Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 24 Medi 2019.
Felly, fe wnaethom ni ddechrau profi ein cynnig mewn rhannau o Gymru yn 2017. Gofynnwyd inni'n aml pam nad oedd y cynnig ar gael ym mhobman, a pham yr oeddem ni'n cyflwyno'r cynllun yn raddol. Gofynnwyd hynny yn arbennig imi yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, sef un o'r lleoedd olaf i fod yn rhan o'r cyflwyno. Roedd y dull gweithredu graddol yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cynnig wedi'i brofi'n briodol ac yn gweithio fel yr oeddem ni wedi bwriadu. Rwy'n falch iawn y bu mor llwyddiannus, a hoffwn dalu teyrnged a mynegi fy niolch diffuant i'n partneriaid, i'r awdurdodau lleol ac i'r darparwyr gofal plant sydd wedi bod yn gwbl hanfodol i'r broses, ac sydd wedi ein helpu i gyflawni cymaint. Oherwydd y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud gyda'n gilydd, yn profi gweinyddiaeth a hygyrchedd y cynnig gofal plant, mae'n bleser gennyf ddweud wrth Aelodau'r Cynulliad y bu ein cynnig ar gael ledled Cymru ers mis Ebrill, dros flwyddyn yn gynt na'r bwriad gwreiddiol.
Ddiwedd mis Gorffennaf, roedd bron i 16,000 o blant tair a phedair oed yn gallu cael gofal plant a ariannwyd gan y Llywodraeth, ac roedd 29 y cant o'r rhain yn gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Pan werthuswyd y cynnig ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf o weithredu, dywedodd y rhan fwyaf o'r rhieni y gwelsant gynnydd gwirioneddol yn eu hincwm gwario oherwydd y cynnig. Mae rhiant nodweddiadol sydd â phlentyn yn elwa ar 20 awr o ofal plant yr wythnos yn cael yr hyn sy'n cyfateb i £90 ychwanegol yr wythnos yn ei boced—arian na fyddai ganddo fel arall. Dywedodd canran uchel o rieni wrthym hefyd fod y cynnig wedi rhoi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw o ran y mathau o swyddi y gallen nhw eu gwneud, neu ei fod yn rhoi mwy o gyfleoedd hyfforddi iddyn nhw. Ac yn y flwyddyn gyntaf roedd 60 y cant o'r holl rieni a oedd yn defnyddio'r cynnig yn ennill swm cyfwerth neu lai nag enillion canolrifol y boblogaeth yng Nghymru, gan ddod â'r budd mwyaf i deuluoedd incwm isel a chanolig. Felly, rwy'n siwr y gwnewch chi ymuno â mi i dalu teyrnged i'r 2,000 o ddarparwyr gofal plant sy'n darparu'r cynnig ar hyn o bryd, ac i'n hawdurdodau lleol, sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod teuluoedd yn gallu elwa ar y cymorth hwn.
Mae hefyd yn bwysig cofio bod y sector gofal plant yn gyflogwr sylweddol yn ei hawl ei hun. Ledled Cymru, mae dros 3,600 o leoliadau gofal plant yn cyflogi tua 17,000 o bobl. Mae rhieni sy'n defnyddio gofal plant yn cyfrannu dros £1.2 biliwn at economi Cymru. Rydym yn cymryd camau i gefnogi'r sector mewn sawl ffordd, er enghraifft drwy'r rhyddhad ardrethi o 100 y cant, a thrwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i broffesiynoli'r gweithlu gofal plant. Bydd y gyfres newydd o gymwysterau a gyflwynwyd yn gynharach y mis hwn yn cynnig llwybrau dilyniant gwell a chyfleoedd gyrfa ehangach, ac yn yr hydref byddwn yn arbrofi gyda dull cymorth busnes ar gyfer y sector i gefnogi twf hirdymor.
