Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 25 Medi 2019.
Ond beth y mae hynny'n ei olygu'n ymarferol mewn gwirionedd a beth yw agwedd ysgol gyfan? Dywed athrawon wrthym eu bod yn pryderu am iechyd meddwl eu myfyrwyr. Teimlant ei bod yn ofynnol iddynt ymdrin â materion iechyd meddwl y tu allan i'w cymhwysedd fel athrawon, ac maent yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael cefnogaeth gwasanaethau arbenigol. Mae'n amlwg fod angen i athrawon gael help a chymorth i ymateb i blant sy'n profi anawsterau fel gorbryder, hwyliau drwg a hunan-niwed cymhellol neu anhwylderau ymddygiad.
Ond mae'n bwysig hefyd, rwy'n credu, i ni beidio â gwneud y broses o dyfu i fyny yn un feddygol. Dyma a ddywedodd y bobl ifanc eu hunain wrthym yn yr adroddiad 'Gwneud Synnwyr' yn 2016, a luniwyd gan bobl ifanc, ac sy'n cynrychioli eu barn. Mae bron i 40 y cant yn yr arolwg hwnnw'n dweud bod eu hathro'n berson y byddai'n well ganddynt gael cymorth ganddynt. Datblygwyd y thema hon ymhellach yn 'Cadernid Meddwl', a dynnodd sylw at rôl bwysig addysg wrth fynd i'r afael ag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc. Ac yn benodol, anghenion yr hyn a elwir yn 'ganol coll', pobl ifanc sydd â phroblemau emosiynol go iawn ond nad ydynt o anghenraid yn dioddef salwch meddwl ac yn aml, ni chânt lawer o gymorth.
A dyna pam, fel y cyfeiriodd Jayne, y sefydlodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y cyd ym mis Medi 2017. Daeth arbenigwyr o bob rhan o'r maes addysg ac iechyd at ei gilydd i'n cynghori ar y gwaith sydd angen i ni ei wneud i gyflwyno agwedd ysgol gyfan tuag at ymdrin â lles emosiynol a meddyliol gan sicrhau bod pawb sy'n gweithio yn ein hysgolion, nid athrawon yn unig, yn gallu cyfrannu'n gadarnhaol at les pobl ifanc.
Pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor ym mis Mehefin, nodais fy mod yn ymrwymedig i gynhyrchu fframwaith a fydd yn cynorthwyo ysgolion i ddatblygu a gweithredu agwedd ysgol gyfan sy'n gyson, a bydd yn rhoi arweiniad i ysgolion ar asesu eu hanghenion a'u cryfderau eu hunain o ran lles, a'u cynorthwyo i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a nodir yn dilyn asesiad, wedi'u cefnogi gan drefniadau monitro a gwerthuso cadarn. Byddwn yn cefnogi ysgolion yn y gwaith hwn gydag ystod o adnoddau i'w helpu i hyrwyddo lles meddyliol.
Rwy'n falch o ddweud nad ydym yn dechrau gyda thudalen wag o bapur. Fel y clywsom gan yr Aelodau o amgylch yr ystafell hon, mae gennym eisoes sylfeini da iawn y gallwn adeiladu arnynt. Er enghraifft, fel y dywedodd Jayne, ers fy ymweliad ag Ysgol Gynradd Pilgwenlli yng Nghasnewydd y llynedd, gwn fod mwy o ysgolion—mwy a mwy—yn cydnabod bod grwpiau anogaeth yn ffordd brofedig o helpu pobl ifanc yn y cyfnod cynradd ac uwchradd. Mae'n eu helpu i ddatblygu sgiliau ymddiriedaeth a chyfathrebu ac yn gwella eu hunan-barch. A gallant fod yn effeithiol iawn pan fydd pobl ifanc wedi dioddef trawma difrifol sydyn, pan fyddant ar fin dod yn ddisgyblion sy'n gwrthod mynd i'r ysgol, a hefyd fel cymorth i rieni a gofalwyr adeiladu pontydd gydag ysgolion ac addysg ac i'w helpu i ennyn eu diddordeb yn addysg eu plant, pan nad ydynt hwy eu hunain yn aml wedi cael profiad cadarnhaol o addysg o reidrwydd pan oeddent yn fach.
