9. Dadl Fer: Agwedd ysgol gyfan Cymru: Cynorthwyo pob plentyn i ffynnu, dysgu a llwyddo mewn ysgolion

– Senedd Cymru am 6:26 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:26, 25 Medi 2019

Ac felly rŷn ni'n cyrraedd yr eitem olaf ar yr agenda heddiw—yr eitem honno yw'r ddadl fer. Gofynnaf i Aelodau adael y Siambr yn gyflym ac yn dawel, a dwi'n galw ar Jayne Bryant i gyflwyno'r ddadl fer. Jayne Bryant. 

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 6:27, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud yn y ddadl hon i Mark Isherwood, Jack Sargeant, Hefin David a John Griffiths. Mae lles emosiynol a meddyliol pobl ifanc yn her, a daeth hynny i'r amlwg yn ddiweddar. Cafodd ei gydnabod gan wleidyddion, rhieni, athrawon a chan bobl ifanc eu hunain. Roedd yn dweud llawer fod cynifer o'r bobl ifanc a safodd ar gyfer y Senedd Ieuenctid wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth iddynt. Mae gan bobl ifanc heddiw fwy o wybodaeth ar flaenau eu bysedd nag unrhyw genhedlaeth o'r blaen, ond maent yn wynebu mwy o her ar yr ochr gymdeithasol ac emosiynol o dyfu i fyny. Ein cyfrifoldeb ni yw gwrando a gweithredu. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith niweidiol sylweddol ar gyfleoedd bywyd a chyrhaeddiad pobl ifanc. Yn 2015, canfu ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 47 y cant o boblogaeth Cymru wedi profi o leiaf un profiad niweidiol yn ystod plentyndod cyn eu bod yn 18 oed, a 14 y cant wedi profi pedwar neu fwy o brofiadau o'r fath. Yn aml, bydd agweddau, credoau ac ymddygiad a ddysgir yn ystod y blynyddoedd cynnar iawn hyn yn parhau pan fyddant yn oedolion, ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth a allwn i gefnogi ac annog plant. Os byddwn yn gwneud pethau'n iawn yn gynnar, ceir mynydd o dystiolaeth gynyddol sy'n dangos y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol nid yn unig ar yr unigolyn, ond ar gymdeithas yn gyffredinol.  

Mae ysgol sy'n feddyliol iach yn gweld iechyd meddwl a lles meddyliol cadarnhaol fel rhywbeth sy'n hanfodol i'w gwerthoedd. Ni ellir cyfyngu iechyd a lles emosiynol i wersi'n unig. Rhaid iddo fod yn rhan o ethos yr agwedd ysgol gyfan. Rwy'n falch o ddweud y gwelwyd cynnydd cadarnhaol iawn ar y mater hwn drwy'r Cynulliad a thrwy benderfyniad fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle. Mae Lynne wedi bod wrthi'n frwd yn hyrwyddo lles meddyliol ac emosiynol gwell i'n plant a'n pobl ifanc, ac mae wedi bod yn hyrwyddo dull ysgol gyfan o weithredu. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i waith Lynne a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Lluniodd y pwyllgor adroddiad clir, yn seiliedig ar dystiolaeth, 'Cadernid Meddwl', sy'n gosod heriau i Lywodraeth Cymru. Canfu 'Cadernid Meddwl' gonsensws eang fod lleoliadau ysgol yn allweddol i hyrwyddo lles emosiynol ac iechyd meddwl da, fod angen ymgorffori'r dull ataliol o fewn ethos ysgol, nid yn unig yn y gwersi a addysgir, ac nad athrawon yn unig sydd â chyfrifoldeb, ond fod galw am weithio ar y cyd rhwng gweithwyr proffesiynol ar draws y sectorau—mae iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a gwaith ieuenctid yn allweddol.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 6:30, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o ddweud nad oes yn rhaid i chi edrych yn rhy bell yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Casnewydd i ddod o hyd i enghreifftiau o ysgolion sy'n ceisio arddel yr union egwyddorion hyn—ysgolion sy'n gwneud gwaith ardderchog yn meithrin ein plant a'n pobl ifanc, ac yn rhoi cynnig ar ffyrdd arloesol o roi lles myfyrwyr yn y canol ym mhopeth a wnânt. Mae Ysgol Gynradd Millbrook yn y Betws yn ysgol sydd wedi croesawu'r agwedd ysgol gyfan, ac mae'n ei wneud yn dda. I roi rhywfaint o gefndir, cymuned o 8,000 o bobl yw Betws. Mae'n ardal sydd â lefelau uchel o amddifadedd, gyda chwe ardal gynnyrch ehangach haen is ar yr ystâd.

