1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 18 Medi 2019.
4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol o ran darparu dyraniad cyllideb ychwanegol i ariannu ailgylchu yng Nghymru? OAQ54324
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i drafod ystod o faterion ariannol, gan gynnwys ailgylchu. Er gwaethaf y toriadau i’n cyllideb gyfalaf, rydym wedi buddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol dros y cyfnod 2018/19 i 2020/1 i gefnogi’r rhaglenni newid cydweithredol ar gyfer caffael gwastraff.
Diolch am eich ateb. Weinidog, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn anfon llawer o'r deunydd ailgylchu a gasglwyd ganddynt i ganolfannau ailgylchu yn Lloegr ac ymhellach dramor. Yn ein sir ein hunain yn Abertawe, er enghraifft, mae'r cyngor yn anfon miloedd o dunelli o wastraff i Dwrci, Tsieina, India, Indonesia a Gwlad Pwyl. A ydych chi'n cytuno felly fod angen i ni wneud mwy i ganolbwyntio ar yr agenda hon? A pha gyllid ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w ddarparu i awdurdodau lleol i ddatblygu canolfannau ailgylchu rhanbarthol neu genedlaethol i sicrhau ein bod yn ailgylchu popeth a allwn yng Nghymru, gan leihau ein hôl troed carbon a chreu swyddi i bobl yng Nghymru?
Wel, yn sicr, mae angen i mi gydnabod bod angen i ni wneud mwy yn y maes penodol hwn, oherwydd mae'n wir fod peth o'n gwastraff yn cael ei allforio i Ewrop, ac fel y dywedoch chi, i wledydd eraill o gwmpas y byd, ond mae'n bwysig cydnabod bod y rhan fwyaf ohono'n cael ei brosesu yma yng Nghymru. Rydym wedi cefnogi datblygiad seilwaith i brosesu ein gwastraff yma, gyda'r nod mwy hirdymor o brosesu cymaint o'n gwastraff ag y gallwn yma. Yn amlwg, nid ydym am i wastraff gael ei allforio o'r DU i wledydd eraill a pheidio â chael ei drin yn briodol, ac rydym wedi gweld rhai straeon yn y wasg ynglŷn â hynny.
Serch hynny, credaf mai'r rheswm pam ein bod wedi gallu cael y ffigurau rydych wedi'u dyfynnu i ni yw am mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU sy'n gorfodi awdurdodau lleol i ddefnyddio WasteDataFlow, sef system ar gyfer cofnodi data gwastraff trefol. Fel rhan o hynny, mae'n ofynnol bellach i awdurdodau lleol roi gwybod i ble mae eu gwastraff yn mynd yn y pen draw. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol gadarnhaol fod gennym eglurder a thryloywder o'r fath yn hynny o beth.
Bydd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ddydd Mawrth nesaf ar ailgylchu, a chredaf y bydd hwnnw'n gyfle arall i drafod hyn yn fanylach.
Clywaf yr hyn a ddywedoch chi, Weinidog cyllid, am lif gwastraff a monitro hynny o fewn awdurdodau lleol, ond does bosibl nad un o'r pethau y mae'n rhaid i chi boeni amdanynt fel Gweinidog cyllid yw cryfder y trywydd archwilio. Mae llawer ohonom wedi gweld lluniau ar y teledu ac mewn papurau newydd yn dangos gwastraff a ailgylchwyd o Gymru—ac mae pobl wedi mynd ati i wneud hynny gyda'r ewyllys gorau—yn ymddangos ar draethau filoedd o filltiroedd i ffwrdd o'r ynysoedd hyn. Felly, pa ymdrechion rydych yn eu gwneud i sicrhau bod y broses archwilio yn gadarn, ac y gellir defnyddio unrhyw arian newydd y gallech fod yn ei roi i'r mentrau ailgylchu i ailgylchu'r cynnyrch sydd ar gael yma yng Nghymru, neu yn wir, yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn hytrach na'i ddympio'n ddiseremoni ar draethau, fel y dywedais, filoedd o filltiroedd i ffwrdd?
Wel, fel y dywedaf, mae gofyniad statudol i awdurdodau lleol Cymru roi gwybod i ble mae'r gwastraff y maent yn ei gasglu yn mynd yn y pen draw, ond credaf fod pob un ohonom yn ymwybodol iawn o'r erthygl ddiweddar ar WalesOnline a ddangosodd fod 0.8 y cant o'r gwastraff a gasglwyd yng Nghymru yn cael ei anfon i gyrchfannau terfynol amhenodol. Yn amlwg, er mai canran fach iawn yw honno, mae'n rhywbeth sy'n peri cryn bryder i bob un ohonom. Felly, gallaf gadarnhau bod pob awdurdod lleol bellach wedi cael cais i adolygu eu contractau i sicrhau y gallwn roi diwedd ar hynny.