Rhyddhad Ardrethi Busnes

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:01, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i ostwng biliau ardrethi annomestig i fusnesau a threthdalwyr eraill lle y tybiant y bydd hynny'n cael yr effaith fwyaf yn lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2019-20 i ddarparu rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn.