Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 24 Medi 2019.
Ond, os ydych chi'n credu bod pawb arall yn mynd i ddawnsio i dôn Prif Weinidog y canfuwyd heddiw ei fod wedi gweithredu'n anghyfreithlon ac yn annemocrataidd, ac yn credu y bydd yn trefnu pethau fel ei fod yn digwydd ar adeg o'i ddewis ef ac sy'n gyfleus iddo ef, yna rydych chi wedi camddeall yn arw. Dydyn ni ddim yn credu y gellir ymddiried ym Mhrif Weinidog y DU yn y mater hwn. Rwy'n gobeithio y daw etholiad, ac rwy'n gobeithio y bydd yn dod yn gyflym iawn, ond bydd yn digwydd ar adeg pan fo'r Senedd yn dewis, nid yr adeg y byddai'r Prif Weinidog hwn yn ei gweld yn gyfleus iddo'i hun.