Mae'r tîm arweinyddiaeth yn ysgol Millbrook wedi bod yn ymchwilio i ddulliau o wella cyfleoedd bywyd a chyrhaeddiad plant ers flynyddoedd lawer. Maent wedi edrych am arferion da yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Eu harwyddair yw 'Dysgu am ofalu, gofalu am ddysgu', a'u cenhadaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy. I fod yn fwyaf effeithiol, eu nod yw ymgysylltu â phlant a'u teuluoedd o oedran cynnar iawn. Athroniaeth Millbrook yw bod plant hapus yn dysgu. Maent yn teimlo'n angerddol fod angen pentref cyfan i fagu plentyn, ac yn credu, drwy annog teuluoedd, a'r gymuned, y gellir rhoi'r cyfle gorau un i bobl ifanc gyflawni. Ethos yr ysgol yw edrych tuag allan. Maent yn annog plant a theuluoedd i rannu diwylliannau, ac i ehangu gorwelion. Mae gan yr ysgol ystafell ddosbarth Confucius ar y safle, ac maent yn dysgu Mandarin.

Gan weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd, a phartneriaid allweddol eraill, maent wedi datblygu dull aml-asiantaeth o weithredu, gan dreialu menter Rhoi Plant yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, dull sy'n seiliedig ar le i leihau anghydraddoldebau a lliniaru effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Yn gynharach eleni, cefais y fraint o ymweld â'r ysgol, gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a gwelsom yn uniongyrchol y ffordd yr oedd hyn yn gweithio, ac ni allai beidio â gwneud argraff fawr arnoch. Ers ei sefydlu, maent wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant. Y ffactor mwyaf dylanwadol yn hyn yw'r ffordd y mae asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd. Mae pob perthynas a ffurfir yn seiliedig ar y gwahaniaeth y gallai ei wneud i'r gymuned, ac i fywyd yr unigolyn ifanc. Mae wedi golygu nad yw'r partneriaethau hyn yn weithredoedd ar hap o gymorth mwyach, ond wedi'u hystyried a'u cynllunio'n ofalus.

Dywed pennaeth ysbrydoledig Millbrook, Lindsey Watkins, mai'r gobaith, pan ddaw rhywun i'r ysgol, yw eu gwneud i deimlo eu bod yn cael eu croesawu, ac mae hynny'n treiddio drwy'r adeilad, fel bod yr holl asiantaethau yn cael eu gweld fel un tîm di-dor. Un o'r asedau yn Millbrook yw ystafell deuluol bwrpasol. Mae'n galluogi'r ysgol i ddarparu caffi lles a chyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar i deuluoedd. Mae'r ystafell hefyd yn caniatáu i deuluoedd ddod i gysylltiad ag asiantaethau eraill yn anffurfiol, sy'n helpu i feithrin perthynas ac ymddiriedaeth rhwng asiantaethau a theuluoedd. Er enghraifft, mae rhai teuluoedd wedi hunangyfeirio at y tîm atal. Yn ogystal, mae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth o raglenni dysgu teuluol a gweithgareddau i'r teulu sy'n cefnogi lles.

