyl i'r economi dyfu ar gyflymder cymedrol yn unig dros y ddwy flynedd nesaf, hyd yn oed os bydd y DU yn gadael yr UE mewn ffordd drefnus.

Mae benthyca—ac roedd Mike Hedges yn cyfeirio at fenthyca—wedi cynyddu'n sydyn yn ystod pedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol, ymhell y tu hwnt i ragolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer cyllideb y gwanwyn. Bydd cylch gwario Llywodraeth y DU yn ychwanegu ymhellach at fenthyca, fel y gall rheolau cyllidol Llywodraeth y DU ar fenthyca a dyled gael eu torri, sy'n golygu bod tebygolrwydd uchel y daw rownd arall o gyni i'r golwg yn y dyfodol agos. Benthyciodd Llywodraeth y DU £24 biliwn yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, sy'n cyfateb i 1.1 y cant o'r cynnyrch domestig gros. Ym mhedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol, mae'r benthyciadau wedi cynyddu'n sylweddol o'u cymharu â blwyddyn yn ôl. Polisi Llywodraeth y DU ar Brexit yw taflu'r economi ar y domen. Mae'r data arolwg diweddaraf, fel y dywedodd Mark Reckless, yn dangos y gall y DU fod mewn dirwasgiad eisoes. Y data arolwg a ddefnyddir yw data o arolygon o fynegrifau rheolwyr prynu, sydd ar y cyfan ag enw da ac o fod yn rhesymol o ran rhagweld y data swyddogol. Maen nhw'n dangos y gallai cyfradd twf yr ail chwarter fod yn wastad neu fymryn yn negyddol, a bydd llawer yn dibynnu ar y canlyniadau ar gyfer mis Medi. Bydd y rheini yn eu tro yn cael eu dylanwadu gan y graddau y mae busnesau a defnyddwyr yn rhagweld Brexit 'dim cytundeb', a hyd yn oed os yw twf y trydydd chwarter yn gadarnhaol, efallai fod hynny'n cael ei sbarduno gan gasglu stoc wrth ragweld Brexit. Felly, pe byddai hyn yn digwydd, gallai twf sylfaenol aros yn negyddol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny wedi helpu i egluro'r sefyllfa ac wedi helpu i egluro'r sylwadau yn fy natganiad.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 4:46, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog? Mae'n amlwg, hyd yn oed gyda'r cynnydd cyfyngedig a welwn ni yn y cylch gwariant eleni, nad yw effaith 10 mlynedd o gyni yn cael sylw digonol a bod Cymru'n dal i wynebu sefyllfaoedd ariannol anodd iawn yn y blynyddoedd i ddod. Roedd hi'n ddiddorol clywed sylwadau Nick Ramsay wrth y Prif Weinidog yn gynharach ac mewn ymateb i chi, Gweinidog, pan roedd yn rhaid i hyd yn oed Nick gydnabod ein bod wedi cael rhywfaint o doriadau. Rwy'n credu eich bod chi'n dechrau meistroli'r grefft o gynildeb nawr, Nick. [Chwerthin.]

Ond mae hefyd yn glir o'r hyn—[Torri ar draws.] Mae hefyd yn glir o'r hyn y mae'r cyn-Brif Weinidog Torïaidd David Cameron wedi'i ysgrifennu yn ei atgofion ei fod yn credu y dylai ei Lywodraeth fod wedi gwneud toriadau mwy a chyflymach mewn gwirionedd. Awgrymodd y dylai ei Lywodraeth fod wedi bod yn llymach gyda'r diffyg ar ôl iddo ddod yn Brif Weinidog yn 2010. Dywedodd:

Fy asesiad i nawr yw na wnaethom ni, fwy na thebyg, dorri digon.

Ac mae'n mynd ymlaen i ddweud:

Byddai'r rhai a oedd yn gwrthwynebu cyni yn gwrthwynebu, a hynny'n hysterig iawn, beth bynnag a wnaem ni... cystal inni fod wedi rhwygo'r plastr ymaith gyda mwy o doriadau'n gynnar.

A fyddech chi'n cytuno â mi, Gweinidog Cyllid, er gwaethaf yr hyn y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei ddweud heddiw a'r galwadau rheolaidd ar Lywodraeth Cymru i wario mwy, ein bod yn gwybod erbyn hyn y byddai wedi bod yn well ganddyn nhw gwtogi mwy fyth ar ein cyllidebau mewn gwirionedd, ac y dylai hynny fod yn rhybudd plaen i etholwyr Cymru, pryd bynnag y daw'r etholiad hwnnw, ac, oddi tanyn nhw a'u cyfeillion newydd yn y Blaid Brexit, na fyddwn yn gweld y cynnydd y mae taer angen amdano mewn llywodraeth leol a gwasanaethau rheng flaen eraill? A wnewch chi hefyd ymuno â mi i gondemnio eu trahauster wrth alw'r rhai ohonom ni sydd wedi gwrthwynebu'r difrod a achoswyd gan gyni yn hysterig?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:48, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr, wrth gwrs, â phopeth y mae Dawn Bowden wedi'i ddweud a'i dirmyg llwyr at sylwadau'r cyn-Brif Weinidog David Cameron y dylai fod wedi gwneud toriadau mwy a chyflymach. Dyna'r union fath o sylwadau y byddem ni'n eu dychmygu gan rywun nad oes ganddo unrhyw syniad o'r effaith a gaiff toriadau ar fywydau pobl gyffredin, unrhyw syniad o'r effaith a gaiff hynny ar y gwasanaethau a'r awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd ac eraill sydd dan bwysau, gan nad yw bywyd cyffredin yn effeithio dim ar bobl fel David Cameron a Boris Johnson, a phawb ar haenau uwch y mudiad Brexit. Nid yw'r neges y maen nhw'n ei chyflwyno yn effeithio arnyn nhw, nid yw goblygiadau Brexit 'dim cytundeb' yn effeithio arnyn nhw. Byddant yn ddigon hapus; byddan nhw'n gyfoethog beth bynnag sy'n digwydd. Ond nid yw hynny'n wir am ein hetholwyr ac nid yw hynny'n wir am y mwyafrif helaeth o'r bobl yng Nghymru y bydd polisi anghyfrifol yn effeithio'n ddrwg arnynt. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:49, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.