Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 18 Medi 2019.
Buaswn yn rhoi ateb syml i chi: pam na wnewch chi ddod â'r rhyddhad ardrethi busnes ar dai a fflatiau i ben? Pe baech yn gwneud hynny, ni fyddai’n gwneud unrhyw les iddynt gael eu galw’n fusnesau. Ni allaf weld unrhyw reswm da dros roi rhyddhad ardrethi busnes i dai a fflatiau. Pe baech yn dod â hynny i ben, byddech yn cael gwared ar yr anghysondeb, a gallwch wneud hynny yfory.