1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 24 Medi 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Canghellor yr Wrthblaid, John McDonnell, wedi cyhoeddi y byddai'r wythnos waith gyfartalog yn y DU yn cael ei thorri i 32 awr o fewn 10 mlynedd o dan Lywodraeth Lafur y DU. A ydych chi fel Llywodraeth yn cefnogi'r polisi hwnnw?
Rwy'n credu ei fod yn bolisi rhagorol, Llywydd. Roeddwn i'n falch iawn o allu ei drafod gyda John McDonnell yn gynharach yr wythnos hon. Bydd gweithwyr yng Nghymru yn croesawu'r uchelgais hwnnw. Hoffent fod yn yr un sefyllfa â'u cymheiriaid mewn rhannau eraill o Ewrop a thrwy'r camau y byddwn ni'n eu cymryd mewn Llywodraeth i wella cynhyrchiant, i ail-gydbwyso’r economi o blaid pobl sy'n gweithio, yna mae hwnnw'n uchelgais yr ydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn sicr yn ei gefnogi.
Wel, Prif Weinidog, o leiaf rydych chi'n cytuno â'ch plaid ar lefel y DU ar un polisi, beth bynnag, o ystyried eich bod chi'n anghytuno â hi ar fater Brexit.
Nawr, Prif Weinidog, wrth ymateb i'r cyhoeddiad, fe'i gwnaed yn eglur gan gyfarwyddwr y CBI Carolyn Fairbairn, heb enillion cynhyrchiant, y byddai'n gwthio llawer o fusnesau i golledion. Ac nid busnesau yng Nghymru yn unig fyddai'n cael eu heffeithio gan hyn, nage? Rydym ni wedi trafod ers amser maith yr argyfwng recriwtio a achoswyd gan eich Llywodraeth Lafur yn ein GIG Cymru, a gwyddom fod y gwasanaeth iechyd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r galw am feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o feddygon, nyrsys a staff allweddol eraill ychwanegol y bydd y GIG eu hangen i ymateb i'r pwysau ychwanegol y bydd y polisi hwn yn ei greu, o gofio eich bod chi wedi methu â recriwtio digon i ddiwallu'r anghenion presennol?
Llywydd, roeddwn i'n falch iawn o gyfarfod â Carolyn Fairbairn yn ystod yr haf ac i gytuno â hi ar ba mor agos yw barn y CBI a Llywodraeth Cymru o ran Brexit a'r economi. Cawsom drafodaeth ar fater cynhyrchiant yn y cyfarfod hwnnw gan gytuno bod polisi ei Lywodraeth ef o ran cadw llafur yn rhad wedi cael yr effaith o gadw lefelau cynhyrchiant i lawr yn y wlad hon. Mae'n anochel, onid yw? Os byddwch chi'n gwneud pobl yn rhad, yna nid yw busnesau'n buddsoddi yn y peiriannau a'r diwygiadau eraill hynny sy'n arwain at fwy o gynhyrchiant. Mae profiad Ffrainc yn dweud wrthym yn eglur, os byddwch chi'n lleihau oriau, rydych chi'n gwella cynhyrchiant. Dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld yn y wlad hon.
Mae problemau recriwtio yn y gwasanaeth iechyd yn cael eu heffeithio'n waeth o lawer gan bolisïau ei blaid ef a'i Lywodraeth ef, lle nad yw pobl sy'n dod o rannau eraill o Ewrop i weithio yn ein GIG yn credu mwyach bod croeso iddyn nhw yn y wlad hon o dan ei Lywodraeth ef. Mae hwnnw'n fwy o fygythiad o lawer i gyflogaeth yn y GIG nag unrhyw beth sy'n dweud wrth bobl sy'n gweithio ynddo, 'Hoffem pe byddech chi'n gallu cael gwell cydbwysedd rhwng yr oriau yr ydych chi'n eu treulio yn y gwaith a'r oriau sydd gennych chi i'w treulio gyda'ch teulu', a dyna fydd Llywodraeth Lafur yn ei gyflawni i chi.
Atgoffaf y Prif Weinidog mai ef sy'n gyfrifol am bolisi iechyd yma yng Nghymru. Ac nid yw hyn yn ymwneud ag ysbytai yn unig, y polisi penodol hwn, ond mae hefyd yn ymwneud â'n hysgolion. Dangosodd papur a gyhoeddwyd gan Sefydliad Nuffield ac Athrofa Addysg UCL bod un o bob pedwar o athrawon yn gweithio mwy na 60 awr yr wythnos yn y DU. Rydym ni'n gwybod bod eich Llywodraeth chi wedi ei gwneud yn eglur nad oes ganddi unrhyw gynlluniau i gau ysgolion am ddiwrnod ychwanegol yr wythnos, sydd i bob pwrpas yn golygu y byddai'n rhaid i benaethiaid, o dan Lywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol, gyflogi staff ychwanegol a newid eu rotas yn sylweddol er mwyn sicrhau wythnos waith lai. Prif Weinidog, pa goeden arian hudol sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r amcan hwn mewn gwirionedd? A sut gwnewch chi ddenu athrawon i Gymru, o gofio bod eich Llywodraeth eich hun wedi methu ei thargedau ei hun ar gyfer athrawon uwchradd dan hyfforddiant newydd gan 40 y cant eisoes eleni?
Mae'r peth y tu hwnt i gredadwyedd, Llywydd. Nid oeddwn i'n gallu deall yn iawn. Dechreuodd arweinydd yr wrthblaid ar ei gwestiynau i mi yn cwyno mae'n ymddangos, ein bod ni'n mynd i ofyn i bobl weithio llai o oriau. Yna mae'n cwyno bod athrawon yn gweithio gormod o oriau. Wel, nid wyf i'n siŵr pa un sy'n well ganddo. Polisi'r Llywodraeth hon fydd gweithio gyda'r Llywodraeth Lafur nesaf yn y Deyrnas Unedig i helpu'r teuluoedd hynny i weithio llai o oriau, i helpu ein gweision cyhoeddus i allu gwneud yr ymdrechion y gwyddom eu bod nhw eisiau eu gwneud. Ac o ran y goeden arian hud, efallai yr hoffai roi'r map i mi a arweiniodd Boris Johnson at y goeden arian hud y mae wedi bod yn ei hysgwyd, oherwydd ar ôl degawd o ddweud wrthym ni nad oedd arian ar gael ar gyfer popeth, mae ei Lywodraeth wedi bod yn brysur yn ei rofio allan drwy'r drws fel pe na byddai yfory.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gydag ystod cyflog o hyd at bron i £60,000, mae Llywodraeth Cymru wedi hysbysebu swydd arweinydd yr adolygiad tlodi plant yn ddiweddar. A all y Prif Weinidog esbonio beth yw'r dasg allweddol y cyfeirir ati ar frig y disgrifiad swydd?
Rydym ni'n chwilio am arweinydd adolygiad tlodi plant i helpu'r gwaith y mae fy nghydweithiwr, Julie James, wedi ei ddechrau. Rydym ni eisiau sicrhau bod yr holl gamau yr ydym ni'n eu cymryd ar draws y Llywodraeth yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at ddatrys pla tlodi ym mywydau plant yng Nghymru a'r ffaith y bydd 50,000 yn fwy o blant yn byw mewn tlodi ar ddiwedd y degawd hwn nag oedd ar y dechrau, o ganlyniad i benderfyniadau bwriadol y Llywodraeth Geidwadol. Hoffwn i'r Llywodraeth hon gymryd yr holl gamau ymarferol o fewn ei gallu i archwilio'r polisïau a'r gweithdrefnau sydd gennym ni ar waith i sicrhau eu bod yn gwneud y mwyaf y gallant i gynorthwyo teuluoedd yn y sefyllfa honno, a dyna fyddwn ni'n dymuno i swyddog arweiniol ein cynorthwyo ni i'w gyflawni.
Mae'r disgrifiad swydd yn darllen fel a ganlyn: tasg gyntaf yr ymgeisydd llwyddiannus fydd datblygu dealltwriaeth well o'r hyn sy'n digwydd ym mywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Nawr, rwy'n dweud hyn gyda'r parch mwyaf, ond ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, siawns na ddylai eich Llywodraeth wybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw. Mae traean o'n plant—dros 200,000—yn byw mewn tlodi, mae 90,000 yn byw mewn tlodi difrifol a Chymru oedd yr unig wlad yn y DU lle bu cynnydd i dlodi plant y llynedd. Yn 2016, cafwyd gwared ar y targed gennych chi, fel Llywodraeth, o ddileu tlodi plant erbyn diwedd y degawd yr ydych chi newydd gyfeirio ato, a chawsoch wared ar Weinidog penodol a oedd yn gyfrifol am gyflawni'r targed hwnnw, gan symud i swyddogaeth gydgysylltu. Nawr, ar yr adeg honno, galwodd Comisiynydd Plant Cymru am gynllun cyflawni ar blant tebyg i'r un yn yr Alban, ond ni chafwyd adroddiad ar gynnydd hyd yn oed, ers hynny, oherwydd ni fu unrhyw gynnydd. Onid y tlodi mwyaf oll yw'r tlodi o ran uchelgais?
Llywydd, rwy'n siomedig nad yw'r Aelod yn credu bod cael gwell dealltwriaeth o dlodi a sut mae'n effeithio ar fywydau plant yng Nghymru heddiw yn rhywbeth y mae'n werth i Lywodraeth fynd ar ei drywydd. Rwy'n cofio eistedd gydag ef mewn trafodaethau pan roedd Plaid Cymru yn cynnig arsyllfa ym maes tlodi plant fel y byddai gennym ni'r union well dealltwriaeth honno ar gael i ni. Nid wyf i'n credu bod hwnnw'n uchelgais nad yw'n werth ei gael, oherwydd os oes gennym ni well dealltwriaeth, ac yn enwedig os oes gennym ni well dealltwriaeth drwy lygaid y plant eu hunain, yna byddwn yn gallu gwneud yr hyn sy'n rhywbeth y gwn ei fod yn cael ei rannu rhwng ein pleidiau. Rydym ni eisiau gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl ym mywydau plant yng Nghymru, ac yn enwedig rydym ni eisiau gwneud y gwahaniaeth hwnnw ym mywydau'r plant hynny lle mai arian yw'r rhwystr i'r plant hynny rhag cael y mathau o fywydau a phrofiadau yr ydym ni eisiau iddyn nhw eu cael.
Nawr, darllenais adroddiad y comisiynydd plant a chefais gyfarfod â hi i'w drafod, gan fy mod i'n credu ei fod yn adroddiad rhagorol. Bu'n rhaid i mi ddweud sawl gwaith ar lawr y Cynulliad—gan holi'r rhai sy'n gwneud y ddadl i mi mai'r hyn y mae Llywodraeth Cymru ei angen yw strategaeth newydd ar dlodi plant, a dweud ei bod yn well gennyf i gyngor y comisiynydd plant, sef mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw cynllun cyflawni wedi ei ailwampio, sy'n ystyried y pethau ymarferol y gallwn ni eu gwneud. Mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans ac eraill wedi cyfarfod â'r Comisiynydd Plant ers hynny i ystyried y camau ymarferol hynny. Dyna pam yr ydym ni eisiau arweinydd i gymryd rhan yn hyn i gyd. Oherwydd yn y modd hwnnw, rydym ni'n defnyddio'r ysgogiadau sydd gennym ni yn ein dwylo i wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Rwy'n cofio pan benododd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn San Steffan tsar tlodi naw mlynedd, a dweud y gwir, ar ôl dod i rym, a dywedais wrthynt yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi nawr: 'Ble ydych chi wedi bod?' a bod yn blaen. Mae Llywodraeth yr Alban wedi mabwysiadu targedau statudol rhwymol i leihau tlodi plant. Mae'n cyflymu ei chynllun cyflawni i ymrwymo i daliad plant o £10 yr wythnos y plentyn i deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol. Bydd pedwar can mil o blant yn yr Alban yn elwa a gallai 30,000 gael eu rhyddhau o dlodi ar unwaith. Mae uwch economegydd yr Alban yn Sefydliad Joseph Rowntree wedi canmol hyn fel esiampl o bolisi blaengar. Nawr, bydd Plaid Cymru mewn Llywodraeth yn 2021 yn ymrwymo i fynd hyd yn oed ymhellach, ond lle mae Llywodraeth y DU wedi gwneud toriadau, siawns nad oes angen i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen. Mae'n syfrdanol, Prif Weinidog, mai dim ond nawr yr ydych chi'n deffro i effeithiau tlodi ar fywydau plant. Pryd fyddwn ni'n gweld buddsoddiad gwirioneddol a phryd y gwnewch chi osod targed uchelgeisiol fel nad yw plant yn mynd i'r ysgol yn llwglyd ac i'r gwely yn oer?
Wel, Llywydd, mae'n lol, onid yw? Mae'r Aelod bob amser yn llwyddo i ddifetha pwynt difrifol y mae'n ei wneud gan nad yw'n gallu osgoi addurn rethregol ar y diwedd. Yn syml, ni fyddai'r syniad nad yw'r blaid hon a'r Llywodraeth hon wedi bod â diddordeb mewn tlodi plant dros holl gyfnod datganoli yn gwrthsefyll hyd yn oed ychydig eiliadau o archwilio.
Pan benododd y Llywodraeth Lafur ei tsar tlodi, roedd tlodi plant yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers degawd. A dyna hanes datganoli: y degawd gyntaf pan ostyngodd tlodi plant flwyddyn ar ôl blwyddyn—nid yn ddigon cyflym i lawer ohonom ni, ond yn gostwng bob blwyddyn—ac ail ddegawd pan fo mwy o blant, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mewn tlodi oherwydd y camau y mae math gwahanol iawn o Lywodraeth â blaenoriaethau gwahanol iawn wedi eu cymryd. Dros yr holl gyfnod hwnnw, Llywydd, rydym ni wedi cymryd camau sy'n gadael arian ym mhocedi teuluoedd sydd ei angen fwyaf, boed hynny'n frecwast am ddim mewn ysgolion cynradd ar ddechrau'r cyfnod datganoli, neu ein cynllun newyn gwyliau, yr ydym ni wedi ei sefydlu yn ystod y tymor Cynulliad hwn ac y mae cydweithwyr o Lywodraeth yr Alban wedi bod yn awyddus iawn i siarad â ni amdano i weld sut y gall hynny ddylanwadu ar eu camau yn y maes hwnnw.
Rwyf i eisiau dysgu gan yr Alban. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd—. Nid cystadleuaeth rhwng pobl dda yn y fan yma a phobl ddrwg yn y fan acw yw datganoli. Mae datganoli yn ffordd i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd. Mae llawer o bethau y mae'r Alban yn eu gwneud ym maes tlodi plant y byddwn yn siarad â nhw amdanynt ac y gallwn ddysgu oddi wrthynt yn y fan yma, ac mae llawer o bethau yr ydym ni'n eu gwneud yng Nghymru y mae cydweithwyr o'r Alban yn dod i Gymru i'w hastudio er mwyn hysbysu'r dasg a rennir yr wyf i'n credu sydd gan y Llywodraeth hon a Llywodraeth yr Alban, sef sut i ymdrin â'r ymosodiad ar fywydau pobl yn yr Alban a Chymru gan Lywodraeth Geidwadol nad oes ganddi ddiddordeb yn eu dyfodol, a gwneud popeth y gallwn ni ei wneud i sicrhau dyfodol gwahanol.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Edrychais ar sianel y senedd ar y teledu fore Sul, a mwynheais wrando ar araith y Prif Weinidog yn Bournemouth. Dim ond ar ôl gwrando ar ychydig mwy o'r gynhadledd Lafur y deuthum i weld ei gyfraniad fel uchafbwynt. Ond a gaf i ofyn iddo, er hynny—? Methodd yn ei ymdrechion i berswadio cyd-Aelodau i dorri eu haddewid i barchu canlyniad y refferendwm drwy ymgyrchu dros 'aros' nawr. Mae'n ymddangos mai dim ond ar ôl yr etholiad y mae eraill eisiau dweud hynny wrth bobl. Ond o gofio bod gobaith nawr y bydd y Blaid Lafur yn y DU yn ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd ar sail gwell cytundeb, yn ôl pob sôn, ac eto yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru yn aros yn yr UE, a yw hynny'n golygu ei fod yn cefnogi erbyn hyn, os oes angen, polisi Plaid Cymru o adael y DU er mwyn aros yn yr UE?
Llywydd, rwy'n falch bod yr Aelod wedi mwynhau fy araith yn Bournemouth. Roeddwn i'n bersonol yn siarad yn Brighton—[Chwerthin.] Felly, efallai mai rhyw gyfle arall wnaeth amlygu ei hun iddo. Mae polisi'r Llywodraeth hon ar Brexit yn gwbl eglur. Rydym ni'n falch iawn bod y Blaid Lafur ar lefel y DU wedi ymrwymo'n llwyr erbyn hyn i gael refferendwm ar fater Brexit, ac mae angen i bobl sydd eisiau cael yr ail gyfle hwnnw i bleidleisio ar adael yr Undeb Ewropeaidd os ydyn nhw'n mynd i sicrhau hynny, yna Llywodraeth Lafur yw'r unig ffordd y byddan nhw byth yn cael yr ail gyfle hwnnw. Pan ddaw'r cyfle hwnnw, bydd y Llywodraeth hon yn ymgyrchu, fel yr ydym ni wedi dweud y byddwn ni'n ei wneud ers misoedd lawer iawn erbyn hyn, i Gymru aros yn yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd dyna'r ateb gorau i Gymru. Rydym ni eisiau Cymru ddatganoledig gref mewn Teyrnas Unedig gref a llwyddiannus y tu mewn i Undeb Ewropeaidd cryf a llwyddiannus. Rydym ni eisiau i'r Blaid Lafur yng Nghymru allu gwneud penderfyniadau am y pethau yr ydym ni'n gwybod orau amdanynt a'r pethau sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru ond gan aros ym Mhlaid Lafur y DU.