Mae ein gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion yn cefnogi dros 11,500 o bobl ifanc bob blwyddyn, ond rwy'n cydnabod bod gormod o amrywiad o hyd yn yr amseroedd aros ar gyfer y gwasanaethau hynny, a dyna pam y mae'r Gweinidog iechyd a minnau wedi cytuno'n ddiweddar i roi arian ychwanegol tuag at ymdrin â pheth o'r amrywiad yn y ddarpariaeth, a mynd i'r afael â rhestri aros hir a hyrwyddo trefniadau cydweithredol ar draws awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn gwella'r ddarpariaeth. Mae'r cyllid hwn yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £2.5 miliwn eleni tuag at wella, nid yn unig y ddarpariaeth gwnsela, ond hefyd i hyfforddi staff ein hysgolion mewn perthynas â'u lles emosiynol eu hunain a'u myfyrwyr, ac i ddarparu ac i brofi ymyriadau cyffredinol ac wedi'u targedu yn yr ysgol.
Ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, roeddwn hefyd yn falch iawn o lansio ein canllawiau newydd ar hunanladdiad a hunan-niwed, a ddatblygwyd yn benodol i gynorthwyo athrawon a gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â phobl ifanc yn rheolaidd. Mae'r canllawiau hynny'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a rheoli hunan-niwed a meddyliau hunanladdol yn ddiogel pan fyddant yn codi. Mae'n darparu ffynhonnell gyflym a hygyrch o gyngor ac arferion da i addysgwyr. Os nad yw'r Aelodau wedi cael cyfle eto i ddarllen yr adnoddau hynny, buaswn yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r gweithwyr proffesiynol a helpodd i'w cynhyrchu.
Mae ein cynlluniau peilot mewngymorth CAMHS i ysgolion hefyd yn dangos manteision gwirioneddol ers eu lansio, ac rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i ymestyn y cynlluniau peilot tan fis Rhagfyr 2020 i gyd-fynd ag adroddiad gwerthuso terfynol y rhaglen honno, a chafodd hyn ei gefnogi gan gyllid ychwanegol. Mae'r cynlluniau peilot yn dangos bod datblygu cysylltiadau hollbwysig o'r fath—ac mae Jayne wedi siarad am hyn droeon—ar draws ffiniau sefydliadol yn allweddol i sicrhau llwyddiant. Mae staff yr ysgol yn nodi'r budd sy'n deillio o gael cyswllt y gallant drafod materion yn uniongyrchol â hwy, ac mewn modd amserol, sy'n hollbwysig. Mae hyn o fudd nid yn unig i bobl ifanc ond hefyd i athrawon sy'n teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo'n well i ddiwallu anghenion eu plant a'u pobl ifanc.
Ond rwy'n gwybod—rwy'n gwybod yn iawn—y gallwn wneud cymaint mwy. Mae arnaf eisiau adeiladu ar y momentwm hwn drwy ddatblygu mwy o weithgarwch i gefnogi athrawon fel y bydd ganddynt well dealltwriaeth o ddatblygiad plant, yn enwedig yn ystod blynyddoedd tyngedfennol y glasoed, sy'n gallu bod yn anodd iawn i bawb, a'r wybodaeth i ddysgu ac ymwneud â materion sy'n dod i'r amlwg ynghylch lles emosiynol a meddyliol dysgwyr. A chan weithio gyda'n prifysgolion, byddwn yn datblygu adnoddau dysgu ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac yn sicrhau bod cymorth tebyg ar gael i athrawon presennol.
Mae hefyd yn hanfodol i mi ein bod yn parhau i ymgynghori â'r bobl ifanc eu hunain ynglŷn â pha gymorth pellach y dylem fod yn ei ddarparu iddynt. A dyna pam ein bod wedi cynnull grŵp rhanddeiliaid ieuenctid, o gefndiroedd daearyddol a chymdeithasol amrywiol, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eu hunain. Rhaid i mi ddweud, mae eu hymrwymiad i'r broses, eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd di-ben-draw wedi creu argraff fawr arnaf. Ynghyd â Senedd Ieuenctid Cymru, sydd wedi cytuno, fel y clywsom, y dylai cymorth emosiynol ac iechyd meddwl fod yn un o'u prif ystyriaethau rwy'n siŵr y byddant hwy, ynghyd â Lynne Neagle, yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ein gwaith yn y maes hwn.
Fel pawb sydd ar ôl yma yn y Siambr heno, rwyf am i bob person ifanc yng Nghymru ffynnu. Rwyf am iddynt ddysgu ac rwyf am iddynt lwyddo, yn enwedig o ran datblygu agwedd ysgol gyfan tuag at gefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd emosiynol a lles. Nid yw'n fater o un neu'r llall, Lywydd dros dro, mae yr un mor bwysig, yn rhan annatod o'u gallu i lwyddo mewn addysg. Ac rwy'n awyddus, unwaith eto, i ddiolch i Jayne a'r cyd-Aelodau am eu cyfraniadau heno. Diolch yn fawr.