Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 18 Medi 2019.
Dirprwy Weinidog, efallai y byddwch chi yn ymwybodol o'r bartneriaeth hirsefydlog rhwng purfa Valero, Penfro a Chwaraeon Sir Benfro, sydd wedi cefnogi chwaraeon cymunedol ledled sir Benfro ers blynyddoedd bellach. Mae hyn, dwi'n credu, yn enghraifft arbennig o fusnesau yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a chymunedau lleol i gefnogi chwaraeon cymunedol, ac yn sicr mae'r bartneriaeth wedi cael effaith wirioneddol ar chwaraeon cymunedol ledled sir Benfro. Yn sgil hyn, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o berthnasoedd fel hyn, rhwng busnesau ac awdurdodau lleol, i ddatblygu rhaglenni chwaraeon cymunedol?