Mae Millbrook yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn darparu pecyn pwrpasol o gymorth lles i blant a theuluoedd ar draws yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys cymorth llythrennedd emosiynol ac amrywiaeth o raglenni anogaeth a lles. Defnyddir y rhain i ddarparu ymyrraeth gynnar, yn enwedig pan fydd plentyn wedi wynebu trawma yn eu bywyd. Rhoddodd un unigolyn ifanc a oedd wedi profi trawma ddisgrifiad o'u profiad—ac rwy'n dyfynnu: 'Er bod y rhan fwyaf ohonom yn wynebu bwmp yn y ffordd ar ryw adeg, cefais fwmp yn y ffordd pan wahanodd fy rhieni ac roedd fy mam yn sâl iawn. Roeddwn i mor drist, roeddwn i'n arfer dod i'r ysgol bob dydd a chrio. Ond roedd hi'n iawn, oherwydd gallwn siarad â Miss. Bob bore, pan fyddwn i'n dod i mewn yn drist, byddai'n paratoi diod i mi, byddem yn eistedd a chael sgwrs, ac roeddwn i'n teimlo'n well. Rwy'n iawn nawr, ond rwy'n gwybod, pe bawn i ei hangen, byddai hi yno i mi.'

Mae gwaith partneriaeth Millbrook hefyd wedi gweld perthynas yn ffurfio gydag ysgol arloesol arall Rhoi Plant yn Gyntaf yng Ngorllewin Casnewydd, Ysgol Gynradd Pilgwenlli. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddwy ysgol, mewn dwy gymuned, gydag un dull. Mae'r ddwy ysgol dan sylw wedi ymchwilio i ffyrdd o adeiladu gwytnwch yn y ddwy gymuned, ac mae'r plant wedi bod yn ganolog i'r gwaith hwnnw. Gan weithio gyda sefydliadau fel Barnardo's Cymru ac Achub y Plant Cymru, mae grwpiau o ddisgyblion o Millbrook a Philgwenlli wedi gweithio gyda'i gilydd i ddysgu sut i gynnal eu cynlluniau ymgynghori cymunedol eu hunain. Mae plant yn cael eu grymuso ac maent yn dysgu am hawliau'r plentyn, democratiaeth a dinasyddiaeth, gan weithio gyda'r gymuned i sicrhau newid cadarnhaol.

Mae Ysgol Gynradd Pilgwenlli hefyd wedi datblygu i fod yn ysgol gynradd sy'n arwain y sector mewn darpariaeth anogaeth, ac roeddwn yn falch o ymuno â'r Gweinidog Addysg ar ymweliad ag Ysgol Gynradd Pilgwenlli i weld hyn ar waith yn ymarferol. Mae anogaeth yn cefnogi'r disgyblion mwyaf difreintiedig ac fe'i hargymhellir yn benodol gan Estyn fel dull o gefnogi plant sy'n derbyn gofal. Mae'r elusen nurtureuk yn dathlu eu hanner canmlwyddiant yn 2019, ac rwy'n falch o weld eu bod yn cefnogi 40 o ysgolion yng Nghymru gyda'u rhaglen anogaeth. Agorodd Pilgwenlli ei hystafell anogaeth gyntaf yn 2004. Mae'n cynnig man lle y gall plant ddysgu mewn lleoliad anogaeth a gall eu rhieni ymuno â hwy am ran o'r wythnos. Mae gan bob disgybl ddosbarth sylfaenol, ond maent yn mynychu'r ystafell anogaeth deuluol am dros hanner eu hwythnos. Maent yn dysgu ochr yn ochr â'u rhieni am 10 y cant i 20 y cant o'u hamser, a blaenoriaeth ddatganedig Pilgwenlli yw

'galluogi ein plant i ffurfio ymlyniadau gyda phobl eraill, gwneud y dewisiadau cywir a deall pam maent yn gwneud y dewisiadau hyn—bod yn gryf a myfyriol.'

