1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 25 Medi 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth y Gweinidog Cyllid ddatganiad yn nodi ei barn am oblygiadau cylch gwariant 2019 Llywodraeth y DU i Gymru, ac yn hwnnw cadarnhaodd farn y Llywodraeth y dylid seilio penderfyniadau gwariant y gyllideb ar wyth maes blaenoriaeth. Pam nad yw addysg oedran ysgol yn un o'r meysydd blaenoriaeth hynny?
Yr hyn y cyfeiriai'r Gweinidog ato yw'r meysydd blaenoriaeth trawsbynciol sydd gan y Llywodraeth. Mae un o'r rheini'n cynnwys y blynyddoedd cynnar. Mae'r blynyddoedd cynnar yn rhan o'n system addysg. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod gan ysgolion y gyllideb orau sy'n bosibl. Mae'r Gweinidog Cyllid wedi cyhoeddi, a ninnau bellach wedi cael rhywfaint o fanylion am ein cyllideb refeniw, y byddwn yn cyflwyno'r gyllideb ar gyfer y Llywodraeth gyfan yn gynt, ym mis Tachwedd.
O gofio'r newidiadau enfawr a fydd yn digwydd mewn ysgolion, yn enwedig gyda'r newid yn y cwricwlwm a'r paratoadau ar gyfer hynny, ond hefyd y cwynion hirsefydlog a difrifol iawn a wneir gan ysgolion yn awr am eu cyllid uniongyrchol, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy siomi nad wyf wedi gweld hynny'n fwy penodol yn themâu trawsbynciol y Llywodraeth, oherwydd, wrth gwrs, os na chewch addysg yn iawn, mae'n effeithio ar bob maes gwariant arall wrth inni symud ymlaen.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r hwb o 2.3 y cant yn uwch na chwyddiant i floc Cymru. Disgwylir y bydd dros £2 biliwn yn dod i Lywodraeth Cymru o gyllideb ysgolion y DU hefyd—ysgolion yn benodol, nid addysg. Mae hynny dros dair blynedd, ac rwy'n derbyn bod y setliad blynyddol yn gyfyngiad ar gynllunio. Rydych wedi gweld adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllid i ysgolion, a ddaeth i'r casgliad fod perygl real ac uniongyrchol iawn o gyllid annigonol i ysgolion. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog llywodraeth leol yn cyflwyno'r achos dros sicrhau mwy o arian i'w phortffolio, mwy o arian i gynghorau. A fyddwch yn gadael y gwaith o ddod o hyd i'r cyllid uniongyrchol ychwanegol sydd ei angen ar ysgolion iddi hi?
Rwy'n ddiolchgar fod yr Aelod wedi cydnabod yr anawsterau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru yn sgil penderfyniad ei chymheiriaid yn San Steffan i roi cyllideb ddangosol ar gyfer un flwyddyn yn unig i addysg, tra'u bod wedi bod mor garedig â rhoi cyllideb ddangosol tair blynedd i'r system addysg yn Lloegr, ac mae hynny, yn wir, yn gwneud pethau'n anos i ni.
Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol fy mod wedi croesawu gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllid addysg. Rwyf wedi derbyn holl argymhellion adroddiad y pwyllgor hwnnw, gan gynnwys adolygiad o gyllid addysg yng Nghymru. Pan drafodir yr adroddiad hwnnw yn ddiweddarach y tymor hwn, edrychaf ymlaen at roi rhagor o fanylion i'r Aelodau ynglŷn â sut y byddwn yn ymateb yn llawn i hynny.
O ran y gyllideb eleni, mae'r Gweinidog llywodraeth leol a minnau'n cytuno bod yn rhaid sicrhau bod awdurdodau lleol, sef prif ffynhonnell cyllid ein hysgolion, yn ogystal â'r maes addysg yn ei gyfanrwydd, yn cael blaenoriaeth.
Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb hwnnw, Weinidog, oherwydd er ein bod yn cydnabod mai'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r cyllid uniongyrchol, pryder y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fel y gwyddom, yw nad yw'r cyllid hwnnw wedi'i ddiogelu mewn unrhyw ffordd. Pan fyddwch yn cynhyrchu canlyniadau eich adolygiad, ac yn ymateb i'r ddadl mewn gwirionedd, bydd yn ddiddorol iawn gweld a fyddwch mewn sefyllfa i ddweud sut y gellir diogelu unrhyw gyllid uniongyrchol o fewn cyllideb well, gobeithio, i awdurdodau lleol.
Rwyf am ofyn rhywbeth gwahanol i chi yn awr, oherwydd y penwythnos hwn gwelsom sylw yn y cyfryngau i bryderon ynghylch cynnwys gwersi addysg rhyw i blant ifanc iawn mewn rhannau o Loegr. Gwn fod gwneud addysg grefyddol ac addysg rhyw yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd yn benderfyniad dadleuol eisoes, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i, hyd yn oed, yn teimlo ychydig yn anghyfforddus am y potensial o dynnu sylw plant chwech oed at fastyrbio, yn enwedig pan fyddwn ni hefyd yn gofyn iddynt ddeall a siarad yn agored am unrhyw gyffwrdd amhriodol gan oedolion. Nawr, nid oes syniad gennyf pa mor gywir yw'r adroddiadau hyn, ond rwy'n credu y byddai teuluoedd ac athrawon ledled y wlad yn gwerthfawrogi datganiad gennych chi i dawelu eu meddyliau am yr hyn y credwch chi y dylai addysg rhyw sy'n addas i'r oedran ei gynnwys yng Nghymru.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle; os ydym am gyflawni nodau cwricwlwm a arweinir gan ddiben, ac os ydym am sicrhau bod pob plentyn sy'n gadael ein hysgolion yn hapus ac yn iach, yna credaf fod addysg rhyw a pherthnasoedd sy'n addas i oedran a datblygiad yn ffordd bwysig o gyflawni dibenion ein cwricwlwm. Yn amlwg, mae hwn yn bwnc sensitif, ac mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod problem yn codi mewn perthynas ag amddiffyn plant hefyd. Ond rwyf am ei sicrhau hi a phob Aelod yma, a'r gymuned ehangach yn wir, y bydd cynnwys addysg rhyw a pherthnasoedd yn cael ei ddatblygu mewn modd sensitif a gofalus iawn, gyda'r cyngor gorau gan weithwyr proffesiynol a'r rhai sydd wedi cynghori'r Llywodraeth hyd yn hyn ar yr angen i sicrhau bod addysg rhyw a pherthnasoedd ar gael i blant yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Lywydd. Mae'r Blaid Lafur wedi dweud y byddan nhw'n cael gwared ar ysgolion preifat, gan ailddosbarthu eu heiddo i'r wladwriaeth. Fe basiwyd cynnig yn eu cynhadledd i integreiddio ysgolion preifat i sector y wladwriaeth. O gofio mai dim ond 2.2 y cant o blant Cymru sy'n cael eu dysgu mewn ysgolion preifat, ydych chi'n cytuno mai mater gweddol hawdd byddai symud yn syth i gael gwared ar ysgolion preifat yng Nghymru?
Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i gael gwared ar ysgolion preifat yng Nghymru.
Iawn. Wel, fydd hi'n ddiddorol iawn clywed y drafodaeth—neu, mi fyddai'n ddiddorol petawn ni'n cael clywed y drafodaeth yn y Cabinet efo'ch cyd-Aelodau Llafur ynghylch hynny, lle mae yna arweiniad clir yn dod gan eu cynhadledd nhw. Felly, diddorol clywed eich ymateb chi yn fanna.
Mi fyddai Llafur hefyd yn ymgyrchu i ddileu statws elusennol oddi ar ysgolion preifat, a dwi'n nodi bod ymgynghoriad yn mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru ar hyn a dwi'n edrych ymlaen at weld ysgolion preifat yn talu trethi. Mae hyn, wrth gwrs, yn codi cwestiynau am Ysgol Gymraeg Llundain, a dwi'n edrych ymlaen at weld sut rydych chi'n bwriadu cynnal y gallu i deuluoedd Cymraeg gael addysg cyfrwng-Cymraeg yn y brifddinas.
