8. Dadl: Tasglu'r Cymoedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:35, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n obeithiol y bydd y cynllun yn dod â manteision amlwg i'n holl gymunedau yn y Cymoedd. Llywydd, mae eiddo gwag nid yn unig yn gartref sy'n cael ei wastraffu, mae hefyd yn falltod ar ardal: mae gerddi sydd wedi tyfu'n wyllt yn denu plâu ac mae ffenestri wedi eu torri fel craith ar stryd. Drwy fynd i'r afael â phroblem cartrefi gwag, byddwn yn meithrin gwead ein cymunedau a byddwn hefyd yn helpu'r ail o'n blaenoriaethau strategol: sef tyfu'r economi sylfaenol.

Y profiad yn RhCT yw hyn; wrth i gartrefi gael eu hadnewyddu defnyddir adeiladwyr a chrefftau lleol—mentrau bach a chanolig eu maint—sy'n ailgylchredeg gwariant yn eu hardal. Rydym hefyd yn defnyddio rhywfaint o ddyraniad y tasglu i gynyddu maint cronfa arbrofol yr economi sylfaenol, sy'n ein galluogi i ddyblu'r £1.5 miliwn y gwnaethom gytuno'n wreiddiol arno â Phlaid Cymru yn rhan o'n trafodaethau ar y gyllideb. Rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiadau ynghylch pa gynlluniau yr ydym yn eu cefnogi yn yr wythnosau nesaf.

Trydydd maes blaenoriaeth strategol yw entrepreneuriaeth a chymorth i fusnesau. Rwy'n ddiolchgar iawn am waith yr angel buddsoddi Andrew Diplock—y gwaith y mae wedi'i wneud fel aelod o'r tasglu yn y maes hwn. Mae wedi ein helpu i gynnal digwyddiad #PitchItCymoedd, lle ymgeisiodd 43 o entrepreneuriaid yn y Cymoedd i gymryd rhan. Mae chwech wedi cyrraedd y rownd derfynol erbyn hyn ac yn gweithio gyda mentoriaid cyn y sesiwn syniadau derfynol ddiwedd Tachwedd, lle bydd pob un yn gwneud cais am hyd at £75,000 o fuddsoddiad ecwiti.

Rydym hefyd yn treialu rhwydwaith o gymheiriaid i helpu busnesau sy'n bodoli eisoes i dyfu. Mae hwn yn syniad addawol iawn, rwy'n credu, i ddod â 10 o sylfaenwyr hyd yn hyn o gwmnïau lleol at ei gilydd i gynghori ei gilydd drwy ddefnyddio heriau twf busnes y byd go iawn, y gallant wedyn eu defnyddio yn eu busnesau eu hunain. Rydym yn gobeithio y gall hyn gynnig templed o ran sut y gallwn ni gefnogi cwmnïau sydd wedi'u sefydlu yng ngweddill Cymru.

Rydym hefyd yn gweithredu syniad a gyflwynwyd mewn gweithdy entrepreneuriaeth, a gynhaliais ym Medwas, o gymorthfeydd cyngor busnes lleol. Treialodd Aelod Cynulliad Caerffili, Hefin David, y syniad ym Margoed ym mis Mehefin, ac ers hynny rwyf wedi ysgrifennu at holl Aelodau Cynulliad etholaethau'r Cymoedd ac wedi cynnig gweithio gyda'n gilydd i gyflwyno model tebyg yn eu hardal, a bydd yr un nesaf yn cael ei gynnal yn Rhymni ddiwedd mis Tachwedd.

Dirprwy Lywydd, nid oes gennyf yr amser i sôn am yr holl weithgareddau ym mhob un o'r saith maes blaenoriaeth. Mae llawer yn digwydd, a byddwn yn cyhoeddi ein cynllun cyflenwi blynyddol ym mis Tachwedd, a fydd yn rhoi mwy o fanylion. Ond tynnaf sylw at ddau faes arall yn fy nghyfraniad agoriadol, os caf.