Ysgol arall sydd newydd ddechrau gwneud hyn yw Ysgol Gynradd Llys Malpas. Maent wedi bod ar y rhaglen anogaeth genedlaethol i ysgolion ers blwyddyn ac agorodd yr ysgol ystafell anogaeth newydd ym mis Medi ar gyfer disgyblion sydd angen y cymorth mwyaf. O fewn tair wythnos, dywedodd yr ysgol eu bod eisoes wedi gweld yr effaith y mae'r ystafell anogaeth wedi'i chael ar gefnogi plant a gwneud iddynt deimlo'n ddiogel. Mae profiad Pilgwenlli a Llys Malpas o fanteision y dull hwn yn debyg i brofiad Millbrook. Dywedant fod hyn yn gweithio'n fwyaf effeithiol pan fo'r ysgol gyfan wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o ymgysylltiad cymdeithasol ac addysgol pawb, a phan fo grwpiau anogaeth yn cyfrannu'n gadarnhaol ac yn gweithredu diwylliant ac arferion ysgol gyfan, gan hyrwyddo amgylchedd mwy anogol drwy'r ysgol gyfan.

Mae gwaith yr ysgolion hyn yn fy etholaeth wedi gwneud cryn argraff arnaf ac wedi fy nghalonogi a buaswn yn annog holl Aelodau'r Cynulliad, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, i fynd i weld ysgol sydd wedi mabwysiadu dull ysgol gyfan yn eu hardal. Ni all ysgolion arwain dull ysgol gyfan ar eu pen eu hunain. Daw'r adroddiad 'Cadernid Meddwl' i'r casgliad

'mae’n hanfodol datblygu dull ysgol gyfan, ymgorffori lles yn ethos yr ysgol gyfan, y cwricwlwm, a hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y staff. Mae angen newid sylweddol i wireddu’r uchelgais hon.'

Mae gennym gyfle gwych a rhaid inni arwain ar hyn. Yn dilyn adroddiad y pwyllgor, gwn fod grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y cyd wedi'i sefydlu i gyflymu'r gwaith hwn. Diolch i'r Gweinidog am ei gwaith ar hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd cynnydd yn cael ei wneud yn gyflym. Mae ysgolion cynradd Millbrook, Llys Malpas a Philgwenlli yn enghreifftiau gwych. Edrychaf ymlaen at adeg pan fydd holl blant Cymru yn gallu elwa o'r dull ysgol gyfan.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 6:38, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

O ran y dull anogaeth, roeddwn am rannu enghraifft yn fy etholaeth o'r un agwedd ysgol gyfan at anogaeth. Mae Ysgol Gynradd Nant-y-Parc yng nghwm Aber yn cynnwys ymdrechion dyddiol i ddeall anghenion emosiynol disgyblion gan athrawon, grwpiau llythrennedd emosiynol a chymorth ar gyfer lles staff. Mae'r ysgol yn cynnal grwpiau llythrennedd emosiynol ar draws y grwpiau blwyddyn yn yr ysgol ac maent hefyd yn helpu gydag anawsterau megis profedigaeth, er enghraifft. Dywedodd un aelod o staff wrthyf—ac rwyf am eu dyfynnu: 'Mae rhoi pwyslais mawr ar les yn caniatáu i staff a disgyblion deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae wedi caniatáu i mi ffurfio perthynas waith bositif ac rwy'n teimlo ysgogiad i roi i'r disgyblion gan fy mod i'n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 6:39, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am roi rhywfaint o amser i mi yn y ddadl bwysig hon, a diolch yn bersonol i Jayne hefyd? Fel un sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael, fel y dywedais droeon, rwy'n cydnabod y gefnogaeth rydych chi'n ei rhoi i eraill a'r gofal am eu lles hefyd. Felly, diolch i chi, Jayne.

Lywydd dros dro, hoffwn sôn am ysgol yn fy etholaeth i hefyd, Ysgol Tŷ Ffynnon, sydd wedi mabwysiadu'r dull hwn o weithredu ac mewn gwirionedd, yn gynharach eleni, hi oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gwblhau'r rhaglen anogaeth genedlaethol i ysgolion—rhaglen ddwy flynedd o hyd, ac rwy'n ei chymeradwyo'n llawn i ysgolion eraill gymryd rhan ynddi yng Nghymru. Fel rhan o hyn, mae'r ysgol gyfan wedi cofleidio chwe egwyddor anogaeth, ac mae sesiynau'r grwpiau anogaeth, fel y dywedodd Hefin, yn caniatáu i'w disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n datblygu hunanymwybyddiaeth, yn meithrin hunan-barch, dyfalbarhad a meddwl yn gadarnhaol. Ond mae hynny hefyd yn helpu'r athrawon a'r teuluoedd yn ogystal; mae'n ymwneud â gofalu am ein gilydd, bod yn garedig wrth ein gilydd a dangos parch tuag at ein gilydd drwy gydol y dydd. Felly, rwy'n falch iawn o'r ysgol yn fy etholaeth i, Ysgol Tŷ Ffynnon, ac rwy'n gwybod ei bod yn anrhydedd iddynt fod yr ysgol gyntaf i gael ei galw'n ysgol anogaeth yng Nghymru, ond nid yn unig hynny, yn ysgol anogaeth i'r gymuned gyfan hefyd. Felly, diolch, Jayne; diolch i chi, Lywydd.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 6:40, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi longyfarch Jayne hefyd am gyflwyno'r set bwysig a blaengar hon o faterion i'r Cynulliad heddiw? Mae mor bwysig i blant gael y dechrau gorau mewn bywyd, onid yw? Nid oes yr un ohonom yn gwybod beth y gall bywyd ei daflu atom, felly mae datblygu gwytnwch emosiynol mor bwysig dros holl lwybr ein bywyd. Fel eraill, hoffwn innau dynnu sylw at ysgol yn fy etholaeth, Ysgol Gynradd Somerton, a gafodd gydnabyddiaeth gan Estyn am ei bod yn dangos esiampl dda iawn mewn perthynas â'r dull anogaeth. Maent wedi bod yn cynnal rhaglen anogaeth genedlaethol nurtureuk i ysgolion, ac mae'r staff yno'n credu ei bod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gadarnhaol i'r disgyblion yn yr ysgol honno. Os caf innau, fel Hefin, ddyfynnu un o aelodau'r staff a ddywedodd, 'Mae wedi helpu o ddifrif i newid yn sylweddol er gwell, gyda hyder a hunan-barch cynyddol, rhannu a chydweithredu, a chynhyrchu gwell strategaethau ar gyfer ymdopi mewn gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae ymddygiad a'r agweddau at ddysgu i gyd wedi gwella.'

