Hamdden a Chwaraeon yn y Gymuned

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:27, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb. Yn ddiweddar, ymwelais â phrosiect Agor Drenewydd ym Mhowys ac mae'n rhan o brosiect trosglwyddo asedau cymunedol gyda 130 erw o fannau gwyrdd a sicrhaodd brydles 99 mlynedd gan gynghorau Powys a'r Drenewydd. Ac mae sawl elfen i'r prosiect hwn, a byddant yn cael eu cyflawni dros bum mlynedd, gyda chyllid o sawl ffynhonnell. Ond prif nod y prosiect yw gwella mannau gwyrdd yn y Drenewydd ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr, ac mae'n cynnwys pwyslais cryf iawn ar wella chwaraeon a hamdden i bawb. Mae'n gwneud hynny mewn sawl ffordd: gwella llwybrau, caeau pêl-droed, mannau chwarae ac adeiladu pont droed ar gyfer cerddwyr a beicwyr. A ydych wedi gwneud unrhyw asesiad, Weinidog, o'r defnydd posibl o brosiectau trosglwyddo asedau cymunedol i wella gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden yn y cymunedau hynny?