Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 18 Medi 2019.
A wnewch chi ddweud wrthyf fi, felly, beth yw pwrpas ehangu’r ddarpariaeth pan fo mwy a mwy o bobl ifanc yn cysylltu â mi yn dweud eu bod nhw'n methu â chael at y ddarpariaeth honno? Mae nifer ohonon ni yn y Siambr fan hyn, dwi’n siŵr, wedi gweld cynnydd yn y gwaith achos rŷn ni’n ei dderbyn gan fyfyrwyr chweched dosbarth mewn ysgolion Cymraeg sydd yn wynebu sefyllfa lle mae’r drafnidiaeth oedd yn cael ei ddarparu i’r ysgolion hynny gan yr awdurdodau lleol yn cael ei thorri. Dwi wedi delio ag achosion yn Wrecsam, yn sir y Fflint, yn sir Ddinbych ac mewn siroedd eraill ar draws y gogledd—rhai ohonyn nhw wedi'u datrys; yn anffodus, rhai ohonyn nhw ddim. Felly, a gaf i ofyn beth ydych chi am ei wneud i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad trwy drafnidiaeth i’r ysgolion hynny lle mae’r ddarpariaeth ychwanegol yma rŷch chi’n sôn amdano fe yn cael ei darparu?