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:41, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, clywsom fod 40 o ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd yn dilyn rhaglen anogaeth genedlaethol nurtureuk i ysgolion, i adeiladu dull anogaeth ysgol gyfan, ond hefyd, yn ôl ymchwil nurtureuk, yn 2015, roedd 144 o ysgolion yng Nghymru yn cynnig rhyw fath o ddarpariaeth anogaeth, cynnydd o 101 yn 2007. O ran gwaith ysgolion yng ngogledd Cymru, clywsom gyfeiriad gan Jack at Ysgol Tŷ Ffynnon yn Shotton, ond hefyd Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon—y ddwy'n enghreifftiau ardderchog o leoliadau'n mabwysiadu agwedd ysgol gyfan at anogaeth. Rwyf wedi rhoi sylw yn aml i waharddiadau o ysgolion, ac yn enwedig y modd y mae'r rhain yn effeithio'n anghymesur ar ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Ysgol Maesincla wedi gweld gostyngiad yn nifer y gwaharddiadau ers iddi agor ei grwpiau anogaeth a mabwysiadu dull ysgol gyfan. Yn yr un modd, yn Shotton, mae Ysgol Tŷ Ffynnon wedi dweud, yn ystod ei sesiynau grŵp anogaeth, fod ei disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddatblygu hunanymwybyddiaeth, i feithrin hunan-barch, dyfalbarhad a meddwl yn gadarnhaol, sy'n cefnogi eu lles, eu hymddygiad, ac felly, eu dysgu.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 6:43, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar y Gweinidog Addysg i ymateb—Kirsty Williams.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jayne am gyflwyno'r ddadl hon i ni heddiw ac am ddisgrifio arferion gwych ei hysgolion lleol. Mae'n rhoi pleser mawr bob amser i mi glywed gan Aelodau'r Cynulliad am y gwaith gwych y mae ein hathrawon a'n staff cymorth yn ei wneud bob dydd mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Fel y dywedwyd eisoes, mae hwn yn fater eithriadol o bwysig, ac yn un y credaf ein bod yn gwneud cynnydd da arno, yn enwedig ers cyhoeddi adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fis Ebrill diwethaf. Fel Jayne, hoffwn ddiolch i holl Aelodau'r pwyllgor hwnnw am eu gwaith yn y maes hwn, a chydnabod yn arbennig gyfraniad Lynne Neagle i wthio'r agenda hon yn ei blaen. Mae gennym oll rôl a chyfrifoldeb i hybu lles meddyliol a meithrin gwytnwch pobl ifanc. Mae ysgolion yn bendant ar y rheng flaen yn y mater hwn, a dyna pam y mae angen y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ar staff ysgol i gefnogi ein plant. Nawr, nid yw hynny'n golygu bod staff ysgol yn dod yn arbenigwyr mewn seicoleg neu seiciatreg, ond mae'n golygu y gallant weld pan fydd plentyn yn cael trafferth yn emosiynol, gallant adnabod arwyddion trallod ac yn hollbwysig, gallant gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt i alluogi person ifanc i barhau i gael addysg.

Mae ein cynllun gweithredu cenhadaeth ein cenedl yn nodi sut y bwriadwn wella'r system ysgolion drwy ddatblygu cwricwlwm trawsnewidiol a threfniadau asesu a fydd yn gosod lles yn ganolog yn ein system addysg. Ein cwricwlwm newydd i Gymru yw'r angor i'n hymrwymiad i les emosiynol, er mwyn cefnogi pobl ifanc i ddod yn unigolion iach, hyderus, gan adeiladu eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu eu hunan-barch, eu gwytnwch a'u hempathi.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 6:45, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Ond beth y mae hynny'n ei olygu'n ymarferol mewn gwirionedd a beth yw agwedd ysgol gyfan? Dywed athrawon wrthym eu bod yn pryderu am iechyd meddwl eu myfyrwyr. Teimlant ei bod yn ofynnol iddynt ymdrin â materion iechyd meddwl y tu allan i'w cymhwysedd fel athrawon, ac maent yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael cefnogaeth gwasanaethau arbenigol. Mae'n amlwg fod angen i athrawon gael help a chymorth i ymateb i blant sy'n profi anawsterau fel gorbryder, hwyliau drwg a hunan-niwed cymhellol neu anhwylderau ymddygiad.

Ond mae'n bwysig hefyd, rwy'n credu, i ni beidio â gwneud y broses o dyfu i fyny yn un feddygol. Dyma a ddywedodd y bobl ifanc eu hunain wrthym yn yr adroddiad 'Gwneud Synnwyr' yn 2016, a luniwyd gan bobl ifanc, ac sy'n cynrychioli eu barn. Mae bron i 40 y cant yn yr arolwg hwnnw'n dweud bod eu hathro'n berson y byddai'n well ganddynt gael cymorth ganddynt. Datblygwyd y thema hon ymhellach yn 'Cadernid Meddwl', a dynnodd sylw at rôl bwysig addysg wrth fynd i'r afael ag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc. Ac yn benodol, anghenion yr hyn a elwir yn 'ganol coll', pobl ifanc sydd â phroblemau emosiynol go iawn ond nad ydynt o anghenraid yn dioddef salwch meddwl ac yn aml, ni chânt lawer o gymorth.