Gallu defnyddio trafnidiaeth reolaidd, ddibynadwy a fforddiadwy oedd y prif fater a amlygwyd yn ystod y cylch cychwynnol o ymgysylltu â'r tasglu. Buom yn cyd-gynnal ein digwyddiad cyntaf â Trafnidiaeth Cymru ym Merthyr yr wythnos diwethaf, dan gadeiryddiaeth Dawn Bowden, yr AC lleol, wrth gwrs, ac sydd erbyn hyn yn aelod llawn o'r tasglu. Byddwn yn cynnal digwyddiadau eraill ar draws y Cymoedd tan ddiwedd mis Hydref i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl leol am y datblygiadau yn eu hardal. Mae'n bwysig, ar ôl gofyn iddyn nhw am adborth, ein bod nawr yn adrodd yn ôl iddyn nhw ar yr hyn yr ydym yn ei wneud o ganlyniad i hynny.

Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n datblygu prosiect treialu i brofi gwasanaeth bws sy'n ymateb i'r galw yn ardal Glynebwy. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel math o Uber ar gyfer bysiau—nid i efelychu pob agwedd ar y gwasanaeth sy'n seiliedig ar ap ond i roi darlun o sut y credwn y gallwn arloesi o ran y ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn gweithio. Rydym hefyd yn datblygu cynigion ar gyfer cynlluniau treialu trafnidiaeth gymunedol yng Nghastell-nedd.

Rydym wedi gwrando ar yr adborth am y tasglu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n dweud bod rhai pobl yn ei chael hi'n anodd derbyn cynigion am waith ar stadau diwydiannol gan nad yw bysiau'n cydredeg â phatrymau shifft. Rydym felly'n ariannu cynllun treialu yn y Rhondda Fach uchaf i gael gweithwyr i ystadau diwydiannol Trefforest a Llantrisant mewn pryd i ddechrau gwaith. Mae hwn wedi bod yn rhedeg ers mis Mai, ac, hyd yn hyn, ceir arwyddion o lwyddiant, felly byddwn yn edrych ar sut y gellir cyflwyno hyn ar ol iddo gael ei werthuso.

Wrth gwrs, ar ben hyn i gyd mae'r gwaith sy'n digwydd ar y cynlluniau metro cyffrous—mae trenau newydd, gwasanaethau amlach a gorsafoedd gwell i ddod. Mae ymdrechion y tasglu i nodi canolbwyntiau strategol ar draws y Cymoedd wedi bod yn amhrisiadwy wrth ychwanegu gwerth i'r gwaith a gynlluniwyd. Rydym ni wedi darparu dros £600,000 o arian ychwanegol o'r tasglu i gynghorau Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf i gomisiynu astudiaethau dichonoldeb a chynllunio i ddatblygu canolfannau trafnidiaeth integredig uchelgeisiol ar draws y Cymoedd. Disgwylir i'r rhain gael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y tasglu ym mis Hydref.

Rydym yn sefydlu is-grŵp o'r tasglu i weld sut y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau yn ffordd Blaenau'r Cymoedd. Nid ydym eisiau i'r A465 fod yn ffordd osgoi o amgylch rhai o'n cymunedau sy'n wynebu'r heriau mwyaf, ond yn ffordd o ddod â swyddi a buddsoddiadau iddyn nhw. Mae fy nghydweithwyr sy'n cynrychioli'r etholaethau hyn wedi bod yn fy holi ynghylch hyn, ac rwyf yn falch bod Dawn Bowden wedi cytuno i arwain is-grŵp o'r tasglu i ganolbwyntio arno.

Yn olaf, Llywydd, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog a minnau bron i £7 miliwn o gyllid ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd. Bydd 11 o brosiectau da yn elwa. Ym Mharc Penallta, ger Ystrad Mynach ac Amgueddfa Lofaol Cefn Coed yng Nghwm Dulais, rydym yn ariannu cyfleusterau cwbl newydd yn llawn. Mae gan bob un o'r prosiectau bwyslais cymunedol cryf a byddant yn gweithredu fel pyrth i barc rhanbarthol y Cymoedd, cysyniad a hyrwyddwyd yn gryf gan fy rhagflaenydd, yr Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent.