Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 24 Medi 2019.
Wel, gan ymdrin ag ychydig o'r materion dan sylw, mae adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol yn rhan bendant o hyn. Ac felly mae deall yr hyn a adeiladwyd yn y gorffennol, sut a pham oedd hynny'n gweithio, ac a yw hynny'n raddadwy yn bwysig iawn hefyd. Felly er mai da o beth yw adeiladu un tŷ, mae gallu adeiladu 400 ohonyn nhw ar yr un pryd yn fater pwysig iawn i'r rhaglen. Ac fel y dywedais yn y datganiad, rydym wrthi'n uwchraddio rhai o'r pethau yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi gweithio.
Mae ailgylchu yn fater o bwys mawr hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'r tai hyn yn fodiwlar, mewn gwirionedd. Mae bron pob un o'r cynlluniau yn defnyddio pren o Gymru mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac rydym yn awyddus iawn i gael cadwyni cyflenwi byr fel ein bod yn lleihau ôl troed carbon yr adeilad yn ei gyfanrwydd, fel y dywedais i yn y datganiad. Rydym hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod yna gyn lleied â phosibl o wastraff adeiladu ac y caiff hwnnw ei ailddefnyddio a'i ailgylchu fel y bo'n briodol, ac nad ydym ni'n achosi problemau anfwriadol o ganlyniad i hynny. Ac yna, pan fyddwn ni wedi deall hynny, gallwn ei raddio eto i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.
Mae'r holl broblem gyda sgiliau, a drafodais i gyda David Melding, yn ymwneud â throsglwyddo sgiliau, ein bod yn uwchsgilio pobl y dyfodol. Ac mae rhai o'r cynlluniau yn defnyddio'r bobl a fydd, yn y pen draw, yn denantiaid y tai i'w hadeiladu nhw. Felly, mewn gwirionedd, maen nhw'n adeiladu eu cartrefi eu hunain i bob pwrpas. Yn wir, mae cynllun ardderchog ar Ynys Môn yr oeddwn i'n falch iawn o'i weld yn gweithio fel hynny. Mae'r pethau hyn yn gyffrous iawn, ond rydych chi'n hollol iawn o ran y raddfa. Mae angen adeiladu tua 4,000 o dai bob blwyddyn i fynd i'r afael â'r broblem o bobl mewn llety dros dro.
Nid yw problem digartrefedd yn ymwneud yn unig â'r pegwn eithaf o fod yn cysgu ar y stryd, mae'n ymwneud hefyd â'r bobl hynny sy'n llithro i ddigartrefedd. Felly dyna pam mae angen adeiladu 4,000 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn, er mwyn atal y cylch hwnnw. Felly mae'n hi'n dasg drom, ond rydym wedi adeiladu bron 1,000 y flwyddyn hon a dim ond ychydig gannoedd oedd gennym ni yn y flwyddyn flaenorol. Felly rydym yn codi stêm yn gyflym iawn. Rydym yn mynd cyn gynted ag y gallwn ni, gan sicrhau ein bod ni'n adeiladu'r hyn sy'n briodol ar gyfer y bobl briodol. Ac er y gallwch alw unrhyw grŵp arbennig o bobl yn grŵp, fe fydd pob un ohonyn nhw'n unigolion, ac fe fydd gan bob un ohonyn nhw wahanol ofynion. Mae angen adeiladu'r amrywiaeth o dai a deiliadaethau cymysg a fydd yn mynd i'r afael â'r holl anghenion hynny.