A dyna pam, fel y cyfeiriodd Jayne, y sefydlodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y cyd ym mis Medi 2017. Daeth arbenigwyr o bob rhan o'r maes addysg ac iechyd at ei gilydd i'n cynghori ar y gwaith sydd angen i ni ei wneud i gyflwyno agwedd ysgol gyfan tuag at ymdrin â lles emosiynol a meddyliol gan sicrhau bod pawb sy'n gweithio yn ein hysgolion, nid athrawon yn unig, yn gallu cyfrannu'n gadarnhaol at les pobl ifanc.

Pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor ym mis Mehefin, nodais fy mod yn ymrwymedig i gynhyrchu fframwaith a fydd yn cynorthwyo ysgolion i ddatblygu a gweithredu agwedd ysgol gyfan sy'n gyson, a bydd yn rhoi arweiniad i ysgolion ar asesu eu hanghenion a'u cryfderau eu hunain o ran lles, a'u cynorthwyo i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a nodir yn dilyn asesiad, wedi'u cefnogi gan drefniadau monitro a gwerthuso cadarn. Byddwn yn cefnogi ysgolion yn y gwaith hwn gydag ystod o adnoddau i'w helpu i hyrwyddo lles meddyliol.  

Rwy'n falch o ddweud nad ydym yn dechrau gyda thudalen wag o bapur. Fel y clywsom gan yr Aelodau o amgylch yr ystafell hon, mae gennym eisoes sylfeini da iawn y gallwn adeiladu arnynt. Er enghraifft, fel y dywedodd Jayne, ers fy ymweliad ag Ysgol Gynradd Pilgwenlli yng Nghasnewydd y llynedd, gwn fod mwy o ysgolion—mwy a mwy—yn cydnabod bod grwpiau anogaeth yn ffordd brofedig o helpu pobl ifanc yn y cyfnod cynradd ac uwchradd. Mae'n eu helpu i ddatblygu sgiliau ymddiriedaeth a chyfathrebu ac yn gwella eu hunan-barch. A gallant fod yn effeithiol iawn pan fydd pobl ifanc wedi dioddef trawma difrifol sydyn, pan fyddant ar fin dod yn ddisgyblion sy'n gwrthod mynd i'r ysgol, a hefyd fel cymorth i rieni a gofalwyr adeiladu pontydd gydag ysgolion ac addysg ac i'w helpu i ennyn eu diddordeb yn addysg eu plant, pan nad ydynt hwy eu hunain yn aml wedi cael profiad cadarnhaol o addysg o reidrwydd pan oeddent yn fach.

Mae ein gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion yn cefnogi dros 11,500 o bobl ifanc bob blwyddyn, ond rwy'n cydnabod bod gormod o amrywiad o hyd yn yr amseroedd aros ar gyfer y gwasanaethau hynny, a dyna pam y mae'r Gweinidog iechyd a minnau wedi cytuno'n ddiweddar i roi arian ychwanegol tuag at ymdrin â pheth o'r amrywiad yn y ddarpariaeth, a mynd i'r afael â rhestri aros hir a hyrwyddo trefniadau cydweithredol ar draws awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn gwella'r ddarpariaeth. Mae'r cyllid hwn yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £2.5 miliwn eleni tuag at wella, nid yn unig y ddarpariaeth gwnsela, ond hefyd i hyfforddi staff ein hysgolion mewn perthynas â'u lles emosiynol eu hunain a'u myfyrwyr, ac i ddarparu ac i brofi ymyriadau cyffredinol ac wedi'u targedu yn yr ysgol.

Ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, roeddwn hefyd yn falch iawn o lansio ein canllawiau newydd ar hunanladdiad a hunan-niwed, a ddatblygwyd yn benodol i gynorthwyo athrawon a gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â phobl ifanc yn rheolaidd. Mae'r canllawiau hynny'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a rheoli hunan-niwed a meddyliau hunanladdol yn ddiogel pan fyddant yn codi. Mae'n darparu ffynhonnell gyflym a hygyrch o gyngor ac arferion da i addysgwyr. Os nad yw'r Aelodau wedi cael cyfle eto i ddarllen yr adnoddau hynny, buaswn yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r gweithwyr proffesiynol a helpodd i'w cynhyrchu.  

Mae ein cynlluniau peilot mewngymorth CAMHS i ysgolion hefyd yn dangos manteision gwirioneddol ers eu lansio, ac rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i ymestyn y cynlluniau peilot tan fis Rhagfyr 2020 i gyd-fynd ag adroddiad gwerthuso terfynol y rhaglen honno, a chafodd hyn ei gefnogi gan gyllid ychwanegol. Mae'r cynlluniau peilot yn dangos bod datblygu cysylltiadau hollbwysig o'r fath—ac mae Jayne wedi siarad am hyn droeon—ar draws ffiniau sefydliadol yn allweddol i sicrhau llwyddiant. Mae staff yr ysgol yn nodi'r budd sy'n deillio o gael cyswllt y gallant drafod materion yn uniongyrchol â hwy, ac mewn modd amserol, sy'n hollbwysig. Mae hyn o fudd nid yn unig i bobl ifanc ond hefyd i athrawon sy'n teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo'n well i ddiwallu anghenion eu plant a'u pobl ifanc.

Ond rwy'n gwybod—rwy'n gwybod yn iawn—y gallwn wneud cymaint mwy. Mae arnaf eisiau adeiladu ar y momentwm hwn drwy ddatblygu mwy o weithgarwch i gefnogi athrawon fel y bydd ganddynt well dealltwriaeth o ddatblygiad plant, yn enwedig yn ystod blynyddoedd tyngedfennol y glasoed, sy'n gallu bod yn anodd iawn i bawb, a'r wybodaeth i ddysgu ac ymwneud â materion sy'n dod i'r amlwg ynghylch lles emosiynol a meddyliol dysgwyr. A chan weithio gyda'n prifysgolion, byddwn yn datblygu adnoddau dysgu ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac yn sicrhau bod cymorth tebyg ar gael i athrawon presennol.

Mae hefyd yn hanfodol i mi ein bod yn parhau i ymgynghori â'r bobl ifanc eu hunain ynglŷn â pha gymorth pellach y dylem fod yn ei ddarparu iddynt. A dyna pam ein bod wedi cynnull grŵp rhanddeiliaid ieuenctid, o gefndiroedd daearyddol a chymdeithasol amrywiol, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eu hunain. Rhaid i mi ddweud, mae eu hymrwymiad i'r broses, eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd di-ben-draw wedi creu argraff fawr arnaf. Ynghyd â Senedd Ieuenctid Cymru, sydd wedi cytuno, fel y clywsom, y dylai cymorth emosiynol ac iechyd meddwl fod yn un o'u prif ystyriaethau rwy'n siŵr y byddant hwy, ynghyd â Lynne Neagle, yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ein gwaith yn y maes hwn.

Fel pawb sydd ar ôl yma yn y Siambr heno, rwyf am i bob person ifanc yng Nghymru ffynnu. Rwyf am iddynt ddysgu ac rwyf am iddynt lwyddo, yn enwedig o ran datblygu agwedd ysgol gyfan tuag at gefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd emosiynol a lles. Nid yw'n fater o un neu'r llall, Lywydd dros dro, mae yr un mor bwysig, yn rhan annatod o'u gallu i lwyddo mewn addysg. Ac rwy'n awyddus, unwaith eto, i ddiolch i Jayne a'r cyd-Aelodau am eu cyfraniadau heno. Diolch yn fawr.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 6:52, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:52.