Part of the debate – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 24 Medi 2019.
Llywydd, mae gen i ofn fy mod i wedi fy nrysu braidd gan gyfraniad yr Aelod. Mae'n dweud bod y Goruchaf Lys yn afresymol ac yna'n annog pob un ohonom ni i barchu rheol y gyfraith. Yr wythnos diwethaf, roedd yn brysur yn ceisio wfftio safbwyntiau'r llys uchaf yn yr Alban fel pe bai'n cyfrif am ddim byd o gwbl. Nid wyf i'n siŵr heddiw a yw wedi defnyddio'r un dull gyda'r Goruchaf Lys hefyd. Mae'r dyfarniad gennyf innau yma hefyd. Rwy'n cytuno â Mark Reckless y byddai'r Aelodau eisiau ei ddarllen. Mae'n ddyfarniad sydd wedi ei ddadlau yn eithriadol o eglur. Mae'r Aelod yn dweud bod y llys wedi mynd yn groes i arferion presennol. Gofynnwyd i'r llys ddyfarnu mewn sefyllfa lle'r oedd Prif Weinidog y DU, fel y mae'r dyfarniad yn ei egluro, wedi mynd yn groes i arferion presennol yn llwyr, ac ar draul rheolaeth y gyfraith a'n democratiaeth. Dyna'r casgliad y credaf y bydd unrhyw un sy'n dymuno astudio'r dyfarniad hwn yn dod iddo, a dyna pam mae ganddo'r difrifoldeb a'r pwys y dylem ni eu priodoli iddo.