Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 18 Medi 2019.
Weinidog, mae hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym mywyd bob dydd pobl yn bwysig os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei tharged uchelgeisiol. Yn ddiweddar, datgelwyd bod llai na hanner 1 y cant o brentisiaethau yng Nghymru yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau i gynyddu'r cyfleoedd i'r rheini sy'n dymuno dysgu a hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig yn ein sector diwydiannol? Diolch.