Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:24, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Pan fydd awdurdodau lleol yn datblygu eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, mae'n rhaid iddynt fod yn ymwybodol o'r materion trafnidiaeth mewn perthynas â sut y mae'r plant hynny'n cyrraedd yr ysgol. Wrth gwrs, mae gofyniad statudol iddynt ddarparu hynny i ysgolion cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr o dan 16 oed. Ceir problem i rai dros 18 oed, a dyma lle y cyfyd y broblem hon, oherwydd nid yw'n sefyllfa statudol ar hyn o bryd, ac rydym yn asesu beth yw'r posibiliadau i ailedrych ar y sefyllfa honno. Mae'n eithaf cymhleth, ac yn amlwg, gall fod rhai sgil effeithiau. Rydym yn treulio cryn dipyn o amser ar hyn o bryd yn ceisio mynd i'r afael â'r union fater hwn mewn gwirionedd.