Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 18 Medi 2019.
Weinidog, gwnaeth Llyr Gruffydd bwynt dilys iawn ynghylch pwysigrwydd gallu cael mynediad at y gwasanaethau cyfrwng Cymraeg hynny pan gânt eu darparu. Ac er bod pob un ohonom yn croesawu’r targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ac yn cydnabod pwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg i'r gwaith o gyflawni hynny, credaf ei bod hi'n debygol fod y pwysau y cyfeiriodd Llyr ato'n waeth byth mewn ardaloedd o Gymru sydd wedi'u Seisnigeiddio, fel yr ardal rwy'n ei chynrychioli, na'r hyn ydyw yn rhai o'r ardaloedd lle y ceir mwy o siaradwyr Cymraeg. Felly, gan gyfeirio at yr ateb a roesoch i Llyr ynglŷn â'r drafnidiaeth y gall myfyrwyr cyfrwng Cymraeg—ni chlywais eich ateb, ond yr ateb a roesoch—a allwch ddweud pa ffocws penodol yr ydych yn ei roi ar sicrhau bod fy etholwyr sy'n dymuno cael mynediad at wasanaethau Cymraeg, mewn ardal lle na fu modd gwneud hynny yn draddodiadol, yn cael cymorth penodol i sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau Cymraeg ar gael i bawb?