Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:22, 18 Medi 2019

Wel, rŷn ni'n treulio eithaf lot o amser ar hyn o bryd yn treial sicrhau ein bod ni yn gwella’r sefyllfa sydd wrthi ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cyfarfod arall y bore yma gyda’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros addysg. Mae’r ddwy ohonon ni wedi ysgrifennu at y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, felly mae yna ymgais nawr i fynd ati i sicrhau ein bod ni’n gallu dod i le gwahanol gyda’r broblem yma. Mae yna refresh yn mynd i fod o’r Learner Travel (Wales) Measure 2008—mae hwnna’n digwydd yn yr hydref. Wrth gwrs, mae hwnna’n gyfle i bobl ymateb i ymgynghoriad, ond rŷn ni yn cydnabod bod yna broblem, ac, yn arbennig, fod yna broblem yn sir y Fflint a hefyd yn ardal Castell Nedd hefyd.