Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:46, 25 Medi 2019

Diolch, Lywydd. Mae'r Blaid Lafur wedi dweud y byddan nhw'n cael gwared ar ysgolion preifat, gan ailddosbarthu eu heiddo i'r wladwriaeth. Fe basiwyd cynnig yn eu cynhadledd i integreiddio ysgolion preifat i sector y wladwriaeth. O gofio mai dim ond 2.2 y cant o blant Cymru sy'n cael eu dysgu mewn ysgolion preifat, ydych chi'n cytuno mai mater gweddol hawdd byddai symud yn syth i gael gwared ar ysgolion preifat yng Nghymru?