Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 18 Medi 2019.
Credaf fod gan bob un ohonom yn y lle hwn brofiad yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau o lwyddiant trosglwyddo asedau cymunedol. Mae'n ffordd o ymgymryd â gweithgarwch awdurdodau cyhoeddus mewn ffordd sy'n cysylltu ag anghenion y gymuned. Felly, byddwn yn sicr yn parhau i asesu effeithiolrwydd modelau ymddiriedolaeth a throsglwyddo asedau cymunedol, ac yn ein gwaith gyda Chwaraeon Cymru a chyrff cyhoeddus eraill y mae gennyf gyfrifoldeb amdanynt, rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o effeithiolrwydd trosglwyddo asedau cymunedol. Ac os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, buaswn yn argymell i chi ymweld ag Atebion Clwb ar wefan Chwaraeon Cymru, sy'n pwysleisio sut y gall modelau ymddiriedolaeth a throsglwyddo asedau cymunedol fod yn ffordd effeithiol iawn i gymunedau reoli cyfleusterau chwaraeon a gweithgareddau eraill eu hunain. Nid wyf wedi sôn, wrth gwrs, am y pwll nofio bendigedig a'r wal ddringo yn Harlech, ac ni ddylwn fod wedi gwneud hynny.