Trethi Ail Gartrefi

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:12, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Gallaf roi sicrwydd i chi ein bod yn cael y trafodaethau hyn gydag awdurdodau lleol o ran eu profiadau o'r mater, i ba raddau y mae'n broblem. Credaf ei fod yn amrywio ledled Cymru o ran faint o ail gartrefi a geir a faint o eiddo gwyliau ar osod a geir, ac yn sicr, mae'n broblem ddifrifol mewn rhai ardaloedd. Ond mae'n un yr ydym yn awyddus iawn i fynd i'r afael â hi oherwydd, fel y dywedais, mae gwaith ar y gweill gennym sy'n edrych ar ddyfodol y dreth gyngor, ac yn archwilio gwahanol ffyrdd o edrych ar y dreth gyngor, i geisio'i gwneud yn fwy blaengar, ac mae'n edrych ar drethi gwerth tir, ac ar dreth incwm leol—pob math o wahanol ffyrdd o godi trethiant lleol yn y dyfodol. Ac yn sicr, mae hyn yn rhan o hynny.