Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 24 Medi 2019.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r datganiad hwn. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn falch iawn, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth Cymru bellach yn gweithredu polisi'r Ceidwadwyr Cymreig o ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant a gyllidir gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio, ac fe wnawn ni ymuno â chi i dalu teyrnged i'r 2,000 o ddarparwyr gofal plant sy'n cyflwyno'r cynnig ar hyn o bryd ac i'n hawdurdodau lleol sy'n gorfod gweithredu hyn. O ystyried eich datganiad, fodd bynnag, fe'm trawyd gan y diffyg sylw a roddwyd i'r sefyllfa y bu rhai darparwyr gwasanaethau eu hunain ynddi ac rwyf mewn ychydig o benbleth gan eich bod wedi disgrifio'r cynnig fel un mor llwyddiannus.
Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yn rhybuddio bod y cynnig mewn gwirionedd yn rhoi straen ar feithrinfeydd wrth iddo gael ei gyflwyno ledled Cymru. Mewn gwirionedd, mae hyn yn dod yn hunllef i feithrinfeydd gan fod y gwasanaethau'n dweud eu bod yn cael trafferth recriwtio digon o staff cymwys i ateb y galw ychwanegol. Felly, rwy'n gobeithio nad oes gwahaniaeth gennych, mae gennyf bedwar cwestiwn. O gofio bod meithrinfeydd sy'n gweithredu'n briodol yn ganolog i lwyddiant y cynnig, a wnewch chi egluro beth allwch chi ei wneud ar unwaith i sicrhau bod mwy o bobl yn dewis hyfforddi i fod yn weithwyr meithrin a bod y rhai sydd eisoes yn y sector mewn gwirionedd yn dewis aros? Rydym ni'n gweld gormod o lawer yn gadael y proffesiwn hwn.
Cwestiwn 2: ar ôl ystyried canlyniadau arolwg diweddar o 118 o leoliadau blynyddoedd cynnar sy'n gyfrifol am gyflogi dros 1,350 o aelodau staff a darparu lleoedd i fwy na 8,000 o blant, fe'm trawyd gan y ffaith mai dim ond tua 5 y cant o'r gweithlu sy'n ddynion. Felly, credaf fod potensial mawr i gynyddu nifer y dynion yn y proffesiwn ac i hyn fod yn un ffordd y gellid mynd i'r afael â'r broblem o ddiffyg staff. Felly, a wnewch chi egluro beth sy'n cael ei wneud i sicrhau y caiff y sector gofal plant ei ystyried i fod yn agored i ddynion a menywod?
Cwestiwn 3: fel bob amser, mae cyllid yn ystyriaeth bwysig i unrhyw broffesiwn, ond yn yr achos hwn, mae llawer o'r 17,000 o bobl sy'n gweithio ym maes gofal plant ledled Cymru ar isafswm cyflog. Nawr, rwy'n gwybod bod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddwch chi'n adolygu'r gyfradd yr ydych chi'n ei thalu am y cynnig gofal plant, gan gynnwys asesiad o effaith newidiadau i'r cyflog byw cenedlaethol. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn ac egluro pa ystyriaeth yr ydych wedi'i rhoi i gysoni'r cyfraddau a delir drwy'r cyfnod sylfaen a'r cynnig gofal plant?
Ac yn olaf, nid oeddwn yn synnu o ddarllen yn eich datganiad eich bod yn awr yn ystyried dichonoldeb ehangu'r arlwy i gefnogi rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu sydd ar drothwy dychwelyd i'r gwaith, oherwydd rwy'n credu y byddwch yn ymwybodol, yn sicr, fy mod i fy hun a'm cydweithiwr Suzy Davies AC wedi codi pryderon ynghylch hyn o'r blaen. Rydym ni'n gwybod bod y sector yn cael trafferth gyda'r cynnig fel y mae, felly rwy'n glir nad yw Cymru eto wedi cyrraedd y pwynt lle mae modd ehangu cymhwysedd nawr. Y cwestiwn amlwg i mi, nawr, yw: a wnewch chi egluro erbyn pryd yr ydych chi'n disgwyl i gymhwysedd gael ei ehangu, a sut y bydd y sector yn darparu ar gyfer y cynnydd yn y galw y bydd hyn yn sicr yn ei achosi? Diolch.