Hamdden a Chwaraeon yn y Gymuned

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:26, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Joyce. Mae annog ein cymunedau i fod yn fwy egnïol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn y flwyddyn 2018-19, darparodd ein partner cyflenwi, Chwaraeon Cymru, oddeutu £16 miliwn i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol a phartneriaid eraill yn benodol er mwyn datblygu chwaraeon cymunedol ac i'w cynorthwyo i ddarparu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy'n adlewyrchu anghenion lleol.