Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, rôn ni yn pryderu fel Llywodraeth am yr hyn sy'n digwydd, yn arbennig yn ardal Ystalyfera gydag Ysgol Ystalyfera Bro Dur, ac rŷm ni’n falch dros ben i weld bod y llywodraeth leol yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi gohirio'r penderfyniad. Wrth gwrs, rŷm ni yn edrych ar y mater yma. Wrth gwrs, mae yna bwysau ariannol ar lywodraeth leol. Rŷm ni’n deall hynny, ond beth dŷn ni ddim eisiau gweld yw ei bod hi’n anoddach i bobl gael eu haddysg chweched dosbarth neu dros-16 drwy gyfrwng y Gymraeg. Dŷn ni ddim eisiau ei gweld hi’n anoddach, Ar hyn o bryd, mae hynny’n bosibl, yn gallu digwydd, ac felly dyna pam rŷm ni’n ceisio gweld sut bydd hyn yn bosibl. Wrth gwrs, os ydych chi eisiau newid guidance, mae hynny’n un peth. Os ydych chi eisiau newid deddfwriaeth, mae hynny’n fwy cymhleth, ac felly rŷm ni’n trafod ar hyn o bryd beth yw’r ffordd orau i fynd ati i edrych ac i sicrhau ein bod ni’n cael diwedd ar y broblem yma.