Safbwynt y Llywodraeth ar Brexit

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:34, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Yn ei drafodaethau blaenorol gydag arweinydd yr wrthblaid, roedd y Prif Weinidog yn llawn canmoliaeth o ddyfarniad y Goruchaf Lys. Ond a fyddai'n cytuno â mi mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld heddiw yw creu cyfraith newydd, y mae gan y Goruchaf Lys, wrth gwrs, y grym i'w wneud? Nid oes unrhyw amheuaeth bod pwerau uchelfreiniol yn cael eu rheoli gan y gyfraith gyffredin; bu hynny'n wir am 400 mlynedd, ac nid oes neb yn gwadu'r gosodiad cyffredinol hwnnw. Ond, yn y gorffennol, ystyriwyd erioed bod y defnydd o'r grym uchelfreiniol i orchymyn gohiriad, ac yn wir y cyfnod y mae'r gohiriad hwnnw yn ei bara, yn fater gwleidyddol yn ei hanfod. Ac mae'r ffaith bod y llysoedd wedi crwydro i'r maes gwleidyddol hwn yn creu rhai peryglon penodol, sy'n amlwg.

Yn ei chrynodeb o'r dyfarniad, dywedodd y Farwnes Hale y bore yma, gohiriwyd democratiaeth seneddol am gyfnod hir o dan amgylchiadau cwbl eithriadol: y newid sylfaenol a oedd i fod i ddigwydd yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig ar 31 Hydref. Mae gan y Senedd, a Thŷ'r Cyffredin yn arbennig fel cynrychiolwyr etholedig y bobl, yr hawl i lais yn y ffordd y mae'r newid hwnnw'n digwydd.

Un hepgoriad amlwg o'r dyfarniad, wrth gwrs, yw unrhyw gyfeiriad at y refferendwm, a'r rhan sydd gan bobl Prydain i'w chwarae yn eu dyfodol. A phan ddywedodd bod gan y Senedd, Tŷ'r Cyffredin, fel cynrychiolwyr etholedig y bobl, lais, beth os nad ydyn nhw'n cynrychioli'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto ym mis Mehefin 2016, pan bleidleisiodd 17.4 miliwn o bobl i adael, a nawr mae Senedd sydd o blaid aros yn gwneud popeth o fewn ei gallu i rwystro'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto?