Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 25 Medi 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth y Gweinidog Cyllid ddatganiad yn nodi ei barn am oblygiadau cylch gwariant 2019 Llywodraeth y DU i Gymru, ac yn hwnnw cadarnhaodd farn y Llywodraeth y dylid seilio penderfyniadau gwariant y gyllideb ar wyth maes blaenoriaeth. Pam nad yw addysg oedran ysgol yn un o'r meysydd blaenoriaeth hynny?