Rhyddhad Ardrethi Busnes

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:03, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Drefnydd. Rydych wedi sôn eisoes, ac mae eich rhagflaenwyr wedi sôn, am ddiwygio'r system ardrethi busnes yng Nghymru. O ran rhyddhad ardrethi busnes llawn, gall eiddo, wrth gwrs, sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 elwa o ryddhad ardrethi yn Lloegr, ond yng Nghymru, mae'r ffigur hwnnw'n berthnasol i eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn unig. A gaf fi ofyn ichi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ba gynnydd a wneir mewn perthynas â'r gwaith ar ddiwygio ardrethi busnes er mwyn cefnogi busnesau bach a chanolig, fel eu bod ar sail gyfartal o ran gwerth ardrethol, yn hytrach na'u bod dan anfantais am fod eu busnesau wedi'u lleoli yng Nghymru yn hytrach na thros y ffin yn Lloegr?