O gofio ein llwyddiant hyd yma, rwy'n awyddus i edrych ar sut y gallwn ni ymestyn y cymorth hanfodol hwn. Felly, fel y nodwyd ym maniffesto arweinyddiaeth y Prif Weinidog, rydym ni bellach yn ystyried dichonoldeb ehangu'r cynnig i gefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant, neu sydd ar drothwy dychwelyd i'r gwaith. Mae'r arlwy yn un o gyfres o raglenni sydd wedi'u hanelu at gefnogi rhieni, ac mae llawer ohonyn nhw hefyd yn cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant. Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg bod rhai bylchau rhwng y rhaglenni hyn. Roedd hwn yn faes o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan oedden nhw'n ystyried yr hyn yw Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019 erbyn hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych ar hyn, ac yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi rhieni er mwyn iddyn nhw allu mynd i'r gwaith. Rwy'n disgwyl adroddiad ar yr adolygiad yn gynnar yn 2020.
Rwyf hefyd yn falch o allu cyhoeddi y byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i ddatblygu trefniadau cyflawni hirdymor ar gyfer y cynnig, gan ddatblygu rhai o'r systemau a'r gwasanaethau sydd eisoes ar waith ganddyn nhw. Mae awdurdodau lleol wedi gwneud gwaith rhagorol yn gweinyddu'r cynnig, ac maen nhw mewn sefyllfa dda i barhau â'r gwaith pwysig hwn, yn enwedig o ystyried eu gwybodaeth leol a'r berthynas agos y maen nhw wedi'i meithrin dros nifer o flynyddoedd gyda darparwyr a rhieni yn eu hardaloedd. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, rwy'n ffyddiog y gallwn ni ddarparu gwasanaeth cenedlaethol i weinyddu'r arlwy—gwasanaeth cenedlaethol sydd hefyd yn ychwanegu gwerth gwirioneddol yn lleol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn croesawu'r swyddogaeth barhaus hon i awdurdodau lleol a byddwn yn gweithio gyda nhw ac eraill wrth inni ddatblygu cynigion manwl.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi bwriadu gweithio gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar ddull cenedlaethol o ymdrin â cheisiadau a gwiriadau cymhwysedd. Byddai hyn wedi golygu y byddem yn defnyddio eu platfform gwasanaethau gofal plant, sy'n gweinyddu'r cynnig 30 awr yn Lloegr a'r cynnig gofal plant di-dreth. Awgrymodd asesiad effaith darganfod a gwblhawyd cyn yr haf y gallai'r gost o ddatblygu ac yna rhedeg y gwasanaeth am bum mlynedd fod oddeutu £16 miliwn. O ystyried yr hyn a oedd yn gysylltiedig â hyn, nid yw'r costau hyn yn afresymol, ond maen nhw'n uwch na'r rhai a amlinellwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Ddeddf. Yn rhannol, mae hyn oherwydd eu bod yn cynnwys rhai costau nad oedden nhw ar gael ar yr adeg y cwblhawyd yr asesiad effaith rheoleiddiol. Hefyd, o ystyried ein bod yn adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynnig, ac yng ngoleuni'r costau hyn, penderfynais y byddai'n fwy synhwyrol inni ohirio'r gwaith gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, hoffwn ddiolch iddyn nhw am yr amser a dreuliwyd ganddyn nhw gyda ni hyd yma wrth ystyried ein dewisiadau i gyd.
Mae'r newid hwn wedi arwain at oedi wrth gyflwyno'r is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf Cyllido Gofal Plant (Cymru). Rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod deddfwriaeth yn diwallu anghenion y gwasanaeth yr ydym yn ei ddatblygu gydag awdurdodau lleol, ac rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig treulio'r amser sydd ei angen i wneud pethau'n iawn. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i fireinio'r cynnig ar sail ein profiad a thystiolaeth bellach o'n rhaglen werthuso barhaus. Llywydd dros dro, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag achosion tlodi, ac yn enwedig tlodi mewn gwaith, ac mae ein cynnig gofal plant yn rhan allweddol o'r ymrwymiad hwnnw, gan helpu rhieni sy'n gweithio gyda'r costau hynny. Rwy'n falch iawn o'i lwyddiant hyd yma.