Troi at fater arall, mae Suzy Davies wedi cyfeirio'n rhannol at hyn, ond, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf, fe sonioch chi fod yna lobi gryf, neu o leiaf ymateb cryf, yn erbyn cynnwys addysg grefyddol ac addysg cyd-berthynas a rhywioldeb fel rhan statudol o'r cwricwlwm newydd, a hynny heb hawl gan rieni i dynnu eu plant yn ôl o'r gwersi hynny. Dwi yn mawr obeithio nad ydych chi yn meddwl ildio i'r pwysau yma a'ch bod chi'n cytuno efo fi bod rhain yn ddau faes hollbwysig i'w cadw'n faterion statudol yn y cwricwlwm newydd wrth inni anelu at greu dinasyddion iach a hyderus, a chymdeithas sy'n parchu amrywiaeth.
Wel, yn ffodus i ni, Lywydd, mae addysg wedi'i datganoli ac nid oes angen cynhadledd plaid yn Brighton na Bournemouth yn wir i ddweud wrthym sut i weithredu ein system addysg. Nid wyf yn gweld unrhyw broblemau gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn Llundain. Gwyddom fod nifer o'r teuluoedd hynny'n dychwelyd i Gymru ac yn gosod eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yma, ac nid oes gennyf gynlluniau i newid y gefnogaeth i hynny. A gallaf sicrhau'r Aelod nad oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid fy meddwl mewn perthynas â natur statudol addysg grefyddol neu addysg rhyw a pherthnasoedd yn ein diwygiadau i'r cwricwlwm.
Da iawn. Dwi'n falch iawn o glywed yr ateb olaf yna, beth bynnag.
Troi at fater arall, sef polisïau teithio i'r ysgol, mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan Llyr Gruffydd yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol fod yna—a dwi'n dyfynnu—refresh yn mynd i fod i Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a gallwn ddisgwyl hynny yn yr hydref. Mae yna esiamplau o'r angen i greu newid yn codi ar draws Cymru, yn enwedig o safbwynt y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn Fflint, er enghraifft, mae hi'n siomedig bod y cabinet yn fanno yn mynd i fod yn codi tâl ar fyfyrwyr chweched dosbarth ar gyfer eu trafnidiaeth i'r ysgol, sy'n benodol yn effeithio ar fyfyrwyr chweched dosbarth Ysgol Maes Garmon, ac mae yna bosibilrwydd y bydd rhieni yn wynebu cynnydd o 400 y cant yn y gost o anfon plant i chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae'r materion yma mewn perig o danseilio unrhyw fuddsoddiad mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac ymdrechion i gyrraedd at y filiwn o siaradwyr. Felly, a fedrwch chi ymhelaethu ar yr hyn a ddywedodd Gweinidog y Gymraeg am y bwriad yma i edrych ar bolisïau teithio i'r ysgol? Pryd a sut fydd unrhyw adolygiad yn digwydd? A oes yna ffordd i bobl fedru rhoi eu barn drwodd yn ystod yr adolygiad yma, ac ai'r nod, mewn gwirionedd, ydy cryfhau hygyrchedd ein disgyblion at addysg cyfrwng Cymraeg?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol nad yw cludiant i'r ysgol, yn rhyfedd braidd, yn rhan o fy mhortffolio, mae'n rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod, Ken Skates. Ond mae Ken Skates, Eluned Morgan, Julie James a minnau'n gweithio ar y cyd ar ateb polisi i'r sefyllfa rydym ynddi. Mae newidiadau yn sir y Fflint a Chastell-nedd Port Talbot wedi bod yn peri pryder i mi. Deallaf fod y polisi yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi'i ohirio ar hyn o bryd, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr.
Yn achos trafnidiaeth ôl-16, ni ellir gwadu'r ffaith bod plant yn gorfod teithio pellteroedd sylweddol i gael mynediad at ddarpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg. Dylem sicrhau polisi trafnidiaeth sy'n caniatáu iddynt ddilyn eu continwwm addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ni ddylem osod rhwystrau yn ffordd eu gallu i wneud hynny, a dyna pam fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i edrych ar ateb polisi i'r broblem hon.