Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 24 Medi 2019.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n hollbwysig ymdrin â'r angen dirfawr yng Nghymru am dai, yn enwedig tai fforddiadwy, ac ar yr un pryd fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, a dyna pam mae cynlluniau fel y rhaglen tai arloesol mor bwysig. Mae diffyg tai'n effeithio ar lawer iawn o fywydau ac ar ein cymunedau ni. Felly, rwy'n croesawu'r diweddariad hwn ar gynllun y Rhaglen tai arloesol.
Mae'r ffaith bod cymaint o gartrefi di-garbon neu garbon isel yn cael eu hadeiladu yn newyddion ardderchog. Mae ein gallu ni i liniaru'r newid yn yr hinsawdd yn dibynnu ar leihau'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio i adeiladu cartrefi a chadw aelwyd. Felly, mae cynlluniau fel yr un yn Rhuthun nid yn unig yn ein helpu ni i fynd i'r afael ag argyfwng ein hinsawdd, ond mae hefyd yn helpu i leihau tlodi tanwydd.
Fodd bynnag, er bod yr holl gynlluniau hyn i'w croesawu, mân lwch y cloriannau ydyn nhw o'u cymharu â'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Mae angen degau o filoedd o gartrefi fforddiadwy newydd arnom. Mae'n ymddangos bod y cynlluniau hyn i gyd yn mynd i'r afael ag anghenion o ran ynni, ond nid mewn gwirionedd o ran nifer y tai sydd eu hangen. Ond, rwy'n cydnabod bod yn rhaid i ni ddechrau yn rhywle. Felly, Gweinidog, fe ddangosodd Prifysgol Caerdydd beth oedd tai positif o ran ynni gyda thŷ Solcer bedair neu bum mlynedd yn ôl. Faint o'r cynlluniau sy'n mynd drwy gynllun y Rhaglen tai arloesol sy'n adeiladu ar ganfyddiadau Tŷ Solcer?
Mae gan dai modiwlaidd y potensial i fynd i'r afael â phrinder tai yn gyflym. Trwy ddefnyddio deunyddiau arloesol a wnaed o gynhyrchion wedi eu hailgylchu, mae ganddyn nhw'r potensial hyd yn oed i dynnu carbon o'n hatmosffer a defnyddio dim carbon tra bydd rhywun yn byw ynddyn nhw. Gweinidog, a yw'r Rhaglen tai arloesol yn rhoi unrhyw bwys ar gynlluniau tai modiwlaidd? Ac os na, a fyddech chi'n ystyried buddsoddi mewn prosiectau tai modiwlar yn y blynyddoedd i ddod? Mae modd codi tai modiwlar yn gyflym ac fe allai hynny fod yn allweddol i fynd i'r afael â'n hargyfwng tai.
Yn olaf, Gweinidog, os ydym am fynd i'r afael â digartrefedd, mae'n rhaid inni adeiladu tai i'r digartref. A oes unrhyw gynlluniau wedi cael eu cyflwyno sy'n ymdrin ag anghenion penodol cyn-aelodau o'r lluoedd arfog, sy'n ganran fawr o'r rhai sy'n eu cael eu hunain yn cysgu ar y stryd? Diolch yn fawr iawn.