O gofio bod y Prif Weinidog wedi derbyn fy nghywiriad ar nifer barnwyr y Goruchaf Lys, rwy'n derbyn ei gywiriad daearyddol gyda'r un ewyllys da.
A gaf i ei holi am wahaniaeth posibl arall rhwng polisi'r DU a pholisi Cymru? Yn ei gynhadledd heddiw, mae'n ymddangos bod symudiad mawr i newid polisi newid yn yr hinsawdd a chael polisi o sero net erbyn 2030—dim ond 11 mlynedd i ffwrdd yw hynny. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai hynny'n drychineb llwyr, yn arwain at chwalfa yn yr economi, hyd yn oed heb gynnig y grŵp ein bod ni'n talu iawndal am allyriadau hinsawdd y gorffennol, ac y byddai'n tanseilio unrhyw bosibilrwydd o weithio ar y cyd gydag unrhyw un arall ar y mater hwn? Mae'n sôn llawer am sero net erbyn 2050, ond a wnaiff ef gadarnhau hefyd nad sero net erbyn 2050 yw polisi Llywodraeth Cymru, ond gostyngiad o 90 y cant, gan fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi dweud nad oedd yn bosibl sicrhau sero net i Gymru?
Ac a wnaiff ef fyfyrio unwaith eto ar fater yr M4, oherwydd fe wnaethom sôn yr wythnos diwethaf am yr hysbysiad o benderfyniad? Dywedais nad oedd ei hysbysiad o benderfyniad am yr M4 yn dweud dim byd o gwbl am y newid yn yr hinsawdd, a thorrodd y Prif Weinidog ar fy nhraws ddwywaith gan honni ei fod. Yn ffodus iddo ef, mae wedi ei gofnodi fel 'torri ar draws' yn unig yn ein cofnod. Ond a wnaiff ef fyfyrio unwaith eto na ddywedodd ddim am y newid yn yr hinsawdd yn yr hysbysiad o benderfyniad hwnnw, sef y ddogfen sy'n rhwymo mewn cyfraith, pan ddiystyrodd yr M4, ac fe wnaeth hynny am reswm da, oherwydd daeth yr arolygydd i'r casgliad y byddai'r cynllun, yn unigryw efallai, yn niwtral o ran carbon dros amser?
Llywydd, rwyf i eisiau i ni gael y targedau mwyaf uchelgeisiol, cyraeddadwy ar gyfer newid yn yr hinsawdd y gallwn ni eu rhoi ar waith. Ar gyfer hynny, rydym ni'n dibynnu ar y comisiwn ar y newid yn yr hinsawdd a'u cyngor nhw. Os bydd y cyd-destun ar draws y Deyrnas Unedig yn newid, os oes gennym ni wahanol Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn dilyn gwahanol bolisïau yno, fel y fargen newydd werdd y mae fy mhlaid i wedi bod yn siarad amdani yr wythnos hon, yna, wrth gwrs, bydd angen ceisio'r cyngor gan y comisiwn ar y newid yn yr hinsawdd unwaith eto yn y cyd-destun newydd hwnnw. Ac rwyf i eisiau i ni, yng Nghymru, fod mor uchelgeisiol ag y gallwn ni fod, o fewn terfynau'r rhai sy'n gwybod fwyaf am y pwnc ac sy'n rhoi'r cyngor mwyaf awdurdodol i ni.
Yn fy mhenderfyniad ar yr M4, i'w ailadrodd, gwahaniaethais rhwng costau ariannol ffordd liniaru'r M4, gan ddod i'r casgliad nad oedden nhw'n gynaliadwy ar ôl 10 mlynedd o gyni cyllidol, a'r materion amgylcheddol. A rhoddais sylw i'r materion amgylcheddol yno. Ac rwyf i wedi darllen yn fanwl yr hyn y mae adroddiad yr arolygydd yn ei ddweud am niwtraliaeth o ran carbon. Ac o'm cof—bydd yn rhaid i mi wirio, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod i ddweud wrtho os wyf i wedi ei gofio yn anghywir—gyda'r gyfres o dybiaethau a wnaeth yr arolygydd, dywedodd y byddai'r ffordd hon yn niwtral o ran carbon erbyn 2073. Nawr, os ydych chi'n meddwl bod hynny'n ddigon uchelgeisiol i ni, yna nid wyf i, yn sicr.