Part of the debate – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 24 Medi 2019.
Mae'r Prif Weinidog yn ceryddu arweinydd yr wrthblaid ynghylch parch at reolaeth y gyfraith, ond rwy'n cofio, yr wythnos diwethaf, yr hyn a ddywedodd ef a'i Gwnsler Cyffredinol am ddyfarniad rhwymol yr Uchel Lys ar y pryd yn ein hawdurdodaeth ni, a phenderfynasant y byddai'n well ganddynt dderbyn dyfarniad y llys o awdurdodaeth arall.
Yr hyn y byddwn yn ei ofyn i'r Aelodau ei ystyried—[Torri ar draws.]—os caf i barhau—wrth ymateb i'r dyfarniad hwn heddiw, rwy'n credu y byddai pob un ohonom ni'n ei weld yn llawer cryfach ac ehangach ei gwmpas nag y rhagwelwyd cyn y dyfarniad. Canlyneb hynny yw bod y Goruchaf Lys wedi mynd ymhellach nag yr oeddem ni'n ei ddisgwyl yng ngoleuni arferion cyfansoddiadol blaenorol. Ac rwy'n meddwl, o ran ystyried pa mor afresymol yw'r dyfarniad, y dylem ni ganolbwyntio ychydig ar baragraffau 49 a 50 y dyfarniad, sy'n gwneud y rhan fwyaf o gwaith trwm, lle dywed y llys, mae grym uchelfreiniol yn effeithiol dim ond i'r graddau y mae'n cael ei gydnabod gan y gyfraith gyffredin: fel y dywedwyd yn y Case of Proclamations, "nid oes gan y Brenin uchelfraint, ond yr hyn y mae cyfraith y wlad yn ei chaniatáu iddo". Mae grym uchelfreiniol wedi ei gyfyngu felly gan gyfraith statud a'r gyfraith gyffredin.
Roedd Achos y Proclamasiynau yn ymwneud â'r Goron yn dadwneud deddf a basiwyd gan y Senedd, a'r hyn a ganfu'r gyfraith gyffredin bryd hynny oedd na allai'r weithrediaeth weithredu yn groes i'r gyfraith na dadwneud cyfreithiau pan oedd y ddeddfwrfa wedi cyfyngu'r uchelfraint trwy basio deddf. Nid yw hynny'n wir yn y fan yma. Mae'r Senedd wedi cael dros 400 o flynyddoedd ers hynny i gyfyngu'r uchelfraint a rheoli sut y gellid ei defnyddio. Mae wedi dewis peidio â gwneud hynny, ac eto mae'r Goruchaf Lys wedi gwneud hynny ei hun drwy'r egwyddorion y mae wedi eu dehongli heddiw.
Yn yr un modd, yn nyfarniad blaenorol Miller, ar y cytuniad ar weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, gwelsom fod y Senedd wedi cyfyngu'r defnydd o erthygl 49—cymal passerelle—ond ni chyfyngodd ar y defnydd o erthygl 50. Ac eto, aeth y llys yn groes i'r egwyddorion dehongli statudol blaenorol i orfodi ei gyfyngiadau ei hun ar erthygl 50. Un maes— [Torri ar draws.]. Rwy'n disgrifio sut mae ei ddyfarniad yn afresymol. Nid yw afresymol yr un fath ag anghywir. Rwy'n gyfreithiwr a byddwn yn ofalus cyn mynd i'r cyfeiriad y mae'r Aelod yn gweiddi i'w berwyl.
Ym mharagraff 60 y dyfarniad, yn gwbl briodol, nid yw'r llys yn crwydro i feysydd gweithdrefn seneddol, ond mae'n rhagdybio bod y Senedd yn rheoli ei hamserlen ei hun. Ac eto nid yw'n gwneud hynny. Nid oes ganddi bwyllgor busnes y tŷ. Mae'r Llywodraeth yn neilltuo diwrnodau i'r gwrthbleidiau neu i bwyllgor busnes y meinciau cefn, ond y Llywodraeth sy'n rheoli'r agenda. Mae Rheolau Sefydlog yn dweud ei bod. Mae Rheolau Sefydlog yn dweud bod yn rhaid i bleidleisiau gael eu bwrw ar unwaith, a cheir dull i'r Senedd—Tŷ'r Cyffredin—ddiwygio hynny trwy gynnig gan y Pwyllgor Gweithdrefnau, ond ni wnaeth y Llefarydd hynny, oherwydd bod gan y Pwyllgor Gweithdrefnau fwyafrif a gefnogodd Brexit. Mae'n cael ei ethol gan y Tŷ. Felly, yn hytrach, anwybyddodd y Llefarydd y Rheolau Sefydlog, gan ddehongli rhywbeth ohonynt nad oedd yn bodoli a gwneud pethau yn y ffordd honno, yn groes i reolau Tŷ'r Cyffredin er mwyn symud y gyfraith yn ei blaen.
Mae gennym ni ddyfarniad pwysig iawn heddiw. Cael a chael oedd hi i mi ei ddarllen ers ei gyhoeddi, ond rwy’n credu y dylai pob un ohonom gymryd mwy o amser i feddwl, ac rwy’n annog pobl i ymdrin â’r mater mewn ffordd bwyllog iawn oherwydd, er fy mod i'n parchu’r gyfraith, a byddwn yn gochel rhag beirniadu barnwyr, rwy’n ofni bod llawer iawn o bobl yn gweld hyn drwy brism 'gadael' ac 'aros'.